Beth yw eich barn chi am y rhyfel yn Irac?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw eich barn chi am y rhyfel yn Irac?

Cywilyddus, Mae'r Amerig ar ol yr olew!
18
69%
Dwi'n anghytuno ond yn cydymdeimlo gyda'r ddadl dros ryfel
7
27%
Does dim barn gref da fi
0
Dim pleidleisiau
Dwi o Blaid ond yn cydymdeimlo gyda'r ddadl yn erbyn rhyfel
1
4%
Rhyfel Cyfiawn
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 26

Postiogan ceribethlem » Iau 27 Maw 2003 10:27 pm

mae Basra efo tro arall ynddo. Mae o o fewn ardal Shi'ite Irac sy'n golygu fod nifer ddim yn hoff o Saddam.


Efallai wir, ond maent yn casau'r Amerig. Rhaid cofio fod meddylfryd nifer o Arabiaid yn gweld yr UDA fel y prif gelyn oherwydd eu bod yn cefnogi'r Iddewon.

Mae'r holl cyfweliadau gyda pobl Irac wedi dangos eu bod yn casau'r UDA ac yn eu gweld fel goresgynwyr, nid fel llu yn dod i'w achub. Mae'r newyddion yn cadw dweud fod rhai wedi dweud eu bod yn falch ond dydn nhw byth yn fodlon dod ar y teledu. Drewi rhywfaint o propaganda i fi.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Meinir Thomas » Llun 31 Maw 2003 10:40 pm

Ma'n rhaid i ni 'neud rhywbeth am Saddam, bois bach. Ma'r boi off ei ben. Ma'n rhaid i ni ei gael e cyn iddo'n lladd ni gyd!
Deddf Iaith 69 - Defnyddia dy dafod!

http://www.misterpoll.com/1287528160.html
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Ebr 2003 8:22 am

Be, Ti'n disgwl i Saddam ein lladd ni i gyd gyda 'Pea Shooter'?

Ble mae'r 'Weapons of Mass Destruction' yma?

Oes pawb wedi clywed fod y contracts i rhedeg yr olew yn Ne Irac wedi mynd yn barod i gwmniau o'r Amerig, yn waeth na hyn rhai sydd gyda cysylltiadau cryf i Bush!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Bush = Hitler

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 01 Ebr 2003 12:15 pm

Meinir Thomas a ddywedodd:Ma'n rhaid i ni 'neud rhywbeth am Saddam, bois bach. Ma'r boi off ei ben. Ma'n rhaid i ni ei gael e cyn iddo'n lladd ni gyd!


Ma'n rhaid i ni 'neud rhywbeth am BUSH. Ma'r boi off ei ben. Ma'n rhaid i ni ei gael gwared o fe cyn iddo fe lladd ni gyd mewn Trydydd Rhyfel Byd.

Nath Nostradamus rhagweld rhyfel Fwslemaidd yn erbyn Ewrop yn 2020... y cyfandir yn cael ei oresgyn gan rhyfelwyr o'r dwyrain.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan huwwaters » Maw 01 Ebr 2003 5:22 pm

Mae 60% o gytundebau i ail-adeiladu Irac wedi ei osod i gwmnïoedd yn yr UDA.

O'r holl arfau yma, ble mae nhw? Ni di cael eu gasio, na taflegryn niwclear wedi cael ei yrru atom.

A'r arfau yma mae Saddam wedi ei ddefnyddio mae pobl yn dweud y dywedodd ei fod hebddyn nhw. Do gwelwn ni hyn cyn y rhyfel y Scudz yn cael ei dinistrio, ond oherwydd roedd Blair a Bush eisiau rhyfel, cafodd stop eu rhoi i'w dinistrio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Chris Castle » Sul 06 Ebr 2003 11:02 am

beth ma arabs eriod wedi neud i ni eniwei?


Y BYD FODERN :!:

Prifysgolion
Y gwahaniaeth rhwng Meddygiaeth a Hud a Lledrith
MAthemateg
Gwyddoniaeth
Liberal Humanism
Mae fenywod yn pobl hefyd
Hawliau anifeiliad
Democratiaeth sydd ddim yn perthyn i'r cracach yn unig
Astronomeg
Mae'r byd yn Grwn
Sherbert
Hwylio yn erbyn y gwynt
Turkish delight
Popeth o syniadaeth yr hen Groegwyr (sgwenodd Arabs y fersiwn Lladin)
Ayyb
Ayyb
Ayyb..........
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 29 Ebr 2003 12:26 pm

Argol, roedd hi'n benblwydd ar yr hen Saddam ddoe, cofiwch!

Hip hip....?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan huwwaters » Maw 29 Ebr 2003 5:28 pm

Mae'r dywediad "divide and conquer" yn esbonio sut ddaeth Saddam i bwer o gyflwr y wald heddiw. Cymaint o gefndiroedd gwahanol eisiau rhedeg eu hunain.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron