Sbwriel, wnest ti ddarllen y post cyntaf
Bydd y Gymdeithas yn gwario llawer mwy ar yr ymgyrch gwrth rhyfel na wnewn ni ar rhai blydi t shirts.
A dyna'r pwynt. Mudiad gwirfoddol yw'r Gymdeithas. Mae'n gweithredu'n gryf iawn gyda mudiadau eraill yn erbyn y rhyfel. Mae gweithredu y fath ymgyrch yn gostus iawn i.e. llythyru, creu deunyddiau, ymgyrchoedd gweithredol ayb. ayb. Bydd y Gymdeithas ar golled ariannol yn rhedeg yr ymgyrch wrth rhyfel yma, ac mae hyn yn ffaith!
ma cymryd mantais o'r sefyllfa yn anfoesol
Beth ti'n siarad am? Be ti'n meddwl cymryd mantais? Ti isio fi ddweud eto, BYDD Y GYMDEITHAS AR GOLLED ARIANNOL YN RHEDEG YR YMGYRCH YMA! Ond does neb oddi fewn i'r Gymdeithas yn poenu am hyn gan mae gweithredu yn foesol yw'r holl bwynt. Plis darllena fy mhwyntiau i yma cyn agor dy geg.
Y broblem fawr ydy nad yw pobl sydd ddim yn gwneud dim i helpu gwaith mudiadau gwirfoddol yn sylweddoli costau mudiad o'r fath. Mae trefnu pob rali yn costio bron i £1000. Wnes i gymryd rhan mewn gweithred symblaidd yn erbyn y rhyfel yn swyddfeydd drethi yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Roedd y cadwynau a'r padlocks wedi costio £140.
Mae'r Gymdeithas yn rhedeg ar golled trwy amser, a'r unig ffordd o gynhyrchu unrhyw arian i redeg unrhyw ymgyrch yw trwy gyfraniadau cyson gan gefnogwyr, a mentrau masnachol bychain megis gigs, nwyddau ayb.