Tudalen 6 o 6

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2004 12:43 am
gan RET79
Ffion Larsen a ddywedodd:Ia pam lai! Efallai buasai yn well i ti gael diddordebau o'r fath; Dwin siwr buaset yn cael mwy o hwyl yn hytrach na dadlau yn y modd ti'n gwneud.


Does dim angen, gan dwi'n cael hwyl mewn ffyrdd eraill.

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2004 1:18 pm
gan Cwlcymro
RET, mi oedd Saddam mewn pwer yn Iraq. Mi odd y penderfyn iad wedi ei wneud, ganddo fo ei hun. Anheg yn sicr, ond does na ddim dadla fod y penderfyniad yr un mor gryf ac un y Supreme Court yn America.
Oedd gan yr Iraciaid hawl i gwyno? Ta plentyniadd odda nhw?

Ma America a israel wedi dod i benderfyniad anheg ac anghyfreithlon dros Balestine. Sgyna nhw'm hawl i gwyno?

Nath Maradona sgorio'r hand of god i roi lloegr allan o gwpan y byd. Oedd ganddy nhw hawl i gwyno?

Os fysa Bliar yn codi trethi ar gwmania 500% fory, fysa gen ti hawl i gwyno?


Ac am y llunia o'r meirw, allaim coilio dy fod di'n CEFNOGI ei sensro RET! Chdi? Y boi sydd wrth dy fodd yn son am 'ryddid' Irac? Yn cefnogi sensoraeth fel yma? Ta jusd hipocrit bach wti, sydd mond yn licio rhyddid pan ma'n dda i be wti isho?

Ma'r bobl yna wedi marw dros ei gwlad. Ti'n ddigon hapus i pawb glywed am llwyddiana'r bobl yna, ond y funud ma nhw'n marw ti isho ei cuddio nhw, a gobeithio neith neb sylwi? Dwi'n siwr fysa Saddam yn cytuno yn llwyr efo chdi.