Cymedrolwr: Cwlcymro
ma saddam yn fastard a mae e'n haeddu popeth mae e'n gal, ac os os pobol erill yn y ffordd wel dyle nhw symud mas o'r ffordd neu derbyn y canlyniade . Eniwei ma pob arab yn fastad, so dyw e ddim yn neud lot o wahanieth. lladdwch y cwbwl - beth ma arabs eriod wedi neud i ni eniwei? ffyc ol o werth - waste of space.
Llygad am Lygad, Dant am Ddant?
‘God Bless America’. Does dim byd yn bod ar weddio dros eich gwlad. Nodir yn gwbl glir yn Genesis 11 fod Duw wedi creu cenhedloedd a threfnu eu ffiniau. Mae’n naturiol i ddyn weddio dros ei genedl ac mae’n ddyletswydd ac yn fraint i bob Cristion weddio dros ei genedl ef ei hun. Mae’r Dr R. Tudur Jones yn ei weithiau yn rhannu cenedlaetholdeb yn ddau grŵp. Mae’n galw cenedlaetholdeb imperialistig yn ‘monocentric nationalism’ - mae’r math yma o genedlaetholdeb yn orthrymus ac yn medru bod yn dreisgar tuag at genhedloedd eraill nad sy’n arddel yr un safonau/gwerthoedd. Mae’n ddyletswydd i Gristnogion wrthwynebu’r math hyn o genedlaetholdeb. Ar y llaw arall mae Dr. R Tudur Jones yn sôn am ‘polycentric nationalism’ – i ddyfynnu’r Doctor “where nations assume that each nation has something valuable to contribute to the life and culture of the family of nations.”
Mae’r UDA wedi cyrraedd sefyllfa economaidd ble mae modd iddi reoli tynged gwledydd eraill heb fawr dim gwrthwynebiad. Mae ei phŵer milwrol hi’n gryfach na gwledydd eraill yr UN gyda’i gilydd. Yr Americanwyr sy’n lliwio tynged boliticaidd, fasnachol a ddiwylliannol y byd. ‘Monocentric Nationalism?’
Mae’r Arlywydd Bush yn Gristion, yn Gristion Efengylaidd. Mae’n darllen y Beibl cyn y papurau yn y bore ac yn gweddio’n aml. Gwych. Rhufeiniaid 13:
“Y mae’n rhaid i bob dyn ymostwng i’r awdurdodau sy’n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae’r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw”
Mae Bush yn enghraifft wych o ragluniaeth Duw yn amlygu ei hun. A ddylem ni i gyd gofleidio safonau, credoau a thactegau Bush? Ai ef y mae Duw wedi ei ordeinio i’n harwain ni?
Yr ail bosibilrwydd yw hyn - ( hoffwn nodi nad wyf yn amau ffydd Bush, ond rwyf am honni bod ei ddehongliad o’i grêd yn effeithio ar ei weithredoedd sy’n medru bod yn anghyfiawn a hyd yn oed yn anghristnogol.) ydy Bush yn cam ddefnyddio ei bwerau ac yn defnyddio baner Cristnogaeth i ledaenu ei werthoedd a’i gredoau adain dde? Wedi’r cyfan mae Actau 5:29 yn dweud:
“Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach na dynion”.
Ydy llywodraethau yn gallu fforffedu eu hawliau ger bron Duw? Gellir dadlau ei bod hi’n ddyletswydd i wrthwynebu/protestio’n erbyn llywodaraethau sy’n anghyfiawn. Ni ellir anwybyddu pechod dyn, hyd yn oed pan y’i amlygir mewn dynion sydd mewn awdurdod. Cred y Pabyddion fod y Pâb yn sanctaidd, maen nhw i gyd yn dilyn bob gair ddaw o’i enau. Mentraf ddweud bod perygl i’r ffydd sydd gan rai Cristnogion Protestanaidd yn Bush ymdebygu i ffydd y Pabyddion yn y Pâb.
Mae Cristnogion adain dde yn uno i gefnogi Bush a’i filwyr. Yn anffodus nid tîm o efengylwyr yn cario tracts neu genhadon yn mynd allan i’r Dwyrain Canol yw’r milwyr yma ond milwyr go-iawn a ganddynt arfau dinistriol. Clywn dro ar ôl tro am yr ‘Holy Wars’ yn y Dwyrain Canol. Ai ‘Holy War’ Cristnogol ydy ymdrechion Bush i ddileu pob llywodraeth nad sy’n unol â’i werthoedd personol ef?
Mae’r Amerig wedi Bomio y gwledydd yma ers 1945:
China, Korea, Guatemala, Indonesia, Cuba, Congo, Peru, Laos, Vietnam, Cambodia, Guatemala, Grenada, Libya, El Salvador & Nicaragua, Panama, Irac, Sudan, Afghanistan a Yugoslavia.
Ni arweiniodd y cyrchoedd bomio yma at sefydlu llywodraethau democrataidd sefydlog mewn un o’r gwledydd. Ond bu farw miloedd yn yr ymgyrchoedd. Mae hyn yn dystiolaeth nad yw trais yn dacteg effeithiol o bell ffordd!
Mae Cristnogion yn dathlu bod ganddynt, yn Bush, arweinydd sy’n Gristion ac mae ganddynt lawer mwy o ymddiriedaeth ynddo na Clinton. Dydy’r ffaith bod Bush yn Gristion ddim yn ei wneud yn arweinydd da! Pe bai rhaid i mi ddewis rhwng arweinydd cydwybodol sy ddim yn Gristion neu ddewis un sydd yn Gristion ond yn ddiegwyddor, buaswn innau’n dewis yr anffyddiwr. Mae Bush wedi pasio deddfau anfoesol sy’n anwybyddu’r mwyafrif o greadigaeth Duw (h.y Cytundeb Cioto) ond yn plesio’r cwmniau cyfalafol sy’n ariannu ei ymgyrchoedd etholiadol ef! Yn fy marn i mae polisïau a gwerthoedd arweinyddion fel Gandhi a Mandela (sy ddim yn Gristnogion) yn ymdebygu fwy i Grist na gwerthoedd a gweithredoedd Bush.
Lluniaf y llith hwn dair awr yn unig cyn dechrau rhyfel yn erbyn Irac. Rwyf o’r farn y bydd Irac yn ymuno â’r restr uchod, sef rhestr o wledydd fydd wedi eu rhyddhau o drais unben drwy drais arfau’r Amerig ond na fydd yn medru sefydlu llywodraeth ddemocrataidd. Mae defnyddio trais yn erbyn trais yn gylch dieflig, sydd yn amlygu pechod y ddynoliaeth. Fel y dywedodd yr Athro Bobi Jones ‘Llofnod Satan ydyw Rhyfel’. Nid wyf yn amddiffyn Sadam – ond yn hytrach yn dweud bod y dacteg gul o ddefnyddio trais ar ffurf rhyfel agored i’w ddisodli yn anghywir. Cymerir cwymp llywodraeth De’r Affrig, cwymp Milosevich yn yr hen Iwgoslafia a chwymp yr Ymerodraeth Brydeinig yn yr India fel enghreifftiau o dactegau mwy ystyrlon, teg a Christnogol.
Y sancsiynnau sydd wedi gwneud i bobl cefnogi Saddam mwy, gan ei fod yn gallu rhoi rhywbeth iddynt tra nad ydynt yn gallu cael gafael ar dim. Yr olygfa o: Saddam yn rhoi, UDA yn gwrthod.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai