Tudalen 8 o 8

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 10:58 am
gan Garnet Bowen
Owain Llwyd a ddywedodd:O ran diddordeb, Garnet, yn dy farn dithau, be' di'r syniadau 'da iawn' sydd gen PNAC a be' di'r gwerthoedd wyt ti'n meddwl bod chdi'n eu rhannu efo nhw. Oes'na reswm dros feddwl bod 'democratiaeth' iddyn nhw yn fwy na rhyw fath o window dressing?


Fel dwi wedi ei nodi sawl gwaith mewn edefyn (hirfaith) arall, mi ydw i'n credu'n gryf fod gan wledydd "datblygiedig" gyfrifoldeb i ddefnyddio eu dylanwad a'u grym i geisio lledeanu democratiaeth a hawliau dynol drwy weddill y byd. Nid cynllun y PNAC ydi fy ffordd ddelfrydol i o geisio cyflawni hyn, oherwydd y pwyslais ar "values and interests". Ond mae'n well gen i Weriniaethwyr Americanaidd sy'n fodlon rhoi pwyslais ar ddemocratiaeth a "the cause of political and economic freedom abroad", na'r rhai sydd naill ai yn gwrthod ystyried y byd tu hwnt i ffiniau America, neu sydd ddim ond yn fodlon ystyried buddianau America, heb dalu sylw i'r gwerthoedd rhyddfrydol sy'n sylfaen i system wleidyddol y wlad.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 11:59 am
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae'n well gen i Weriniaethwyr Americanaidd sy'n fodlon rhoi pwyslais ar ddemocratiaeth a "the cause of political and economic freedom abroad".


A phwy ydi'r creaduriaid prin yma? Yn anffodus, dw i ddim yn dallt wyt ti'n sôn am PNAC yma neu beidio. Rhyddid gwleidyddol ac economaidd tramor? Dw i'n darllen hwnna fel 'gorfodi trefn wleidyddol sy'n gyfeillgar i neo-ryddfrydiaeth ar wledydd y mae eu llywodraethau'n rhy anystywallt i wneud hynny ar ein rhan', ond dyna ni. Mae gen i'r cofnod hanesyddol yn sail i feddwl hyn. Be' di dy ernes dithau o fwriadau sylfaenol anrhydeddus PNAC*?

Efo pob parch, dw i'n dy weld di yn hynod o hygoelus yn hyn o beth. Mae fel taset ti'n barod i roid rhywfath o gydnabyddiaeth i unrhyw un efo acen Americanaidd pan fyddan nhw'n dweud mai achos 'democratiaeth' neu 'ryddid' sy'n eu sbarduno nhw.

* o ddweud bod cynllun PNAC ddim yn ddelfrydol, dw i'n cymryd bod chdi'n meddwl eu bod nhw'n werth-chweil ond ddim yn berffaith. Ymddiheuriadau os ydw i wedi dy gam-ddallt di.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ebr 2004 12:54 pm
gan Garnet Bowen
Dyfynu o amcanion y PNAC ydw i uchod pan ydw i'n son am "political and economic freedom". Er mwyn deallt pam fy mod i'n gweld gwerth y PNAC, mae'n rhaid i chdi ystyried ei safbwynt o fewn cyd-destun syniadaeth geidwadol America. Yn draddodiadol, mae ceidwadwyr Americanaidd yn disgyn i mewn i un o ddwy garfan. Ar un llaw, mae nhw'n dueddol o fod yn gwbwl isolationist - yn ffyddiog bod America yn ddigon mawr a chryf i edrych ar ol ei hun, a fod polisi tramor yn rhywbeth di-angen. Neu, ar y llaw arall, mae nhw'n credu fod polisi tramor yn rhywbeth sydd ond yn bodoli i amddiffyn buddianau America, beth bynnag fo'r gost.

Mae'r PNAC yn symyd y ddadl yn ei blaen drwy roi rol ganolog i ddemocratiaeth a rhyddid gwleidyddol ym mholisi tramor America. Gellid dadlau fod hyn yn ymateb i "blowback", neu yn rhyw fath o gydnabyddiaeth o werth y syniad o hunan-les goleuedig. Ond beth bynnag fo'r rheswm, mae'r syniad o hybu democratiaeth yn ran o'r "project". Wrth gwrs fod amddiffyn buddianau America hefyd yn ganolog i'w syniadau, ond am unwaith, mae 'na gydnabyddiaeth fod cefnogi llywodraethau gormesol yn beth gwrth-gynhyrchiol i'w wneud. Ac mae hyn yn welliant sylweddol ar y syniadau a oedd yn cael eu harddel yn y gorffenol.

Tydw i byth yn debygol o gefnogi'r PNAC, ond mi ydw i'n rhannu rhai o'u hamcanion nhw, ac mi ydw i'n teimlo fod ei cyfraniad nhw i'r ddadl yn llawer mwy cadarnhaol na'r safbwyntiau ceidwadol traddodiadol.

PostioPostiwyd: Sul 02 Mai 2004 2:55 pm
gan gwern
Be di PNAC?

PostioPostiwyd: Sul 02 Mai 2004 3:05 pm
gan Dan Dean
gwern a ddywedodd:Be di PNAC?

Project For The New American Century, llawn twats.
http://newamericancentury.org/index.html