Tudalen 9 o 9

PostioPostiwyd: Maw 30 Medi 2003 1:10 pm
gan Cardi Bach
Pethau difyr yn y Guardian heddiw:

http://www.guardian.co.uk/analysis/story/0,3604,1052233,00.html yn dweud fod y gefnogaeth a gafwyd i'r rhyfel yn gefnogaeth i'r milwyr yn unig ac nid yn gymaint i'r achos dros ryfel. Mae llai yn cefnogi'r rhyfel nawr na beth oedd cyn y rhyfel.

Dim byd newydd, na, ond tystiolaeth academaidd ddefnyddiol.

Hefyd:
http://www.guardian.co.uk/international/story/0,3604,1052291,00.html

yn dweud fod y wybodaeth am WMD wrth 'iraqi defectors' yn gelwydd.
unwaith eto, dim byd newydd, heblaw fod y wybodaeth bellach yn gyhoeddus.

Ddim mod i am fod yn hunangyfiawn na dim, ond mae'n dreni fod yr holl wybodaeth yma, sydd yn dangos ffolineb rhyfel, wastad yn dod i law ar ol y rhyfel, ond eto ni byth yn dysgu!

Pan fydd America am ryfela yn erbyn Iran, a Phrydain unwaith eto yn eu dilyn, bydd yr un celwydde yn cael ei weud, a'r un dadleuon, a byddwn ni y rhai hynny yn erbyn y rhyfel yn troi at yr holl dystiolaeth yma ac yn dweud 'ond ma nhw wedi gweud hyn o'r blan! odi pobl yn methu gweld hyn?' a bydd y llywodraeth Brydeinig asgell dde imperialaidd unwaith eto yn achosi dioddefaint i gannoedd o filoedd yn rhagor o bobl diniwed a bydd yr un hen blydi pethe'n cal i weud!

Gadewch i ni beidio anghofio'r rhyfel yma a'r celwydde, a'r camarwain...ma rhaid i ni gadw'r wybodaeth yma i gyd - y wybodaeth ffals a dadleuon ffals, a'r tystiolaeth iw gwrthbrofi, achos pan ddaw y rhyfel nesaf, ac mi fydd yna un, bydd yn rhaid i ni fod yn sicr o'n feithiau eto.

PostioPostiwyd: Sul 05 Hyd 2003 10:18 pm
gan pogon_szczec
Cardi Bach,

Gan fod cymaint da ti i weud am y pwnc dan sylw, pryd wyt ti'n mynd i ateb fy 16 cwestiwn?

PostioPostiwyd: Sul 05 Hyd 2003 11:30 pm
gan nicdafis
Pogon, paid dod รข dadlau o un edefyn i mewn i bob edefyn arall ar y maes. Os dydy Cardi Bach ddim am ateb dy 16 cwestiwn, does dim modd yn y byd i ti ei orfodi. Mae'n jyst swnio'n <i>churlish</i>.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2003 12:45 am
gan RET79
Cardi bach - ti'n defnyddio links o'r Guardian.

Comic i stiwdants a hippies yw'r Guardian, ti erioed wedi darllen papur go iawn fel Times, Telegraph, Daily Mail?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2003 2:17 pm
gan Cwlcymro
Comic i stiwdants a hippies yw'r Guardian, ti erioed wedi darllen papur go iawn fel Times, Telegraph, Daily Mail?


:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: Tro cynta i riwyn ERIOED roi'r geiriau "Daily Mail" a "papur go-iawn" yn yr un frawddeg!!!

Tin gweld RET ma na broblem bach yn dy ddeud yn fama.

Tra ma'r Guardian yn agored ei feddwl ac yn barod i gymeradwyo neu cwestiynnu popeth yn dibynnu ar ffeithiau'r dwrnod ellai'm deud hynnu am dy dri papur di.

Ma't Times a'r Telegraph yn enwog am ddilyn agenda pwy bynnag sy'n digwydd bod bia nhw ar y pryd, Rupert Murdoch yr esiampl ora ar y funud.
Sut elli di goilio unrhywbeth mewn papur sydd ei berchen gan perchenog BSkyB os dio'n siarad am y 'rhyfel' rhwng y llywodraeth a'r BBC!!!
Ma hynnu fel cal Maggie Thatcher i siarad am fendithiau Tony Blair!!

Ac am y Daily Mail, hwnna di'r unig bapur syn dod yn AGOS at y Sun fel y papur mwya 'riduculed' yn y byd.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2003 5:20 pm
gan RET79
Cwlcymro a ddywedodd:
Tra ma'r Guardian yn agored ei feddwl ac yn barod i gymeradwyo neu cwestiynnu popeth yn dibynnu ar ffeithiau'r dwrnod ellai'm deud hynnu am dy dri papur di.


Mae'r guardian yn llawn o bobl bitter cenfigennus sydd hefo chip ar bob ysgwydd. Mae Michael Moore yn sgwennu i'r Guardian, rel clown o foi a rhagrithiwr o fri, boi hunan-gyfiawn sydd ddim yn parchu gwerthoedd americanaidd. Wel efallai dylai o daflu ei holl arian i ffwrdd a mynd i fyw i rywle fel gogledd Korea i brofiadu'r alternatif.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Hyd 2003 5:24 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Mae'r guardian yn llawn o bobl bitter cenfigennus sydd hefo chip ar bob ysgwydd. Mae Michael Moore yn sgwennu i'r Guardian, rel clown o foi a rhagrithiwr o fri, boi hunan-gyfiawn sydd ddim yn parchu gwerthoedd americanaidd. Wel efallai dylai o daflu ei holl arian i ffwrdd a mynd i fyw i rywle fel gogledd Korea i brofiadu'r alternatif.


Bitter ddedest ti?