GT a ddywedodd: Ond gyda storiau pwysig nid oes dewis. Alli di ddychmygu'r Telegraph yn peidio a chyhoeddi canlyniad etholiad cyffredinol am bod y Toris wedi colli?
Ti sy'n cymysgu nawr. Ers pryd mae cyhoeddi canlyniad etholiad r'un fath a ryddhau adroddiad ag effaith neweidiol?
GT a ddywedodd:neu yn amlach byddant yn rhoi pwyslais gwahanol i storiau yn ol barn wleidyddol y papur.
Yn 'amlach'? Mae'n amhosib peidio. Mae hyd yn oed y ffordd rwyt ti'n geirio brawddeg, pwy ti'n dewis fel dy sources, ac i raddau mwy sut ti'n fframio'r ddadl o fewn storiau eraill, ac wrth gwrs pa storiau ti'n ei dewis yn y lle cyntaf yn dangos bias i un ochor neu'r llall. Mae'n hollol amhosib creu stori newyddion a dim gronyn o fias ynddo o gwbwl, dim bod ein newyddiadurwyr yn trio wrth gwrs.