Bomio Iraq

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Llun 03 Maw 2003 7:55 pm

Dyfyniad:
Ma'r hwren Ann Clwyd


Dwi ddim yn disgwyl y fath sexism oddi wrthoch chi Cardi Bach


Efallai mae hwren gwleidyddol oedd Cardi Bach yn ei feddwl, wedi'r cyfan mae'n mynd ymlaen i ddweud:

Neu a yw Blair wedi gaddo safle gyfforddus ac ariangar i chi yn ei lywodraeth?


Sydd wrth gwrs yn cefnogi'r syniad o buteinio gwleidyddol!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cardi Bach » Iau 06 Maw 2003 11:46 am

Ysgrifennes i'r neges mewn gwylltuneb, a wy'n ymddiheuro os odw i wedi pechu yn erbyn rhywun. Fi'n credu fod y llythyr yn dangos yn itha clir mod i'n greduniol mae rhagrith yw safbwynt Ann Clwyd - a hynny'n rhagrith llwyr ac amlwg.

Mae Ceri yn iawn serch hynny yn ei ddehongliad o neges sylfaenol y llyth sef eu bod hi wedi 'puteinio' ei hegwyddorion gwleidyddol - yn fy nhyb i. Ond nid trwy alw enwau plentynaidd yw'r ffordd i ennill dadl - fel ydw i'n hunan wedi dweud ar sawl achlysur!

Na, fi heb dderbyn ateb yn ol wrthi eto!

Byd y negeseuon isod yn y seiat 'digwyddiadau' wap hefyd, ond mae'n werth nodi yma -

:saeth: Diwrnod 'Gweithredu Dros Heddwch' Aberystwyth, Mawrth 22.

Mae holl wleidyddion Cymru a Tony Blair wedi cael gwahoddiad i ddod i 'Gweithred Dros Heddwch, yn Aber. Bydd yna orymdaith a siaradwyr, ac yna gweithdau yn y prynhawn (NVDAs; Lobio effeithiol ac eraill) ac yna gig yn yr hwyr.

(Os am ragor o wybodeth halwch neges ata i).

Hefyd,

:saeth: Sadwrn, 26 Ebrill, Rali Fawr Gwrth Ryfel, Caerdydd

Trefnnu Rali fawr yng Nghaerdydd o'r Castell i'r Cynulliad i wrthwynebu rhyfel. Hon fydd rali fawr cymru ar y Sadwrn cyn yr etholiadau
- Mae Rhodri Morgan wedi gwrthod a gadael i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Blaid Lafur i drafod Iraq (ac mae elfen gref yn ei Blaid yn erbyn Blair ar hyn) - o ganlyniad mi fyddwn i'n gwthio'r pwnc ar yr agenda - bydd yn arwydd clir i ymgeiswyr pob plaid y gall ei safbwynt ar y rhyfel yma ennill neu golli'r etholiad Cenedlaethol Cymraeg iddyn nhw - MAE'N RHAID I'R GWLEIDYDDION GAEL ASGWRN CEFN A LLEISIO EU BARN EU HUNEN A'U ETHOLWYR! Rali traws bleidiol fydd hi - does dim monopoli gan unrhyw blaid ar y gwrthwynebiad i ladd pobl ddiniwed!
Hon hefyd yw diwrnod Chernobyl - addas iawn felly i gofio erchyllderau effaith niwclear.
Pawb i droi i fyny! :!:
(unwaith eto, os am ragor o wybodaith, halwch neges ata i).
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Irac neu Gogledd Korea

Postiogan Llywydd » Iau 06 Maw 2003 11:50 pm

Mae'r byd yn canolbwyntio gymaint ar Irac fel bod nhw wedi anghofio edrych ar y sefyllfa gyda Gogledd Korea. Mae Gogledd Korea yn arbennig o berygl, yn cael ei arwain gan dyn hunanol, hurt a ffiaidd. Mr. Kim Jon Il. Yn yr wythnos diwethaf, mae o wedi bygwth De Korea, Siapan ac hefyd awyrennau militaraidd yr UDA. Mae pawb yn gyfarwydd eu bod ac arfau niwclear a oddeutu dwy flynedd yn ol profodd nhw un o'i 'missiles tepadon' nhw drwy ei saethu uwchben Siapan a adael iddo ddisgyn yn y Mor Tawel.

OND, nid oes Gogledd Korea oel na ddim byd arall o ddefnydd i'r UDA, felly nid oes gan Bush diddordeb. Mae hyn yn ei hun yn profi imi mae rhyfel dros oel yn unig yw'r rhyfel yn erbyn Irac.

Tybed faint o newyddion am Gogledd Korea sydd yn cael eu darlledu ar y newyddion yng Nghymru? Hoffwn wybod.

Andrew
Tocio, Siapan
Rhithffurf defnyddiwr
Llywydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 04 Maw 2003 1:44 pm
Lleoliad: Tocio, Siapan

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 07 Maw 2003 10:19 am

Fawr o'm byd am Ogledd Corea, ond mae'n dueddol o ddod i fyny o bryd i bryd.

