Bomio Iraq

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Maw 27 Mai 2003 11:03 am

ceribethlem a ddywedodd:
Dyfyniad:
Ma'r hwren Ann Clwyd


Dwi ddim yn disgwyl y fath sexism oddi wrthoch chi Cardi Bach


Efallai mae hwren gwleidyddol oedd Cardi Bach yn ei feddwl, wedi'r cyfan mae'n mynd ymlaen i ddweud:

Neu a yw Blair wedi gaddo safle gyfforddus ac ariangar i chi yn ei lywodraeth?


Sydd wrth gwrs yn cefnogi'r syniad o buteinio gwleidyddol!


Wele yn y Guardian heddiw:

[url=http://www.guardian.co.uk/guardianpolitics/story/0,3605,963806,00.html]Leftwinger wins plum job as rights envoy

Pro-war Clwyd rewarded for springing to PM's aid
[/url]

Wy'n cymryd dim boddhad o hyn! :x :crio:

Ac wy dal heb gael ateb wrth Ann Clwyd chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Idris » Maw 27 Mai 2003 12:30 pm

Mae Ann Clwyd mor gyson a Dafydd El a gweddill y gimps gyrfaol (careerists?) sy'n bla ar ein democrasi.

tro dweutha iddi fynd i Irac roedd hi'n llefain yn gyhoeddus mewn amgueddfa llawn erchyllderau Sadam.
fydd hi'n agor amgueddfa yn coffau 'gwaith clodwiw' y taflegrau 'shock and awe' yr Americaniaid a Phrydeinwyr y tro hwn? go brin

efallai y ca i fod ychydig fwy clir na Cardi Bach, gan ddatgan fod Ann Clwyd yn butan wleidyddol, ond yn waeth, mae hi'n Hen Hwran am sefyll fyny a rhoi hygrededd i lofruddiwr fel Tony Blair. Fsya hi ddim yn gallu bod yn fwy o Hen Hwran, tasa hi'n ffwcio bob dyn, dafad a chamel ar ei hymweliad ag Irac.
Sgym ydi Clwyd, ac mae'n gwneud cam a gweddill y merched sy'n gwerthu eu cyrff am arian drwy alw Ann yn Butain. Mae hi'n llawer gwaeth na hynny...Rent Boi Bush ydi Tony Blair hefyd, ond eto gena'i fwy o barch at Jigolo na'r Prif Weinidog...mae angen creu termau sarhaus newydd ar gyfer sgym y Blaid Lafur Newydd Ddi-Egwyddor
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan Cardi Bach » Iau 29 Mai 2003 8:16 am

Gwarth llwyr :!:

Bu i Blair ddatgan yn y senedd cyn rhyfel Irac y gallai Saddam a Irac gynhyrchu arfau dinistriol (hyd yn oed niwclear) - biolegol a chemegol, o fewn 45 munud.

Bu i hyn ennill nifer o ASau drosodd, ac mi gefnogon nhw'r rhyfel.

Ond yn ddiweddar mae Jack Straw wedi datgan nad arfau o ddinistr enbyd yw'r peth pwysicaf, ac o bosib na fyddan nhw'n cael eu darganfod - symud y golposts yn llwyr.

A NAWR ma' Donald Rumsfeld, Ysgrifennydd amddiffyn y UDA wedi awgrymu efallai fod holl arfau dinistriol Irac wedi cael eu dinistrio cyn i'r rhyfel ddechrau!
i) Byddai dinistrio unrhyw arf cyn mynd i ryfel yn beth dwl iawn i arweinydd milwrol ei wneud - pam byddai Saddam am ddinistrio ei arfau?
ii) os y bu iddo ddinistrio'r arfau pam y bu i luoedd America, Prydain ac Awstralia fynd i fewn i Irac i ryfel?

Mae'n hollol warthus - mae'n rhaid mynd a Bush a Blair o flaen llys rhyngwladol am droseddau yn erbyn dynoliaeth!

Mae llywodraeth Prydain ac America bellach hefyd yn cyfaddef iddyn nhw ddefnyddio 'cluster bombs' yn Irac - a'r rhain mewn ardaloedd trefol a phoblog! (mae 16% o 'bomblets' y bomiau yma yn aros ar y llawr heb ffrwydro tan fod rhywun - diniwed fel arfer - yn sefyll arno).

Ar y radio bore yma ceisiodd gweinidog y lluoedd arfog Prydeinig amddiffyn y defnydd o'r bomiau yma. Dywedodd fod yn rhaid iddyn nhw eu defnyddio yn y trefi achos ffordd arall byddai 'ein milwyr ni' wedi cael eu ymosod a'u lladd gan luoedd Irac - ac ni fyddai hynny'n dderbyniol.

