Sut bo cymaint o "Psychos" wedi rheoli gwledydd???

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Lowri Fflur » Sul 25 Ebr 2004 10:29 pm

RET79 a ddywedodd:
Ffion Larsen a ddywedodd:Bush drwy dwyllo

newidia dy gan boring plis

Y gwir yn lladd.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Sul 25 Ebr 2004 10:32 pm

Mae'r edefyn hwn yn llawn Larseniaid ar hyn o bryd!
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dr Gwion Larsen » Llun 26 Ebr 2004 4:59 pm

GT a ddywedodd:Mae'r edefyn hwn yn llawn Larseniaid ar hyn o bryd!
Ydi wir yn tydi GT :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Ffion1 » Llun 26 Ebr 2004 7:08 pm

RET79 a ddywedodd:
Ffion Larsen a ddywedodd:Bush drwy dwyllo

newidia dy gan boring plis

Taw hen ffasiwn! ti'n undonog rwan!
Rhithffurf defnyddiwr
Ffion1
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 636
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 11:25 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan Garnet Bowen » Maw 27 Ebr 2004 8:50 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Bodau emosiynol ydi pobl, myn diân. Ylwch gasineb Garnet at Pilger, er enghraifft - hyd y gwela i, mae ei farn at gynnwys ei ysgrifennu yn seiliedig ar ymateb emosiynol i arddull 'emosiynol' y cyflwyno.

Wrth gwrs, os oes gen feirniaid Pilger rywbeth mwy sylweddol na "malwr cachu o fri. ffwl sdop" i'w ddweud amdano fo, mi fyswn i'n falch o'i glywed o.

Y rheswm dwi ddim yn or hoff o Pilger ydi fy mod i'n meddwl ei fod o'n rhagfarnllyd. Toes ganddo fo ddim meddwl agored. Byddai newyddiadurwr da yn edrych ar sefyllfa, ac yn ceisio dadansoddi beth sydd o'i le. Mae Pilger yn edrych ar sefyllfa, ac yn ceisio meddwl sut mae posib beio hyn ar America/"y gorllewin".
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Maw 27 Ebr 2004 9:25 am

Garnet Bowen a ddywedodd:

Oes gen ti enghreifftiau penodol o hyn? Lle mae'n amlwg gen ti fod Pilger ymhell o'r nod, felly. Meddwl am ei sgwennu diweddar ar Irac wyt ti, 'ta am ei stwff am thalidomide, tlodi ym Mhrydain o dan Thatcher, dioddefaint cynfrodorion Awstralia, ei reportage o'r fan a'r lle yn Fietnam, Cambodia a Dwyrain Timor, ella? Os ydi cyfalafiaeth orllewinol yn ddi-fai ym mhob un o'r achosion hynny, er enghraifft, wel dyna'r tro cynta i mi glywed amdano fo a dw i am gael fy ngoleuo.

Dw i'n rhyw amau bod chdi wedi dod i gasgliad am werth sylfaenol ei waith ar sail dy ragfarnau gwleidyddol dithau, i chdi gael gwybod yn iawn. :winc:
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sioni Size » Maw 27 Ebr 2004 11:08 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Bodau emosiynol ydi pobl, myn diân. Ylwch gasineb Garnet at Pilger, er enghraifft - hyd y gwela i, mae ei farn at gynnwys ei ysgrifennu yn seiliedig ar ymateb emosiynol i arddull 'emosiynol' y cyflwyno.

Wrth gwrs, os oes gen feirniaid Pilger rywbeth mwy sylweddol na "malwr cachu o fri. ffwl sdop" i'w ddweud amdano fo, mi fyswn i'n falch o'i glywed o.

Y rheswm dwi ddim yn or hoff o Pilger ydi fy mod i'n meddwl ei fod o'n rhagfarnllyd. Toes ganddo fo ddim meddwl agored. Byddai newyddiadurwr da yn edrych ar sefyllfa, ac yn ceisio dadansoddi beth sydd o'i le. Mae Pilger yn edrych ar sefyllfa, ac yn ceisio meddwl sut mae posib beio hyn ar America/"y gorllewin".

Cym on ta - un enghraifft - un enghraifft lle mae o'n dwedu celwydd neu'n camarwain er mwyn beio'r gorllewin. Deud Somalia eto i ni gael sbort.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 27 Ebr 2004 11:32 am

Beth am gymharu'r dyfyniad yma o'r New Statesman

John Pilger a ddywedodd:No one can doubt its [the Milosevic regime] cruelty and atrocities, but comparisons with the Third Reich are ridiculous.

Gyda'r un yma, o'r Mirror

John Pilger a ddywedodd:The current American elite is the Third Reich of our times.

Felly mae cymharu gwlad unbeniaethol sydd a pholisi o lofruddio trigolion ei gwlad ar sail ei ethnigrwydd gyda'r Drydedd Reich yn "ridiculous". Ond mae cymharu America gyda'r Drydedd Reich yn hollol deg. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Maw 27 Ebr 2004 11:52 am

Garnet, sut wyt ti ers tro?

Os wyt ti am gasau pobl am fod yn rhagfarnllyd, mae gen ti ddipyn o gasau o dy flaen. Mae'n debyg gen i bod y rhan fwyaf o newyddiadurwyr yn rhagfarnllyd (darllen y Sun neu'r Mirror), ac yn wir y rhan fwyaf o dy gyd faeswyr. A dweud y gwir rwyt ti'n bod yn rhagfarnllyd yn erbyn y rhagfarnllyd.

Os wyt ti'n drwg leicio rhywun am ei fod yn mynd ati i gamarwain yn fwriadol, gan ddefnyddio ffeithiau mae'n gwybod sy'n ffug ac ati, yna mae hynny'n fater gwahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Owain Llwyd » Maw 27 Ebr 2004 11:57 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Beth am gymharu'r dyfyniad yma o'r New Statesman

John Pilger a ddywedodd:No one can doubt its [the Milosevic regime] cruelty and atrocities, but comparisons with the Third Reich are ridiculous.

Gyda'r un yma, o'r Mirror

John Pilger a ddywedodd:The current American elite is the Third Reich of our times.

Felly mae cymharu gwlad unbeniaethol sydd a pholisi o lofruddio trigolion ei gwlad ar sail ei ethnigrwydd gyda'r Drydedd Reich yn "ridiculous". Ond mae cymharu America gyda'r Drydedd Reich yn hollol deg. :rolio:

Mi fyswn i'n tueddu i gytuno efo'r datganiad cynta. Mae'r ail yn ddarn o rethreg afraid ac anhelpfawr sy'n gadael gôl agored i'r beirniaid hynny sy'n ei chael yn haws dilorni rhai o fanion ei bolemig diweddar na sylwedd ei waith dros y 40 mlynedd diwetha.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron