Tudalen 2 o 6

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:06 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Ar y cyfan mae dy sylwadau yn eitha plentynaidd.


Sdim angen bod yn grumpy, RET. Ti'n stirio fyny drwgdeimlad lle bo dim. :?


Wel mae'n ymddangos fod y chwith yn chwerthin ar ben popeth sy'n mynd o'i le yn Irac er mwyn cael dod allan hefo "I told you so". Wel dwi'n ffeindio'r agwedd yna'n siomedig.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:06 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch


Wel, wel am gysyniad diddorol. Felly mae'n iawn i'r weinyddiaeth 'amharu' ar y newyddion os ydi'r newyddion hwnnw yn anghyfleus. Meddylfryd debyg i hon sydd y tu ol i'r ffaith nad ydi pobl Gogledd Korea wedi clywed gair am y 'ddamwain' tren ar eu cyfryngau nhw.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:11 pm
gan RET79
GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch


Wel, wel am gysyniad diddorol. Felly mae'n iawn i'r weinyddiaeth 'amharu' ar y newyddion os ydi'r newyddion hwnnw yn anghyfleus. Meddylfryd debyg i hon sydd y tu ol i'r ffaith nad ydi pobl Gogledd Korea wedi clywed gair am y 'ddamwain' tren ar eu cyfryngau nhw.


Dwi ddim yn meddwl fod rhedeg gwlad o ganlyniadau polau opiniwn yn beth doeth bob tro, yn enwedig hefo materion milwrol fel hyn lle dyw'r cyhoedd ddim y pobl mwyaf 'informed' am beth sydd wirioneddol yn mynd ymlaen.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:14 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Wel mae'n ymddangos fod y chwith yn chwerthin ar ben popeth sy'n mynd o'i le yn Irac er mwyn cael dod allan hefo "I told you so". Wel dwi'n ffeindio'r agwedd yna'n siomedig.


Dim o gwbwl. Wn i ddim lle wyt ti wedi cael y syniad yma. Wrth gwrs bod ambell sicko ar y Maes sydd i weld yn cael pleser mawr o ryfel a marwolaeth, ond mae'r mwyafrif am weld y trafferth yn Irac yn dod i ben mor gyflym a phosib. Cofia, ni oedd y rhai a oedd ddim am weld unrhyw drafferth yn Irac yn y lle cyntaf.

Beth bynnag:

RET79 a ddywedodd:Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch gan fod pobl yn gweld eirch yn dod nol bob dydd. Rhaid iddyn nhw aros yno i orffen y job.


Rwyt ti'n dweud yr un peth fan yma ag ydw i:

Fi a ddywedodd:Eironig bod beth oedd y milwyr yna yn meddwl ei bod nhw'n cwffio amdano, rhyddid, ddim yn cael ei roi i'r wasg yn yr achos yma. Mae rhesymau gweinyddiaeth y wlad i guddio'r llyniau yn hollol hunanol- iw wneud a peidio colli pledleisiau'r bobl, mwy na dim.


Dyw'r llyniau ddim yn cael ei dangos er mwyn gweinyddiaeth America.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:14 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Dyw America ddim am gael yr anghyfleustra o'r polau opiniwn yn mynd yn erbyn yr ymgyrch


Wel, wel am gysyniad diddorol. Felly mae'n iawn i'r weinyddiaeth 'amharu' ar y newyddion os ydi'r newyddion hwnnw yn anghyfleus. Meddylfryd debyg i hon sydd y tu ol i'r ffaith nad ydi pobl Gogledd Korea wedi clywed gair am y 'ddamwain' tren ar eu cyfryngau nhw.


Dwi ddim yn meddwl fod rhedeg gwlad o ganlyniadau polau opiniwn yn beth doeth bob tro.


Digon gwir RET. Ond nid yw hyn yn cyfiawnhau rheoli'r newyddion er mwyn dylanwadu ar bolau piniwn. Byddai hynny yn, wel wst ti, Blairaidd.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:17 pm
gan Macsen
Dwyt ti'm yn meddwl RET bod censro'r newyddion i gwffio dros ryddid bach yn eironig? Ta ydi rhyddid yn iawn mewn rhai mannau a dim eraill?

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:21 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Dwyt ti'm yn meddwl RET bod censro'r newyddion i gwffio dros ryddid bach yn eironig? Ta ydi rhyddid yn iawn mewn rhai mannau a dim eraill?


Wel dwi ddim yn gweld digon o benefit i ddangos y lluniau yna gan byddan nhw'n peri mwy o broblemau i'r wlad & byddin. Mae nhw'n cael parch mae eu eirch wedi eu gorchuddio hefo baner America.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:25 pm
gan RET79
Regime change oedd polisi Bush. Mae America wedi pleidleisio am hyn. Rhaid gorffen y job. Roedd ffyliaid allan ar y stryd yma ddoe yn galw am dynnu'r milwyr allan o Irac. Gwarthus, a thwp, beth yw eu ateb nhw? Byddai Irac yn civil war os buasai hynna'n digwydd.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:26 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Mae nhw'n cael parch mae eu eirch wedi eu gorchuddio hefo baner America.


Bedio a perverted obsesiwn pobl a sgrap o fabric lliwgar? Mae fflag Cymru a llun cwl arno, ond swnim yn dweud bod cael fy wrapio ynddo yn talu fi nol am farw dros fy ngwald chwaith. Mae pobl America angen gweld y llyniau yna a dod i ddealltwriaeth bod y pobl yma'n marw drostan nhw. Am fod newyddion America ddim yn reportio'r marwolaethau mae'n ddigon posib bod gan pobl America ddim syniad bod y pobl yma yn marw drostynt bob dydd, sydd yn beth trist iawn.

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2004 8:26 pm
gan GT
RET79 a ddywedodd:Wel dwi ddim yn gweld digon o benefit i ddangos y lluniau yna gan byddan nhw'n peri mwy o broblemau i'r wlad & byddin.


Nid lle gweinyddiaeth ydi penderfynu pa ddelweddau / eitemau newyddion sydd yn addas i bobl eu gweld. Mae democratiaeth effeithiol yn dibynu ar elfen o anibyniaeth i'r cyfryngau. Mae dechrau rwdlan efo hynny yn gam i gyfeiriad Gogledd Korea.