Pethau difyr yn y Guardian heddiw:
http://www.guardian.co.uk/analysis/story/0,3604,1052233,00.html yn dweud fod y gefnogaeth a gafwyd i'r rhyfel yn gefnogaeth i'r milwyr yn unig ac nid yn gymaint i'r achos dros ryfel. Mae llai yn cefnogi'r rhyfel nawr na beth oedd cyn y rhyfel.
Dim byd newydd, na, ond tystiolaeth academaidd ddefnyddiol.
Hefyd:
http://www.guardian.co.uk/international/story/0,3604,1052291,00.html
yn dweud fod y wybodaeth am WMD wrth 'iraqi defectors' yn gelwydd.
unwaith eto, dim byd newydd, heblaw fod y wybodaeth bellach yn gyhoeddus.
Ddim mod i am fod yn hunangyfiawn na dim, ond mae'n dreni fod yr holl wybodaeth yma, sydd yn dangos ffolineb rhyfel, wastad yn dod i law ar ol y rhyfel, ond eto ni byth yn dysgu!
Pan fydd America am ryfela yn erbyn Iran, a Phrydain unwaith eto yn eu dilyn, bydd yr un celwydde yn cael ei weud, a'r un dadleuon, a byddwn ni y rhai hynny yn erbyn y rhyfel yn troi at yr holl dystiolaeth yma ac yn dweud 'ond ma nhw wedi gweud hyn o'r blan! odi pobl yn methu gweld hyn?' a bydd y llywodraeth Brydeinig asgell dde imperialaidd unwaith eto yn achosi dioddefaint i gannoedd o filoedd yn rhagor o bobl diniwed a bydd yr un hen blydi pethe'n cal i weud!
Gadewch i ni beidio anghofio'r rhyfel yma a'r celwydde, a'r camarwain...ma rhaid i ni gadw'r wybodaeth yma i gyd - y wybodaeth ffals a dadleuon ffals, a'r tystiolaeth iw gwrthbrofi, achos pan ddaw y rhyfel nesaf, ac mi fydd yna un, bydd yn rhaid i ni fod yn sicr o'n feithiau eto.