Ond mae un rheswm syml nad yw'r Iancs yn fodlon ymyrryd yn erbyn Gog Corea - mae Gogledd Corea yn gallu taro'n ôl!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chris Castle » Gwe 07 Maw 2003 10:34 am

Mae Peter Tatchel yn galw am roi arfau i'r Kwrdiaid a'r Shiawyr ac ti er mwyn cefnogi "popular uprising" go-iawn - nid y brad a ddigwyddodd o dan Y Llwyth Hen. Be' chi'n meddwl am hynny? Dwi'n teuddi i'w cefnogi yna er mwyn cael gwared o Sadam a gwarchod y Kwrdiaid rhag Llywodaraeth Twrci.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan ceribethlem » Gwe 07 Maw 2003 4:05 pm

Pwynt diddorol Chris. Fe all arwain at fwy o broblemau rhwng yr UDA a'r Dwyrain Canol gan fod Twrci a'r UDA yn gyfeillion ar hyn o bryd.
Gan fod Twrci yn fodlon rhoi lle i'r UDA i ymosod ar Irac does dim angen regime change ac felly mae "hawl" ganddynt i gadw ladd y Cwrdiaid!
Dwi'n gweld yr agwedd yma gan yr UDA yn gywilyddus.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Chris Castle » Sad 08 Maw 2003 12:56 pm

Lygad dy le Ceri!
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 08 Maw 2003 3:27 pm

Dwi'n credu fod rhaid sefydlu gwladwriaeth i'r Cwrdiaid a fyddai'n cynnwys tir Gogledd Irac a thir Twrci. Ond wrth ni fyddai'r UDA na PDN yn cefnogi hyn gan y byddant yn creu gelyn newydd TWRCI. Mae'r Cwrdiad Irac yn dweud yn agored ar y teledu y byddai cael eu rheoli gan Dwrci yr un mor wael a chael eu rheoli gan Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Chris Castle » Sad 08 Maw 2003 5:53 pm

Wi'n cytuno â Hedd YMA!
Byddai creu Gwladwriaeth Kwrdistan yn beth flaengarol.

O ACHOS Y SYFELLFA ARBENNIG YNA!
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cardi Bach » Maw 11 Maw 2003 10:35 am

Chris Castle a ddywedodd:Mae Peter Tatchel yn galw am roi arfau i'r Kwrdiaid a'r Shiawyr ac ti er mwyn cefnogi "popular uprising" go-iawn - nid y brad a ddigwyddodd o dan Y Llwyth Hen. Be' chi'n meddwl am hynny? Dwi'n teuddi i'w cefnogi yna er mwyn cael gwared o Sadam a gwarchod y Kwrdiaid rhag Llywodaraeth Twrci.


Wy ddim yn credu y gallen i gefnogi cynnig o'r fath.

Mi wnath llywodraethau Prydain ac America arfogi criw o wrthryfelwyr yn Affganistan nol yn yr wythdegau i wrthwynebu Rwsia- y rhain oedd y Taliban.

Llywodraeth America arfogodd wrthryfelwyr El Salvador a lofridduodd Oscar Romero.

Llywodraeth America arfogodd Somoza a'r 'regime' ffiaidd yn Nicaragua.

Mae llywodraeth America wrthi'n arfogi ac ariannu llywodraeth filwrol erchyll Colombia lle mae'r raddfa uchaf o'r 'disappeared' unrhyw le yn y byd. Mae Amnest rhyngwladol wedi beirniadu'n chwyrn bob un o'r 'llywodraethau' yma am eu record yn erbyn hawliau dynol, ac mae America yn cadw i ariannu ac arfogi nhw.

Prydain ac America, fel sydd wedi cael ei ddweud sawl gwaith gennyf, arfogodd Saddam hussein yn yr wythdegau gan wybod yn iawn ei fod yn dienyddio pobl ddiniwed yn eu miloedd.

Mae America a Phrydain yn parhau i werthu arfau i Israel - aeth dau fis heibio (hyd wythnos hyn) heb ddim un 'suicide bombing' neu ladd Israelis diniwed gan y palestiniaid, serch hynny yn yr un amser lladdodd Israel dros 154 o Balestiniaid gan arfau o Brydain a America.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen sefydlu gwladwriaeth Gwrdaidd, ond nid trwy eu harfogi tu hwnt i reswm a'i hannog i ladd am eu grym yw'r ffordd - nid yw hyn yn dangos rhinweddau democratiaeth ond yn hytrach yn annog barbariaeth. Beth fydd y neges i Gwrdiaid uchelgeisiol? Peidiwch trafferthu gyda etrholiad lle y mae risg o golli a 'humiliation', ewch am y dryll a seithwch eich gwrthwynebydd! Ond wrth gwrs, dyna beth mae America a Phrydain yn ei wneud yn rhyngwladol, felly pam na ddylai gwladwriaethau eraill ei wneud e?!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron