Tudalen 1 o 1

Pwy fyddech chi'n pleidleisio iddo

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2003 12:11 pm
gan 20-canrif-o-opresiwn
Gyda'r etholiad cynulliad mond dros mis i ffwrdd, pwy fyddech chi'n bwrw eich pleidlais iddo??

Atebwch y pol piniwn hyd yn oed os nad ydych yn ddigon hen i bleidleisio.

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2003 1:45 pm
gan SbecsPeledrX
Plaid mae'n debyg. Petai yna sosialwyr yn sefyll yn fy ardal fyddwn yn pleidleisio drostyn nhw, ac mae'n debyg mai dyna a wnaf yn y rhestr.

Dwi heb bleidleisio am rhyw pum mlynedd, neb yn haeddu digon o fy egni i gerdded at y blwch pleidleisio a minne ddim isio mynd ar y rhestr etholiadol rhag i mi gael bill treth cyngor!! :winc:

Ond mae gen i bleidlaid tro 'ma ac mae'n debyg mae i Plaid Cymru "The Party that Fails" byddai'n bwrw pleidlais.

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2003 4:30 pm
gan Rhys Llwyd
Bydde fi'n Pledleisio dros y Blaid er bo fi'n anghytuno efo tactegau ymgyrchu Ieuan Wyn Jones h.y ymosod yn bersonol ar ffugurai amlwg yn y blaid Lafur. Dyle fe ganolbwyntio 100% ar bolisiau achos mar polisiau yn spot on!

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2003 6:19 pm
gan Hogyn o Rachub
Mi fydda i'n bwrw mhleidlais i Blaid Cymru...mi fyddai'n troi'n 18 ychydig cyn yr etholiad.

PostioPostiwyd: Mer 26 Maw 2003 1:49 pm
gan Chwadan
Plaid Cymru yn ddi-os, dim yn unig gan fy mod i'n cytuno รข'u polisiau nhw ond oherwydd na wela i unrhyw ymgyrchu yn cael ei gwneud gan y pleidiau eraill hyd y gwela i! (ym Meirionnydd-Nant-Conwy)

Ddim fod hyn yn beth rhy ddrwg ond mi fasa brwydr (efo Plaid yn ennill wrth gwrs) yn reit ddiddorol!

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2003 10:43 pm
gan Meinir Thomas
Methu aros i bleidleisio! Dyma fy mhleidlais gyntaf i ar gyfer y Cynulliad. Ges i bleidleisio yn 2001 ar gyfer yr aelodau seneddol. Ro'n i mor falch pan ennillodd Adam Price yn ein etholaeth ni! Mae e eitha ciwt! Dim 'na pham pleidleisiais i amdano fe, cofiwch! Petai Donny Osmond ei hun yn sefyll dros y Toriaid yn ein etholaeth ni, buaswn i dal 'di pleidleisio dros Plaid Cymru.