Pwy fyddech chi'n pleidleisio iddo

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy fyddech chi'n pleidleisio amdano yn etholiad y cynulliad?

Daeth y pôl i ben ar Iau 01 Mai 2003 12:11 pm

Plaid Cymru
16
89%
Llafur
0
Dim pleidleisiau
Democratiaid Rhyddfrydol
0
Dim pleidleisiau
Ceidwadwyr
0
Dim pleidleisiau
Arall / Annibynnol
2
11%
Fyddai ddim yn pleidleisio
0
Dim pleidleisiau
Fyddai'n sbwylio'r papur pleidleisio
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 18

Pwy fyddech chi'n pleidleisio iddo

Postiogan 20-canrif-o-opresiwn » Maw 25 Maw 2003 12:11 pm

Gyda'r etholiad cynulliad mond dros mis i ffwrdd, pwy fyddech chi'n bwrw eich pleidlais iddo??

Atebwch y pol piniwn hyd yn oed os nad ydych yn ddigon hen i bleidleisio.
Rhithffurf defnyddiwr
20-canrif-o-opresiwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 8:08 pm
Lleoliad: yn nhrefin ar min y mor...

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 25 Maw 2003 1:45 pm

Plaid mae'n debyg. Petai yna sosialwyr yn sefyll yn fy ardal fyddwn yn pleidleisio drostyn nhw, ac mae'n debyg mai dyna a wnaf yn y rhestr.

Dwi heb bleidleisio am rhyw pum mlynedd, neb yn haeddu digon o fy egni i gerdded at y blwch pleidleisio a minne ddim isio mynd ar y rhestr etholiadol rhag i mi gael bill treth cyngor!! :winc:

Ond mae gen i bleidlaid tro 'ma ac mae'n debyg mae i Plaid Cymru "The Party that Fails" byddai'n bwrw pleidlais.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 25 Maw 2003 4:30 pm

Bydde fi'n Pledleisio dros y Blaid er bo fi'n anghytuno efo tactegau ymgyrchu Ieuan Wyn Jones h.y ymosod yn bersonol ar ffugurai amlwg yn y blaid Lafur. Dyle fe ganolbwyntio 100% ar bolisiau achos mar polisiau yn spot on!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 25 Maw 2003 6:19 pm

Mi fydda i'n bwrw mhleidlais i Blaid Cymru...mi fyddai'n troi'n 18 ychydig cyn yr etholiad.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chwadan » Mer 26 Maw 2003 1:49 pm

Plaid Cymru yn ddi-os, dim yn unig gan fy mod i'n cytuno â'u polisiau nhw ond oherwydd na wela i unrhyw ymgyrchu yn cael ei gwneud gan y pleidiau eraill hyd y gwela i! (ym Meirionnydd-Nant-Conwy)

Ddim fod hyn yn beth rhy ddrwg ond mi fasa brwydr (efo Plaid yn ennill wrth gwrs) yn reit ddiddorol!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Meinir Thomas » Llun 31 Maw 2003 10:43 pm

Methu aros i bleidleisio! Dyma fy mhleidlais gyntaf i ar gyfer y Cynulliad. Ges i bleidleisio yn 2001 ar gyfer yr aelodau seneddol. Ro'n i mor falch pan ennillodd Adam Price yn ein etholaeth ni! Mae e eitha ciwt! Dim 'na pham pleidleisiais i amdano fe, cofiwch! Petai Donny Osmond ei hun yn sefyll dros y Toriaid yn ein etholaeth ni, buaswn i dal 'di pleidleisio dros Plaid Cymru.
Deddf Iaith 69 - Defnyddia dy dafod!

http://www.misterpoll.com/1287528160.html
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron