Owain Llwyd a ddywedodd:O ran diddordeb, Garnet, yn dy farn dithau, be' di'r syniadau 'da iawn' sydd gen PNAC a be' di'r gwerthoedd wyt ti'n meddwl bod chdi'n eu rhannu efo nhw. Oes'na reswm dros feddwl bod 'democratiaeth' iddyn nhw yn fwy na rhyw fath o window dressing?
Fel dwi wedi ei nodi sawl gwaith mewn edefyn (hirfaith) arall, mi ydw i'n credu'n gryf fod gan wledydd "datblygiedig" gyfrifoldeb i ddefnyddio eu dylanwad a'u grym i geisio lledeanu democratiaeth a hawliau dynol drwy weddill y byd. Nid cynllun y PNAC ydi fy ffordd ddelfrydol i o geisio cyflawni hyn, oherwydd y pwyslais ar "values and interests". Ond mae'n well gen i Weriniaethwyr Americanaidd sy'n fodlon rhoi pwyslais ar ddemocratiaeth a "the cause of political and economic freedom abroad", na'r rhai sydd naill ai yn gwrthod ystyried y byd tu hwnt i ffiniau America, neu sydd ddim ond yn fodlon ystyried buddianau America, heb dalu sylw i'r gwerthoedd rhyddfrydol sy'n sylfaen i system wleidyddol y wlad.