Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Sul 16 Mai 2004 3:44 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Y geiria pwysig yn fanna Newt ydi 'milwyr' a 'terfysgwyr'. Da ni'n disgwyl i derfysgwyr, o ba bynnag ras, fod yn farbaraidd. Da ni'n disgwyl i filwyr, o pa bynnag ras, fod yn deg.

A ma'r ddadl ein bod ni mor uchal ein cloch yn erbyn gweithredodd y milwyr a ddim y terfysgwyr yn wirion. Yr un mor wirion a rheini oedd yn deud 'Why weren't all these anti-war protestors protesting against what Saddam was doing to his people'
Ma'r milwyr yn actio yn ein henw ni, pan ma nhw'n troi'n farbaraidd ein lle ni ydi hi i gwyno.

Rhyfedd o fyd, o be dwi wedi weld o fewn maes e mae Sioni ac 90% o gyfranwyr re yr IRA wedi rhoi y cyfeillion barbaraidd hyn ar bedestal go uchel. Newid y rheolau i siwtio dy ddadl wyt ti mr Cymro?


Pam uffar wti, RET a Pogon yn trio taflu pawb sy'n anghytuno efo chdi mewn i un fasgaid?! Dwi'm yn boddro siarad yn yr edefnyddau IRA achos dwi'm yn gwbod am y pwnc. Dos i'r un am Israel a mi gei di weld mod i'n deud fy marn am derfysgwyr Palestine yn erbyn Gwern.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 16 Mai 2004 7:11 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Pam uffar wti, RET a Pogon yn trio taflu pawb sy'n anghytuno efo chdi mewn i un fasgaid?!


... gan eich bod chi'n dadlau o'r ochr chwith o'r spectrwm gwleidyddol, felly pam lai?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Sul 16 Mai 2004 11:56 pm

Eh? Am be' ti'n mwydro? Barnau unigol sy'n cael eu mynegi yma. 'Dydi pawb sydd ar 'y chwith' (beth bynnag ydi hwnnw) ddim yn cytuno ar bopeth, yn union fel nad ydi pawb ar 'y dde' (be' bynnag ddiawl 'di hwnnw) yn gwneud. 'Dw i'n anghytuno efo Sioni yn aml iawn, ond ti dal yn mynnu fy stwffio i yn yr un 'grwp' ag o?

Dyna'r peth gwiriona' ti 'di'i ddweud ar y maes erioed
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 16 Mai 2004 11:59 pm

Dylan a ddywedodd:Eh? Am be' ti'n mwydro? Barnau unigol sy'n cael eu mynegi yma. 'Dydi pawb sydd ar 'y chwith' (beth bynnag ydi hwnnw) ddim yn cytuno ar bopeth, yn union fel nad ydi pawb ar 'y dde' (be' bynnag ddiawl 'di hwnnw) yn gwneud. 'Dw i'n anghytuno efo Sioni yn aml iawn, ond ti dal yn mynnu fy stwffio i yn yr un 'grwp' ag o?

Dyna'r peth gwiriona' ti 'di'i ddweud ar y maes erioed


Felly ti'n meddwl fod o'n afresymol i grwpio pobl hefo barn tebyg am y mwyafrif o bynciau? Spectrwm gwleidyddol sy'n bodoli a mae'r rhan fwyaf o bobl ar maes-e ar ochr chwith y spectrwm hwnnw.

Os ti ddim yn gwybod beth dwi'n gyfeirio ato hefo chwith a dde, wel... dwi ddim yn deall yr obsesiwn yma sydd gen ti o gwestiynu popeth, hyd yn oed pethau sy'n eitha amlwg a pethau mae pobl resymol yn ei gymryd yn ganiataol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Llun 17 Mai 2004 12:13 am

RET79 a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Eh? Am be' ti'n mwydro? Barnau unigol sy'n cael eu mynegi yma. 'Dydi pawb sydd ar 'y chwith' (beth bynnag ydi hwnnw) ddim yn cytuno ar bopeth, yn union fel nad ydi pawb ar 'y dde' (be' bynnag ddiawl 'di hwnnw) yn gwneud. 'Dw i'n anghytuno efo Sioni yn aml iawn, ond ti dal yn mynnu fy stwffio i yn yr un 'grwp' ag o?

