Lluniau o milwyr sydd wedi'w lladd yn Irac

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Sul 25 Ebr 2004 11:10 pm

RET79 a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Dy ddull di o resymu sydd yn fy rhyfeddu, nid casgliad Uchel Lys y GOP.


Rhaid symud ymlaen a derbyn penderfyniad y llysoedd. Fuasai'r pobl yma ddim yn cwyno os buasai Bush yn democrat.


Ond byddai'r Gwereniaethwyr yn cwyno fel diawl.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 11:13 pm

GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Dy ddull di o resymu sydd yn fy rhyfeddu, nid casgliad Uchel Lys y GOP.


Rhaid symud ymlaen a derbyn penderfyniad y llysoedd. Fuasai'r pobl yma ddim yn cwyno os buasai Bush yn democrat.


Ond byddai'r Gwereniaethwyr yn cwyno fel diawl.


Wel, dyw cwyno werth dim byd. Rhaid derbyn y penderfyniad a symud ymlaen.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Sul 25 Ebr 2004 11:16 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Mi ydw i'n meddwl bod Macsen ymhell bell ohoni yma, yn bennaf achos dydi'r milwyr Americanaidd ddim wedi marw dros eu cydwladwyr adra.


Ond mi farwon nhw yn credu ei bod yn marw dros America a'i phobol, bydded hynny'r cas neu beidio, ac felly dwi'n credu ei bod nhw'n haeddu ein parch. Dwi'm yn meddwl dyma un soldiwr americanaidd yn marw wrth feddwl, 'O wel, o leia bydd oil exports fyny 10%...'

O ran tynnu ein milwyr allan, dim fi'n meddwl bod yr Iraciaid yn rhu felyn i sortio'i hunain mas, fel yr oeddet ti i weld yn dweud, ond ein bod ni wedi creu'r sefyllfa truenus yma a mi ddylsai ni, neu'r UN, gau'r cwlwm. Cyn gynted a posib, wrth gwrs, ac yna myned ymaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Sul 25 Ebr 2004 11:18 pm

Heddiw:

RET a ddywedodd:Wel, dyw cwyno werth dim byd. Rhaid derbyn y penderfyniad a symud ymlaen.


Ddoe:

RET a ddywedodd:Rheswm arall pam nad yw y system gyfalafol yn gweithio gystal ac y dylsai yw am nad yw digon o bobl yn cwyno pan mae nhw'n cael gwasanaeth gwael! Dwi'n meddwl fod cwyno yn hanfodol - os buasai pawb yn cwyno a creu stwr bob tro mae gwasanaeth gwael, yna fe fyddai pobl yn gorfod codi eu safonau!


:rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 11:27 pm

Macsen, pan wneid di dyfu fyny wnei di sylwi dyw tynnu sylwadau pobl allan o'u cyd-destun ddim yn beth clefer iawn i'w wneud.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Sul 25 Ebr 2004 11:32 pm

RET79 a ddywedodd:Macsen, pan wneid di dyfu fyny wnei di sylwi dyw tynnu sylwadau pobl allan o'u cyd-destun ddim yn beth clefer iawn i'w wneud.


Tydi ystyr y ddau ddyfyniad heb newid o gwbwl. O ran tyfy fyny, dw i ddim ond pum mlynedd yn iengach na ti, ond yn medru rhedeg cylchoedd o dy gwmpas yn barod. :P
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 25 Ebr 2004 11:33 pm

Macsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Macsen, pan wneid di dyfu fyny wnei di sylwi dyw tynnu sylwadau pobl allan o'u cyd-destun ddim yn beth clefer iawn i'w wneud.


Tydi ystyr y ddau ddyfyniad heb newid o gwbwl. O ran tyfy fyny, dw i ddim ond pum mlynedd yn iengach na ti, ond yn medru rhedeg cylchoedd o dy gwmpas yn barod. :P


Dal di i freuddwydio. Does dim o'i le ar gwyno, mae o'n beth da, ond unwaith mae'r penderfyniad olaf wedi ei wneud yna mae'n beth bonheddig i adael y mater i fod.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Ffion1 » Llun 26 Ebr 2004 12:07 am

RET79 a ddywedodd:
Ffion Larsen a ddywedodd:Eh eto!! dwi ddim yn credu fod pobl America wedi pledleiso dros rhyfel. Yn ogystal rhaid cofio fod Bush yn lwcus iawn i gael ei ethol yn arlywydd yn y lle cyntaf - mae amheuaeth cryf am ei ymgyrch etholiadol. Fel enghraifft, ddaru o rhwystro lot fawr o Americanwyr rhag pledleiso yn y lle cyntaf - pobl du a tlawd, y rhai fuasai yn fwy tebygol i bledleisio i'r democrats. Dyma un esiampl a mae yna llawer mwy ohonyntm Mae Bush yn 'swnio' i fi fel rhagrithiwr


wyt ti wedi bod mewn coma? mae'r etholiad nesaf yma erbyn rwan. Dwi'n ffeindio fo braidd yn boring clywed y dadleuon yma byth a beunydd. Dwi'n siwr y tro hwn wneith Bush gael buddugoliaeth ysgubol.


Odd i ti ddeud hynna. Do dwi wedi bod mewn coma. Dda gennyf glywed fy mod yn undonog, dwin gwneud rhywbeth yn iawn felly! Dwi ddim yn gweld Bush yn ennill yn enwedig os tydio o ddim yn twyllo
Rhithffurf defnyddiwr
Ffion1
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 636
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 11:25 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan RET79 » Llun 26 Ebr 2004 12:09 am

Diddordebau: Mwydro a rwdlan

:P
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Ffion1 » Llun 26 Ebr 2004 12:19 am

Ia pam lai! Efallai buasai yn well i ti gael diddordebau o'r fath; Dwin siwr buaset yn cael mwy o hwyl yn hytrach na dadlau yn y modd ti'n gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffion1
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 636
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 11:25 pm
Lleoliad: Llanelli

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai