Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Sad 15 Mai 2004 12:09 am

Newt Gingrich a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Dwi yn y niwl mae gen i ofn. 'Dwi wedi bod yn y Black, Lle wyt ti wedi bod?


Osgoi'r cwestiwn eto - tybed pam?


Ddim o gwbl. 'Dwi ddim yn deall y sylw am ragfarn orllewinol imperialaidd.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Newt Gingrich » Sad 15 Mai 2004 12:15 am

GT a ddywedodd:
Ddim o gwbl. 'Dwi ddim yn deall y sylw am ragfarn orllewinol imperialaidd.


Dio ddim yn anodd.

Yn syml iawn - ti, Sioni + 90% o gyfranwyr gwleidyddol Maes e yn dal milwyr UDA ac UK i safonau moesol uchel iawn. Serch hynny, pan mae terfysgwyr islamaidd yn lladd mewn dull erchyll does na ddim smic ganddoch. Pam?

Dwi'n haeuru eich bod yn disgwyl gwell gan UDA ac UK na'r hyn da' chi'n ddisgwyl gan fwslemiaid "barbaraidd" = agwedd imperialaidd orllewinol.

Yr uchod yw sail gyrfa John Pilger
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan GT » Sad 15 Mai 2004 12:22 am

Newt Gingrich a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Ddim o gwbl. 'Dwi ddim yn deall y sylw am ragfarn orllewinol imperialaidd.


Dio ddim yn anodd.

Yn syml iawn - ti, Sioni + 90% o gyfranwyr gwleidyddol Maes e yn dal milwyr UDA ac UK i safonau moesol uchel iawn. Serch hynny, pan mae terfysgwyr islamaidd yn lladd mewn dull erchyll does na ddim smic ganddoch. Pam?

Dwi'n haeuru eich bod yn disgwyl gwell gan UDA ac UK na'r hyn da' chi'n ddisgwyl gan fwslemiaid "barbaraidd" = agwedd imperialaidd orllewinol.

Yr uchod yw sail gyrfa John Pilger


A, syrthiodd y geiniog.

'Dwi'n digwydd byw yn y DU, ac roeddwn yn erbyn y rhyfel yn y lle cyntaf. Un o'r rhesymau yr oeddwn yn erbyn y rhyfel yw fy mod yn credu nad lle y DU na'r UDA ydi ceisio 'cnocio synnwyr' i bennau gwledydd pell. Mae'r byd mawr yn foesol amwys ar y gorau, ac mae'n llai na doeth stwffio dy big i mewn i'r amwyster yma.

Ydw - 'dwi yn disgwyl gwell.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Newt Gingrich » Sad 15 Mai 2004 12:34 am

GT a ddywedodd:Ydw - 'dwi yn disgwyl gwell.


Ond gan pwy?

Oes yma safonau dwbwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan GT » Sad 15 Mai 2004 10:06 am

Gallaf ddeall pam mae pobl yn gwneud y cyhuddiad hwn, ond nid wyf yn meddwl ei fod yn dal dwr.

Nid yw beirniadu'r rhyfel yn gyfystyr a chefnogi na hyd yn oed dangos cydymdeimlad a chyn lywodraeth Irac. Mae'r tir yma wedi ei hen droedio efo Garnet Bowen yn ystod dy secondiad - ond yn fras byddwn yn taeru ei bod yn ddi niwed credu bod gwlad orllewinol, ddatblygedig, ryddfrydol yn gallu ymosod ar wlad gwahanol iawn, ac yna gosod cyfundrefn wleidyddol ac economaidd newydd a chwbl estron arnynt. Nid yw system ddemocrataidd fel injan torri gwair ti'n medru ei droi ymlaen a chymryd ei fod am redeg yn barhaol wedyn. Cymrodd amser maith i ni ddod yn wledydd democrataidd. Ni fyddai wedi bod yn bosibl i Brydain fod wedi dod yn wlad ddemocrataidd yn y canol oesoedd, na hyd yn oed yn yr 17c.

Un o gryfderau traddodiadol ceidwadiaeth Brydeinig ydi bod edefyn 'sceptical' ac ymarferol iddo. Roedd sylweddoliad bod ceisio mynd o gwmpas y byd yn gwneud 'lles' yn wrth gynhyrchiol. Mae o'n syndod i mi bod yr edefyn hwn yn ymddangos i fod bron yn ddiflanedig bellach. Yn y diwedd un o'r pethau pwysicaf a all gwlad ei wneud i ymestyn ei gwerthoedd (ond nid yr unig beth - edrycha ar edefyn WMDs os oes gen ti'r diddordeb a'r amynedd) ydi rhoi esiampl da. Dydi'r esiampl a osodwyd yn ddiweddar ddim yn un dda.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sad 15 Mai 2004 12:40 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:Tybed pam nad yw GT, Sioni ac eraill sy'n clochdar am hawliau dynol heb ddatgan unrhyw farn am ddienyddiad erchyll y contractiwr Nick Berg?


am ei fod o'n amlwg i bawb bod y peth yn erchyll?

'Sgen i ddim cymaint â hynny o gydymdeimlad tuag at Berg - aeth o i wlad sydd mewn rhyfel gyda'r bwriad syml o wneud arian, heb gymryd unrhyw ragofalon (dim hyd yn oed cyfieithydd). Cafodd ei orchymyn i adael droeon.

Ond ta waeth am hynny, 'does dim dwywaith bod ei ddienyddiad yn beth erchyll, anfoesol, ofnadwy, milain ac arswydus. Hapus?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sad 15 Mai 2004 12:45 pm

Dylan a ddywedodd:'Sgen i ddim cymaint â hynny o gydymdeimlad tuag at Berg - aeth o i wlad sydd mewn rhyfel gyda'r bwriad syml o wneud arian, heb gymryd unrhyw ragofalon (dim hyd yn oed cyfieithydd). Cafodd ei orchymyn i adael droeon.


Methu dweud bo fi'n cytuno da ti fan hyn. Mae gen i lot o gymdymdeimlad tuag ata fo a'i deulu. Efallai nad oedd ei resymau am fod yn Irac yn rai arbennig o arwraidd, ond doedd o'm yn haeddu cael ei ben wedi' dorri ffwrdd chwaith. Fel dweud bo genti'm cydymdeimlad a dyn a oedd yn chwarae rownd ffynon a ddisgynodd mewn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Sad 15 Mai 2004 12:51 pm

Wnes i ddim dweud dim byd am ei deulu - yn ôl be' 'dw i yn ei ddallt 'doedden nhw ddim am iddo fo fynd.

Wnes i erioed ddweud bod o wedi haeddu colli'i ben chwaith. Ti'n darllen gormod mewn i be' 'dw i yn ei ddweud fan yna. ;)

O.N. mae'r lwnis allan yn barod: yn ôl y cyfaill yma wnaeth y dienyddiad ddim digwydd

anhygoel
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Sad 15 Mai 2004 12:54 pm

Yn syml iawn - ti, Sioni + 90% o gyfranwyr gwleidyddol Maes e yn dal milwyr UDA ac UK i safonau moesol uchel iawn. Serch hynny, pan mae terfysgwyr islamaidd yn lladd mewn dull erchyll does na ddim smic ganddoch. Pam?
Dwi'n haeuru eich bod yn disgwyl gwell gan UDA ac UK na'r hyn da' chi'n ddisgwyl gan fwslemiaid "barbaraidd" = agwedd imperialaidd orllewinol.


Y geiria pwysig yn fanna Newt ydi 'milwyr' a 'terfysgwyr'. Da ni'n disgwyl i derfysgwyr, o ba bynnag ras, fod yn farbaraidd. Da ni'n disgwyl i filwyr, o pa bynnag ras, fod yn deg.

A ma'r ddadl ein bod ni mor uchal ein cloch yn erbyn gweithredodd y milwyr a ddim y terfysgwyr yn wirion. Yr un mor wirion a rheini oedd yn deud 'Why weren't all these anti-war protestors protesting against what Saddam was doing to his people'
Ma'r milwyr yn actio yn ein henw ni, pan ma nhw'n troi'n farbaraidd ein lle ni ydi hi i gwyno.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sad 15 Mai 2004 12:57 pm

Cwlcymro a ddywedodd: 'Why weren't all these anti-war protestors protesting against what Saddam was doing to his people'


Y peth doniol am y ddadl yma ydi mi oedden nhw. 'Dw i'n siwr 'roedd Saddam yn cachu'i hun bob tro 'roedd criw o brotestwyr yn gorymdeithio trwy Lundain hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron