Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg codi dyfyniad allan o'i gyd-destun, yn enwedig pan fo'r dyfyniad hwnw i'w ganfod mewn edefyn hollol wahanol.
Son am brotest o'n i, sef gweithredoedd unigolion. Er mwyn i wladwriaeth fedru llywodraethu'n effeithiol, mae hi'n anorfod bod rhaid iddi fedru defnyddio grym ar ryw bwynt.
Maddeua i mi... Bach o ddiredi diwedd dydd
Er hynny, dwi'n meddwl ei fod o'n ddefnyddiol dy fod ti wedi egluro'r gwahaniaeth hwnnw yn dy safbwynt.
Dwi'n cytuno efo ti fod hawl gan wladwriaeth i ddefnyddio grym 'er mwyn llywodraethu'n effeithiol'. Mae angen sicrhau fod modd delio gyda troseddwyr treisgar mewn modd sy'n diogelu gweddill cymdeithas.
Fodd bynnag, anaml iawn y mae lladd pobl ddiniwed yn 'lywodraethu effeithiol'.
Yn achos Irac, lle nad ydi'r llywodraeth (Americanaidd) yn atebol i'r Iraciaid, a lle nad oes gan yr Iraciaid unrhyw ddweud yn mholisi'r Americaniaid, mae lladd pobl ddiniwed yn sicr o achosi tensiynnau cryf (yn enwedig pan ei bod hi'n ymddangos i'r Iraciaid fod mwy o bwyslais ar warchod
milwyr Americanaidd rhag cael niwed nac ar gadw'rIiraciaid cyffredin yn saff).
Llywodraethu aneffeithiol ydi hynny os mai'r nod ydi ennill ymddiriedaeth yr Iraciaid.
Mae'r modd y mae'r Americaniaid yn gweithredu yn ei gwneud hi'n haws i elynion yr Americaniaid gyfiawnhau taro'n ol yn fwy ffyrnig fyth, rhywbeth sy'n groes i'r rheswm dros fynd i ryfel â Sadam yn y lle cyntaf. Allwn ni fel pobl 'wareiddiedig' ddim ymateb yn ffyrnicach na'r hyn yr oeddl llofruddwyr Berg yn barod i'w wneud, neu mae'r frwydr eisioes wedi ei cholli.
Drwy ddefnyddio gymaint o drais, mae'r Americaniaid yn chwarae ar yr un maes-chwarae a'r teroristiaid. Rhaid chwarae gêm wahanol os am eu trechu nhw. Rhaid pwysleisio cyfiawnder, nid rhyfel. Cydraddoldeb a brawdoliaeth yn
ogystal â rhyddid.
Mae'n rhy hwyr i dynnu'r milwyr o Irac, ond
rhaid gyrru'r UN i mewn cyn gynted â phosib i gadw'r heddwch ac i ddarparu llu sefydlogi sy'n meddu ar hygrededd yng ngolwg yr Iraciaid cyffredin. Mae'n rhaid i'r lluoedd arfog hefyd fod yn fwy agored am eu dulliau gweithredu, hyd yn oed os ydi hynny yn golygu colli ambell i filwr yn fwy. Mae Abu Graibh yn brawf o'r hyn a all ddigwydd tu nôl i ddrysau sydd wedi eu cau.
Ar hyn o bryd, mae Irac yn llanast llwyr, a bydd hi'n cymryd blynyddoedd i ddod a heddwch, sefydlogrwydd a Democratiaith lawn i'r wlad. Blynyddoedd a ellid fod wedi eu defnyddio i ddod a newid llywodraeth cymharol ddi-drais i'r wlad, petai'r awydd gwleidyddol yno.
Wedi'r cyfan, os ydi o'n gallu digwydd i'r USSR gyda'u holl olew, mwynau ayyb, yn a pam ddim i wlad lle roeddd y llywodraeth eisioes wedi colli rhan helaeth o'r wlad i ddwylo'r Cwrdiaid?