Owain Llwyd a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Mae'r PNAC yn argymell lladd hil gyfan o bobl gyda siamberi nwy?
Dw i ddim yn siwr bod Hitler wedi sôn dim am hynny yn Mein Kampf chwaith, ond dw i'n barod i gael fy nghywiro.
Mi ddadleuodd Hitler yn Mein Kampf fod yr Aryans (yr Almaenwyr yn ei dyb ef) yn hil uwch na gweddill y byd, ac yn gyfrifol am holl rinweddau dynoliaeth. O'r herwydd, y nhw oedd arweinwyr naturiol y byd. Y bygythiad mwyaf i hyn oedd Iddewon, a oedd yn bobl darostyngedig, nad oedd erioed wedi cyfrannu dim byd at ddiwylliant y byd, a oedd yn gomiwnyddion, ac yn rhan o gynllwyn i reoli'r byd. Dadleuodd Hitler yn y llyfr fod angen creu gwlad bur, Almaenaidd, ar dir wedi ei gipio'n ol gan Rwsia, er mwyn galluogi'r Aryans i ffynnu eto.
Ar y llaw arall, mae'r PNAC yn cynnig y canlynol fel amlinelliad o'u safbwyntiau
Project for a New American Century a ddywedodd:• we need to increase defense spending significantly if we are to carry out our global
responsibilities today and modernize our armed forces for the future;
• we need to strengthen our ties to democratic allies and to challenge regimes hostile to our interests and values;
• we need to promote the cause of political and economic freedom abroad;
• we need to accept responsibility for America's unique role in preserving and extending an international order friendly to our security, our prosperity, and our principles.
Sydd yn cynnwys sawl syniad amheus, a sawl syniad da iawn. Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n deg cymharu'r ddau beth?