Lluniau o milwyr sydd wedi'w lladd yn Irac

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 9:32 pm

Mae dweud 'y chwith' yn ffordd gyfleus o grwpio'r bobl hyn, dwi ddim yn gweld y broblem.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan GT » Sul 25 Ebr 2004 9:45 pm

RET79 a ddywedodd:Mae dweud 'y chwith' yn ffordd gyfleus o grwpio'r bobl hyn, dwi ddim yn gweld y broblem.


'Dydi dweud, 'Mae'r Chwith yn anghywir efo pob dim, mae y Chwith o blaid x, felly mae'n rhaid bod x yn anghywir', ddim yn ffordd aeddfed iawn o ddadlau.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sul 25 Ebr 2004 9:49 pm

RET79 a ddywedodd:Mae dweud 'y chwith' yn ffordd gyfleus o grwpio'r bobl hyn, dwi ddim yn gweld y broblem.


Dyna ydyw'r pwynt. Dwyt ti methu ei grwpio. Mae fel grwpio'r Nazis a'r Vatican. Mae'r ddau yn adain dde. Dwyt ti ddim yn gweld y broblem fan hyn? :ofn:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Sul 25 Ebr 2004 10:07 pm

Macsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Mae nhw'n cael parch mae eu eirch wedi eu gorchuddio hefo baner America.


Bedio a perverted obsesiwn pobl a sgrap o fabric lliwgar? Mae fflag Cymru a llun cwl arno, ond swnim yn dweud bod cael fy wrapio ynddo yn talu fi nol am farw dros fy ngwald chwaith. Mae pobl America angen gweld y llyniau yna a dod i ddealltwriaeth bod y pobl yma'n marw drostan nhw. Am fod newyddion America ddim yn reportio'r marwolaethau mae'n ddigon posib bod gan pobl America ddim syniad bod y pobl yma yn marw drostynt bob dydd, sydd yn beth trist iawn.


Mi ydw i'n meddwl bod Macsen ymhell bell ohoni yma, yn bennaf achos dydi'r milwyr Americanaidd ddim wedi marw dros eu cydwladwyr adra. Drwy ddweud hynny, mi wyt ti'n derbyn bod'na rywfath o fygythiad i boblogaeth yr Unol Daleithiau gan Irac a bod isio gwasgu hynny drwy rym milwrol - a mae hynny'n sylfaenol anghywir.

Ella bod rhyw syniadau cyfeiliornus am aberth ystyrlon yn rhan bwysig o strategaeth ymdopi i rai pobl, ond dyna mor bell ag mae'n mynd.

Arundhati Roy a ddywedodd:Flags are bits of coloured cloth that governments use first to shrink-wrap people's minds and then as ceremonial shrouds to bury the dead.


Ambrose Bierce a ddywedodd:In Dr. Johnson’s famous dictionary patriotism is defined as the last resort of a scoundrel. With all due respect to an enlightened but inferior lexicographer, I beg to submit that it is the first.



Macsen a ddywedodd:Dwi'n cytuno bod tynnu pob milwr allan rwan yn warthus a twp.


Dyma ni. Baich y Dyn Gwyn, eto. Rhaid i ninnau dderbyn y cyfrifoldeb o ddod efo ychydig bach o wareiddiad i'r holl darkies anniolchgar yma. Trist, ond be mae rhywun i fod i'w wneud?

O'm rhan fy hun, dw i'n meddwl bod cyfraniad diweddar y Gorllewin goleuedig yn Irac wedi bod yn warthus ac yn dwp hefyd. O leia, o dynnu'r milwyr allan, bysai'r brodorion yn cael rhyddid i fod yn warthus ac yn dwp, neu yn llwyddiannus, drostyn nhw eu hunain. Anrheg gan eu gwaredwyr. Rhyddid i drefnu eu pethau eu hunain, gan mai 'rhyddid' oedd nod yr holl fenter yn y lle cynta i fod, ia?

Yn Falluja, ar ol dymchwel llywodraeth Saddam Hussein, yr imams lleol oedd wedi rhoi pen ar yr ysbeilio a'r dial, oedd wedi ailagor gwasanaethau cyhoeddus, a sefydlu trefn blismona dros dro. Wedyn, dyna'r Americanwyr yn cyrraedd, yn arestio'r imams, yn gorfodi eu maer eu hunain ar y dref ac yn dechrau saethu protestwyr yn farw. Os tynnu'r milwyr allan ydi'r unig fodd i roi pen ar y ffasiwn ymyrryd hollol hanner pan, tynnu'r milwyr allan amdani.

(Er tegwch, dw i'n cael ar ddallt bod yr elfennau milwrol Ewropeaidd yno wedi dangos mwy o grebwyll wrth ddelio efo'r arweinwyr lleol - eu trin nhw fel oedolion, a ballu.)
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Ffion1 » Sul 25 Ebr 2004 10:18 pm

GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Regime change oedd polisi Bush. Mae America wedi pleidleisio am hyn.


Eh?


Eh eto!! dwi ddim yn credu fod pobl America wedi pledleiso dros rhyfel. Yn ogystal rhaid cofio fod Bush yn lwcus iawn i gael ei ethol yn arlywydd yn y lle cyntaf - mae amheuaeth cryf am ei ymgyrch etholiadol. Fel enghraifft, ddaru o rhwystro lot fawr o Americanwyr rhag pledleiso yn y lle cyntaf - pobl du a tlawd, y rhai fuasai yn fwy tebygol i bledleisio i'r democrats. Dyma un esiampl a mae yna llawer mwy ohonyntm Mae Bush yn 'swnio' i fi fel rhagrithiwr
Rhithffurf defnyddiwr
Ffion1
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 636
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 11:25 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 10:54 pm

Ffion Larsen a ddywedodd:Eh eto!! dwi ddim yn credu fod pobl America wedi pledleiso dros rhyfel. Yn ogystal rhaid cofio fod Bush yn lwcus iawn i gael ei ethol yn arlywydd yn y lle cyntaf - mae amheuaeth cryf am ei ymgyrch etholiadol. Fel enghraifft, ddaru o rhwystro lot fawr o Americanwyr rhag pledleiso yn y lle cyntaf - pobl du a tlawd, y rhai fuasai yn fwy tebygol i bledleisio i'r democrats. Dyma un esiampl a mae yna llawer mwy ohonyntm Mae Bush yn 'swnio' i fi fel rhagrithiwr


wyt ti wedi bod mewn coma? mae'r etholiad nesaf yma erbyn rwan. Dwi'n ffeindio fo braidd yn boring clywed y dadleuon yma byth a beunydd. Dwi'n siwr y tro hwn wneith Bush gael buddugoliaeth ysgubol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan GT » Sul 25 Ebr 2004 10:58 pm

RET79 a ddywedodd:wyt ti wedi bod mewn coma? mae'r etholiad nesaf yma erbyn rwan. Dwi'n ffeindio fo braidd yn boring clywed y dadleuon yma byth a beunydd. Dwi'n siwr y tro hwn wneith Bush gael buddugoliaeth ysgubol.


Mae dy resymeg di yn fy rhyfeddu unwaith eto. Ti yn dadlau bod canlyniadau etholiad sydd heb ei chynnal eto yn cyfiawnhau twyllo mewn etholiad sydd eisoes wedi ei chynnal.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 11:00 pm

GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:wyt ti wedi bod mewn coma? mae'r etholiad nesaf yma erbyn rwan. Dwi'n ffeindio fo braidd yn boring clywed y dadleuon yma byth a beunydd. Dwi'n siwr y tro hwn wneith Bush gael buddugoliaeth ysgubol.


Mae dy resymeg di yn fy rhyfeddu unwaith eto. Ti yn dadlau bod canlyniadau etholiad sydd heb ei chynnal eto yn cyfiawnhau twyllo mewn etholiad sydd eisoes wedi ei chynnal.


fe gafodd y mater blaenorol ei setlo yn y llysoedd yn America.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan GT » Sul 25 Ebr 2004 11:01 pm

Dy ddull di o resymu sydd yn fy rhyfeddu, nid casgliad Uchel Lys y GOP.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 11:04 pm

GT a ddywedodd:Dy ddull di o resymu sydd yn fy rhyfeddu, nid casgliad Uchel Lys y GOP.


Rhaid symud ymlaen a derbyn penderfyniad y llysoedd. Fuasai'r pobl yma ddim yn cwyno os buasai Bush yn democrat.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron