Owain Llwyd a ddywedodd:Os chwarae ar emosiynau ydi unig gynnwys y ddadl (a dydi hynny ddim yn wir am Pilger),
Bu bron i fi daflu fyny tra'n gwylio 'Breaking the Mirror', pam fu i Pilger panio draw at fedd Veronica Guerin. Piss off, Pilger. Dwi'n dy barchu di fel newyddiadurwr sy'n tynnu sylw at faterion pwysig wedi ei hanwybyddu gan newyddiadurwyr eraill (fel Cambodia, er engraifft), ond llai o'r gor sentimentaleiddio cyfoglyd plis.
Owain Llwyd a ddywedodd:Dydi'r peth llun ar y clawr ddim yn helpu'r ddelwedd gen innau chwaith, ond mae gen i dri llyfr gynno fo ac mae ei lun ar glawr un ohonyn nhw.
Mae'n syniad da. Dwi'n medru ei rhoi nhw mewn chronological order yn dibynnu ar faint o wallt sgen Pilger ar i ben.