Ysgrifennes i'r neges mewn gwylltuneb, a
wy'n ymddiheuro os odw i wedi pechu yn erbyn rhywun. Fi'n credu fod y llythyr yn dangos yn itha clir mod i'n greduniol mae rhagrith yw safbwynt Ann Clwyd - a hynny'n rhagrith llwyr ac amlwg.
Mae Ceri yn iawn serch hynny yn ei ddehongliad o neges sylfaenol y llyth sef eu bod hi wedi 'puteinio' ei hegwyddorion gwleidyddol -
yn fy nhyb i. Ond nid trwy alw enwau plentynaidd yw'r ffordd i ennill dadl - fel ydw i'n hunan wedi dweud ar sawl achlysur!
Na, fi heb dderbyn ateb yn ol wrthi eto!
Byd y negeseuon isod yn y seiat 'digwyddiadau' wap hefyd, ond mae'n werth nodi yma -
Diwrnod 'Gweithredu Dros Heddwch' Aberystwyth, Mawrth 22.
Mae holl wleidyddion Cymru a Tony Blair wedi cael gwahoddiad i ddod i 'Gweithred Dros Heddwch, yn Aber. Bydd yna orymdaith a siaradwyr, ac yna gweithdau yn y prynhawn (NVDAs; Lobio effeithiol ac eraill) ac yna gig yn yr hwyr.
(Os am ragor o wybodeth halwch neges ata i).
Hefyd,
Sadwrn, 26 Ebrill, Rali Fawr Gwrth Ryfel, Caerdydd
Trefnnu Rali fawr yng Nghaerdydd o'r Castell i'r Cynulliad i wrthwynebu rhyfel. Hon fydd rali fawr cymru ar y Sadwrn cyn yr etholiadau
- Mae Rhodri Morgan wedi gwrthod a gadael i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Blaid Lafur i drafod Iraq (ac mae elfen gref yn ei Blaid yn erbyn Blair ar hyn) - o ganlyniad mi fyddwn i'n gwthio'r pwnc ar yr agenda - bydd yn arwydd clir i ymgeiswyr pob plaid y gall ei safbwynt ar y rhyfel yma ennill neu golli'r etholiad Cenedlaethol Cymraeg iddyn nhw - MAE'N RHAID I'R GWLEIDYDDION GAEL ASGWRN CEFN A LLEISIO EU BARN EU HUNEN A'U ETHOLWYR! Rali traws bleidiol fydd hi - does dim monopoli gan unrhyw blaid ar y gwrthwynebiad i ladd pobl ddiniwed!
Hon hefyd yw diwrnod Chernobyl - addas iawn felly i gofio erchyllderau effaith niwclear.
Pawb i droi i fyny!
(unwaith eto, os am ragor o wybodaith, halwch neges ata i).