Wel, esgusodwch fi, ond milwyr yw'r rhain sydd wedi dewis o'u gwirfodd i ymuno a'r lluoedd arfog sydd, fel rhan o'u dyletswyddau, yn gorfod mynd i ryfel - a'r tro diwethaf i mi sieco roedd milwyr yn dueddol o gael eu lladd mewn rhyfel. Hyn yn hollol wahanol i bobl ddiniwed Irac oedd a dim dewis o gwbwl i optio allan o'r holl beth - a nhw heddiw, yn blant, yn famau, yn dadau ac yn henoed, sy'n sefyll ar y 'bomblets' dieflig yma sy'n wasgar ar hyd Irac - nhw sy'n cael eu lladd gan WMD Prydain, ac sydd heb y triniaeth na'r meddyginiaeth na'r cyfarpar addas i ymdopi a chanlyniadau'r 'bomblets'!. Ond yn ol y Gweinidog y Lluoedd Arfog mae hyn yn dderbyniol!

Mae hyn yn ffiaidd - hollol ffiaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Idris » Iau 29 Mai 2003 9:06 am

Pam ffwnc nath Plaid ddim ymosod ar Lafur am y gwarth yma yn etholiad Y Cynulliad?
Ffwncio'r ddadl 'cefnogi'r lluoedd arfog' yna, roedd angen gwneud safiad fel gwnaethpwyd adeg Penyberth - gweithred amhoblogaidd o gofio fod Hitler ar y sdepan drws.

mae angen bols ar Y Blaid, mae angen Hairy Melons.

mae jigeripoceri Tori Blair wrth gyfiawnhau ymosod ar Irac yn profi ei fod yn actor gwych a llofrudd
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan Cardi Bach » Iau 29 Mai 2003 1:37 pm

O ie...a ma Blair yn bygwth Iran nawr hefyd. Mae'n siwr bydd mwy am hyn wedyn. :x
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Chwadan » Maw 10 Meh 2003 6:41 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Cardi Bach » Mer 11 Meh 2003 3:05 pm

Delwedd

:D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 08 Gor 2003 11:33 pm

Heddychiaeth.

Ni'n byw bywyd rhyfedd bois!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aelod Llipa » Mer 09 Gor 2003 12:42 pm

Penill am Irac,

Ble mae'r arfau
Ble mae'r arfau
Yn y dychymyg
Yn y dychymyg
Am beth
Am beth
Er mwyn i Blair gael tipyn o olew!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Cardi Bach » Mer 09 Gor 2003 2:22 pm

Wedi bod yn darllen 1984 Orwell yn ddiweddar. Mae'r hyn mae'n ddweud ynddo yr un mor wir heddiw. Ynddo mae'n dyfynnu rhan o lyfr Goldstein (llyfr dychmygol gan gymeriad dychmygol) - ond mae'n dweud gwirioneddau mawr.

Dyma ddyfyniad o rannau ohono - rhowch y dyfyniad yng nghyd-destun America heddiw.

Goldstein - George Orwell 1984 a ddywedodd:The essential act of war is destruction, not necessarily of human lives, but of the products of human labour. War is a way of shattering to pieces, or pouring into the stratosphere, or sinking in the depths of the sea, materials which might otherwise be used to make the masses too comfortable, and hence, in the long run, too intelligent. Even when weapons of war are not actually destroyed, their manufacture is still a convenient way of expending labour power without producing anything that can be consumed...In principle the war effort is always so planned as to eat up any surplus that might exist after meeting the bare needs of the population. In practice the needs of the population are always under-estimated, with the result that there is a chronic shortage of half the necessities of life...At the same time the consciousness of being at war, and therefore in danger, makes the handing-over of all power to a small caste seem the natural, unavoidable condition of survival (America 9/11, War on Terrorism; Affganistan; Irac).

War, it will be seen, not only accomplishes it in a psychologically acceptable way. In principle it would be quite simple to waste the surplus labour of the world by building temples and pyramids, by digging holes and filling them up again, or even by producing vast quantities of goods and then setting fire to them. But this would provide only the economic and not the emotional basis for a hierarchical society. What is concerned here is not the morale of the masses, whose attitude is unimportant so long as they are kept steadily at work, but the morale of the Party (America) itself. Even the humblest Party member is expected to be competent, industrious and even intelligent within narrow limits, but it is also necessary that he should be a credulous and ignorant fanatic whose prevailing moods are fear, hatred, adulation and origastic triumph. In other words it is necessary that he should have the mentality appropriate to a state of war (War on Terrorism - perpetual state of war).


Gath hwn ei gyhoeddu gynta yn 1949. Mae e mor wir heddiw, os nad yn fwy felly, a beth yw wedi bod erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron