Macsen a ddywedodd:Mae'r lluniau wedi achosi mwy o gansineb gan yr Iraqiaid tuag at yr Americanwyr. I dalu nol am y lluniau hynny cafwyd pen y boi 'ma ei dorri i ffwrdd.
dipyn bach o wahaniaeth rhwng tynnu llun o byramid o gyrff Iraciaid (dynion drwg am yr hyn y gwyddom ni) a ffilmio dyn yn cael ei ddienyddio gyda chleddyf i'w wddf?
roedd y photos o filwyr America yn cam-drin carcharorion yn afiach a gwarthus, ond yn ddim o'i gymharu gyda'r dienyddio.
heb fynd i ddadl 'mae'r Iraciaid yn fwy anwaraidd na'r Iancs', gan dderbyn efallai bod y cyfraniad gwreiddiol yn drwsgwl - rhaid gwneud popeth i gael trefn yn Irac. Mae'n anffodus fod pobol ddiniwed yn marw, ond rhaid cael trefn. Bu farw llawer o bobol ddiniwed adeg diwedd yr ail ryfel byd er mwyn difa natsiaeth - a heddiw mae'r Almaen yn wlad well am hynny. Mae'n hawdd son am dalu'r pris er mwyn cael gwell yfory ar wefan fel hon, ond dyna'r realiti - mae'n ryfel yno, beth yw'r dewis arall - gadael, a gweld Iraciaid yn ymladd ymysg ei gilydd i orseddu Saddam newydd? neu sefydlu cyfraith a threfn a chynnal etholiadau democrataidd?
o ran 'oes gen i deulu sydd wedi'i arteithio?' fel gofynnodd Mered - nag oes. ond ydi hynny yn golygu nad wyf yn cael barn ar y mater dan sylw? os mai dyma'r criteria ar gyfer mynegi safbwynt ar Irac, does fawr neb ar y maes yn pasio mi dybiaf