Dyna'r peth gwiriona' ti 'di'i ddweud ar y maes erioed


Felly ti'n meddwl fod o'n afresymol i grwpio pobl hefo barn tebyg am y mwyafrif o bynciau? Spectrwm gwleidyddol sy'n bodoli a mae'r rhan fwyaf o bobl ar maes-e ar ochr chwith y spectrwm hwnnw.


Ond mae yna wahaniaethau mawr iawn dal yn bodoli. Yn sicr mae Sioni yn eithafol a mae o ar ben ei hun pan mae o'n mynd off ar un. Mae defnyddio gwendid yn un o'i ddadleuon o yn erbyn rhywun fel Cwlcymro (sydd yn sefyll reit yng nghanol y 'sbectrwm wleidyddol', gyda llaw) yn...wel, od.

Os ti ddim yn gwybod beth dwi'n gyfeirio ato hefo chwith a dde, wel...


'Dw i'n dallt yn iawn: sustem shit a diog sy'n golygu ffyc ôl. (nid ymosodiad arnat ti, ond y cysyniad)

dwi ddim yn deall yr obsesiwn yma sydd gen ti o gwestiynu popeth, hyd yn oed pethau sy'n eitha amlwg a pethau mae pobl resymol yn ei gymryd yn ganiataol.


Ti'n meddwl bod cwestiynu pethau yn wael?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 17 Mai 2004 12:27 am

Fel dw i wedi dweud, RET, mae grwpio 'chwith' a 'dde' yn rhoi yr Eglwys Gatholig a'r Natisiaid yn yr un grwp. Peth twp iawn iw wneud. Mae gwleidyddiaeth yn fwy cymleth 'na sbectrwm gwirion felly.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Llun 17 Mai 2004 12:32 am

Sori, ond dwi ddim yn gweld y broblem, mae pawb yn deall beth sydd gen i pan dwi'n cyfeirio at y chwith neu'r dde (arwahan i Dylan, a falle Macsen) felly dwi ddim yn gweld pam fod rhaid i mi ollwng y disgrifiad cyfleus yna i siwtio un neu ddau o unigolion sydd yn fy marn i yn cymryd y piss.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Llun 17 Mai 2004 12:34 am

Dwi ddim yn deall be ti' n feddwl RET pam ti' n son am y chwith a' r dde. A elli di egluro?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Llun 17 Mai 2004 12:36 am

RET79 a ddywedodd:Sori, ond dwi ddim yn gweld y broblem, mae pawb yn deall beth sydd gen i pan dwi'n cyfeirio at y chwith neu'r dde (arwahan i Dylan, a falle Macsen) felly dwi ddim yn gweld pam fod rhaid i mi ollwng y disgrifiad cyfleus yna i siwtio un neu ddau o unigolion sydd yn fy marn i yn cymryd y piss.


Dwyt ti dal heb ddeall RET bach. Rho dy hun yn fy esgid i. Be os fyswn i'n dweud nawr, 'Mae pob person o'r adain dde yn casau Iddewon.' Yn amlwg mae rhai grwpiau adain dde yn casau Iddewon, ond dydy'r mwyafrif ddim. Dyna be wnaeth Newt pam ddywedodd o ein bod ni gyd o'r adain chwith yn rhoi y terfysgwyr ar bedestal. Ti'n deall yn awr? Dim cymeryd y piss ydym ni, ceisio gwneud i ti sylwi y diffyg mawr yn dy ddadleuon.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Llun 17 Mai 2004 12:39 am

Dylan a ddywedodd:Ti'n meddwl bod cwestiynu pethau yn wael?


Dwi'n meddwl fod cwestiynu popeth i.e. pob dim mae rhywun yn ddweud, yn wastraff llwyr o amser ac yn cymryd y piss, sy'n golygu fod trafodaeth yn cael ei gwyro lawr nifer o lwybrau dibwys. Plentynaidd go iawn hefyd. Mae llawer o bethau yn 'accepted norm' i'r mwyafrif helaeth o bobl sydd yn trafod: os wyt ti'n credu dy fod ti mor bwysig dy fod uwchlaw y rheiny, ac yn meddwl dy fod yn haeddu eglurhad manwl am bob cornel o bob brawddeg mae pobl yn ddweud, wel dyna fo.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai