Tudalen 1 o 6

Lluniau o milwyr sydd wedi'w lladd yn Irac

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 11:00 am
gan Madrwyddygryf
Fel rhai sydd yn gwybod mae'r Pentagon wedi arbed rhag unrhyw un tynnu lluniau o'u soldiwrs sydd wedi'w lladd yn Iraq. Ond nawr mae [url=[url]http://www.thememoryhole.org/war/coffin_photos/dover/]'The Memory Hole[/url] wedi cael gafael a'r luniau.

Delwedd

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 11:03 am
gan RET79
Beth yn union yw'r pwynt ti'n drio ei wneud yn fan hyn?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 11:40 am
gan GT
Mae o'n ddadlennol am wn i bod yr UDA yn marchnata rhyfel trwy geisio cuddio ei goblygiadau.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 5:31 pm
gan Macsen
Pwysig am ddau rheswm:

1) Sdim otch os yw'r rhyfel yn iawn au peidio. Mi farwodd y pobl yna dros ei gwlad a mae nhw'n haeddu ein parch. Tydi nhw ddim yn haeddu cael ei cuddiad o'r golwg.

2) Eironig bod beth oedd y milwyr yna yn meddwl ei bod nhw'n cwffio amdano, rhyddid, ddim yn cael ei roi i'r wasg yn yr achos yma. Mae rhesymau gweinyddiaeth y wlad i guddio'r llyniau yn hollol hunanol- iw wneud a peidio colli pledleisiau'r bobl, mwy na dim.

P.S. Dwi'n falch bod Pogon wedi dileu be ddywedodd o. Dyna yw un o'r pethau mwyaf afiach ydw i wedi i glywed ar y Maes neu unrhywle arall. Golcha dy geg mas a sebon, y diawl. :drwg:

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:36 pm
gan Dr Gwion Larsen
Macsen a ddywedodd:P.S. Dwi'n falch bod Pogon wedi dileu be ddywedodd o. Dyna yw un o'r pethau mwyaf afiach ydw i wedi i glywed ar y Maes neu unrhywle arall. Golcha dy geg mas a sebon, y diawl. :drwg:
Be ddwedodd o?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:39 pm
gan GT
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:P.S. Dwi'n falch bod Pogon wedi dileu be ddywedodd o. Dyna yw un o'r pethau mwyaf afiach ydw i wedi i glywed ar y Maes neu unrhywle arall. Golcha dy geg mas a sebon, y diawl. :drwg:
Be ddwedodd o?


Gawn i ei roi o fel hyn? Mae Sioni a Newt druan yn y cell cosb am llai o beth coblyn.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:46 pm
gan Macsen
Larsen a ddywedodd:Be ddwedodd o?


Dwi ddim am ailadrodd, ond mae fy mharch i at Pogon wedi llithro lawr chydig o bwyntiau.

Edit: Be ar y ddear dwi'n son am- pa barch? O, wel.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:48 pm
gan Dr Gwion Larsen
Macsen a ddywedodd:
Larsen a ddywedodd:Be ddwedodd o?


Dwi ddim am ailadrodd, ond mae fy mharch i at Pogon wedi llithro lawr chydig o bwyntiau. Mae o wan ar -1432. :drwg:
Lle odd o cyn y sylwadau?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:48 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Pwysig am ddau rheswm:

1) Sdim otch os yw'r rhyfel yn iawn au peidio. Mi farwodd y pobl yna dros ei gwlad a mae nhw'n haeddu ein parch. Tydi nhw ddim yn haeddu cael ei cuddiad o'r golwg.

2) Eironig bod beth oedd y milwyr yna yn meddwl ei bod nhw'n cwffio amdano, rhyddid, ddim yn cael ei roi i'r wasg yn yr achos yma. Mae rhesymau gweinyddiaeth y wlad i guddio'r llyniau yn hollol hunanol- iw wneud a peidio colli pledleisiau'r bobl, mwy na dim.


Mae'r gwaith yn Irac yn cymryd amser. Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch gan fod pobl yn gweld eirch yn dod nol bob dydd. Rhaid iddyn nhw aros yno i orffen y job.

Ar y cyfan mae dy sylwadau yn eitha plentynaidd.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 7:51 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Ar y cyfan mae dy sylwadau yn eitha plentynaidd.


Sdim angen bod yn grumpy, RET. Ti'n stirio fyny drwgdeimlad lle bo dim. :?