Tudalen 6 o 8

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 12:45 pm
gan Sioni Size
Garnet Bowen a ddywedodd:Beth am gymharu'r dyfyniad yma o'r New Statesman

John Pilger a ddywedodd:No one can doubt its [the Milosevic regime] cruelty and atrocities, but comparisons with the Third Reich are ridiculous.


Gyda'r un yma, o'r Mirror

John Pilger a ddywedodd:The current American elite is the Third Reich of our times.


Felly mae cymharu gwlad unbeniaethol sydd a pholisi o lofruddio trigolion ei gwlad ar sail ei ethnigrwydd gyda'r Drydedd Reich yn "ridiculous". Ond mae cymharu America gyda'r Drydedd Reich yn hollol deg. :rolio:


Wel, mae na nifer wedi cymharu'r Project For The New American Century fel 'the Mein Kampf of our times', a mae'n gymhariaeth deg a dilys. Nid yw'r thinktanks adain dde o Cheney, Rumsfeld, Bolton ayyb yn gorfod bod mewn pwer uniongyrchol i gael dylanwad. Ond digwydd bod MAE nhw bellach YN rhedeg America. Mae'r Pentagon eu hunain yn nodi fod oddeutu 6miliwn wedi eu lladd ers yr ail ryfel byd o ganlyniad i 'bolisiau' America. Dydi Milosevic ddim ynddi.
Os mai hyn yw'r gorau fedri di wneud yna dwyt ti ddim yn gwneud job eithriadol o ddilorni Pilger, mwy na di neb arall wedi ei wneud.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 12:56 pm
gan Cwlcymro
Beth am gymharu'r dyfyniad yma o'r New Statesman

John Pilger :

No one can doubt its [the Milosevic regime] cruelty and atrocities, but comparisons with the Third Reich are ridiculous.



Gyda'r un yma, o'r Mirror

John Pilger :

The current American elite is the Third Reich of our times.



Ma'r dyfyniada yma yn profi ma ffwl ydi pilger. Fysa neb call yn gadael i'w eiria ymddangos mewn papur toilet fatha'r Mirror!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:10 pm
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:Wel, mae na nifer wedi cymharu'r Project For The New American Century fel 'the Mein Kampf of our times', a mae'n gymhariaeth deg a dilys.


Oes angen ychwanegu unrhywbeth at hyn?

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:20 pm
gan Garnet Bowen
Owain Llwyd a ddywedodd:Mi fyswn i'n tueddu i gytuno efo'r datganiad cynta. Mae'r ail yn ddarn o rethreg afraid ac anhelpfawr sy'n gadael gôl agored i'r beirniaid hynny sy'n ei chael yn haws dilorni rhai o fanion ei bolemig diweddar na sylwedd ei waith dros y 40 mlynedd diwetha.


Fy meirniadaeth i - fel dwi wedi ei nodi uchod - ydi fod Pilger, y dyddia yma, bob tro yn cymeryd ochr pwy bynnag mae America yn ymladd yn ei herbyn, heb ystyried am eiliad os ydyn nhw'n haeddu ei gefnogaeth. Efallai fod hyn yn deillio o'i brofiadau yn ystod y rhyfel oer, a'r ffaith ei fod o wedi gweld America yn gweithredu mewn ffyrdd anfaddeuol. Y broblem ydi ar ol iddo weld y gweithredoedd yma, mae o'n methu a derbyn y gallai America byth fod ar ochr cyfiawnder.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:28 pm
gan Cwlcymro
Dyna di'r broblam efo darllan gwaith pobl fatha Pilger. Ma Micheal Moore yr un peth. Ma popeth ma nhw yn ei ddweud yn wir, ond ma raid i chdi atgoffa dy hun ma gwrando ar un ochr stori wti, a fod pob ffaith sy ddim yn cefnogi ei barn wedi ei cuddio. Hannar gwir ydy nhw, ond dim celwydd.

Esiampl dda ydi ffilm oliver Stone, JFK. Anodd iawn ydi gwylio honno heb ddod allan yn confinsd fod Lee Harvey oswald yn hollol ddi-euog.
Ond wrth gwrs os fysa na riwun arall yn gwneud ffilm tebyg yn defnyddio mond ffeithia ochr arall y sdori, mi fysa chdi'n siwr ma fo nath a ma idiots ydi'r conspirisists. Ti angan y ddwy ochr i gal sdori wir.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:31 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Wel, mae na nifer wedi cymharu'r Project For The New American Century fel 'the Mein Kampf of our times', a mae'n gymhariaeth deg a dilys.


Oes angen ychwanegu unrhywbeth at hyn?


Oes'na? Mi ydw i heb ddarllen maniffesto PNAC yn llawn na Mein Kampf, felly dw i ddim yn gwybod. Gan ei bod yn ymddangos, ar sail dy ddatganiad hyderus, bod chdi'n gyfarwydd efo cynnwys y ddau, ella gelli di egluro a oes angen ychwanegu rhywbeth neu beidio.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:47 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Mi fyswn i'n tueddu i gytuno efo'r datganiad cynta. Mae'r ail yn ddarn o rethreg afraid ac anhelpfawr sy'n gadael gôl agored i'r beirniaid hynny sy'n ei chael yn haws dilorni rhai o fanion ei bolemig diweddar na sylwedd ei waith dros y 40 mlynedd diwetha.


Fy meirniadaeth i - fel dwi wedi ei nodi uchod - ydi fod Pilger, y dyddia yma, bob tro yn cymeryd ochr pwy bynnag mae America yn ymladd yn ei herbyn, heb ystyried am eiliad os ydyn nhw'n haeddu ei gefnogaeth. Efallai fod hyn yn deillio o'i brofiadau yn ystod y rhyfel oer, a'r ffaith ei fod o wedi gweld America yn gweithredu mewn ffyrdd anfaddeuol. Y broblem ydi ar ol iddo weld y gweithredoedd yma, mae o'n methu a derbyn y gallai America byth fod ar ochr cyfiawnder.


Ella. Mi wna i gadw dy feirniadaeth yma yn fy meddwl y tro nesa bydda i'n darllen Pilger. Ond os ydi 'America' yn cael ei ddefnyddio yn llaw-fer am 'y sefydliad gwleidyddol-milwrol-economaidd Americanaidd', mae gen i fwy o gydymdeimlad efo'i safbwynt nag sydd gen tithau, wrth gwrs.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:56 pm
gan cariadgweno
Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Mi fyswn i'n tueddu i gytuno efo'r datganiad cynta. Mae'r ail yn ddarn o rethreg afraid ac anhelpfawr sy'n gadael gôl agored i'r beirniaid hynny sy'n ei chael yn haws dilorni rhai o fanion ei bolemig diweddar na sylwedd ei waith dros y 40 mlynedd diwetha.


Fy meirniadaeth i - fel dwi wedi ei nodi uchod - ydi fod Pilger, y dyddia yma, bob tro yn cymeryd ochr pwy bynnag mae America yn ymladd yn ei herbyn, heb ystyried am eiliad os ydyn nhw'n haeddu ei gefnogaeth.

Digon teg. Ond mae'n swnio'n debyg iawn i ti t'wel ond mai wastad yn cefnogi America wyt ti. Ma'n bach o shame really bod ti'n gweld natur un llygeidiog ei farn o heb ystyried dy fod di'n aml yn euog o'r un troseddau. Ti'n gwbod, time to take off the blinckers methinks.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:00 pm
gan Dylan
Mae'r PNAC yn argymell lladd hil gyfan o bobl gyda siamberi nwy?

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 2:07 pm
gan Owain Llwyd
Dylan a ddywedodd:Mae'r PNAC yn argymell lladd hil gyfan o bobl gyda siamberi nwy?


Dw i ddim yn siwr bod Hitler wedi sôn dim am hynny yn Mein Kampf chwaith, ond dw i'n barod i gael fy nghywiro.