Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Iau 06 Mai 2004 12:08 pm

Mae niferoedd o gyrff a sefydliadau megis Amnesty International yn dweud fod y camdrin yn systematig. Felly mae'r milwyr yn torri eu 'rheolau' os nad ydynt yn camdrin y carcharorion, gan mai systematig yw'r camdrin.
32 yn ffigwr cymharol fach ydi o? Beth oedd y ffigwr cynt am flwyddyn dan Saddam yn ei garchardai swyddogol felly Garnet? Gan fod canfyddiadau poblogaidd fel hyn mor gadarn yn ein meddyliau efallai byddai tystiolaeth yn hawdd ei ddarganfod. Jysd i ni gael cymharu pa mor ddrwg oedd Saddam i gymharu hefo pa mor ddrwg di America.

32 yn y carchardai mwyaf ydi'r ffigwr yma. Beth am y gweddill? Mae ymgeision i guddio cyrff wedi cael eu darganfod unwaith neu ddwy - beth am y rhai lwyddodd?
Maent yn lladd pobl heb brawf nag amheuaeth eu bod yn euog o ddim Garnet.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 06 Mai 2004 12:12 pm

Ffiaidd

Delwedd

Delwedd

Delwedd

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Macsen » Iau 06 Mai 2004 12:21 pm

Mi oeddwn i wedi licio i'r lluniau cynt, Hedd. Dewis yr unigolun ydi o i edrych arnynt dwi'n meddwl. Dim bofi fi ddim isho gweld llun o ddyn noeth marw wedi ei lapio a cling ffilm (falle mai Roy Orbison dio?) bob tro dwi'n logio ar y Maes. :o
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 06 Mai 2004 12:44 pm

Heb weld y linc sori Macsen. Oddi ar wefan y BBC mae'r rhein, a byddant ar bob bwletin newyddion heno. Credu bod eu defnydd ar y Maes yn dderbynniol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Macsen » Iau 06 Mai 2004 12:48 pm

Wel, fel un o feistri'r CYI, mae defnyddio lluniau er mwyn creu 'shock' and 'awe' yn arferol i ti, debyg. Digon teg, dwi'n siwr bod pawb wedi cael golwg arnyn nhw'n barod beth bynnag. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Iau 06 Mai 2004 1:09 pm

Y llun ola na (o'r boi marw) oni yn cyfeirio ato gynna (nesim ei ffendio fo ar y we). Mi gafodd ei gorff o ei rewi am ddiwrnod yna ei daflu i ffwrdd. Ma'r milwyr oedd yn gyfrifol yn deud ei fod o wedi marw tra'n cael help gan feddyg, ond ma'r diffyg dannedd, trwyn wedi torri a dwy lygad ddu yn hintio at wbath arall.

Garnet, be sy'n y mhoini i ydi ma dim ond ar ol i'r llunia ma ddod allan ma'r fyddin yn addo 'newid eu rheola' a 'sicrhau na ddigwyddith eto'. Ma na restr faith o gwynion yn erbyn triniaeth o garcharorion yn Iraq sydd yn dyddio nol yn bell mewn i 2003. Ond gan nad oedd na lunia nath y papura ddim ei wneud yn 'big thing' a nath y fyddin neud ffyc all.
Ma'n edrych ma'r unig reswm ma nhw'n gaddo newid petha ydi achos fod y cyhoedd wedi ffendio allan, sy'n golygu ma jusd PR ydi'r addewidion.

Ma'r fyddin wedi bod yn dal carcharorion mewn rhyfeloedd dros y byd am ddegawdau. Mai'n anodd credu ma jusd yn y rhyfel yma ma na gamdrin fel hyn, felly pam na wnaeth y fyddin 'newid y rheola' cynt i 'sicrhau na ddigwyddith o eto'?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 06 Mai 2004 1:18 pm

Yn union, falle fod y pethe yma'n digwydd yn ddyddiol, a bod y MWYAFRIF yn cymryd rhan. Sut i ni'n gwbod?

Fel dwedodd Cwlcymro, os na fysa rhai Milwyr mor dwp thynnu lluniau o'r erchyllderau yma, falle bydde ni byth wedi darganfod y gwirioned. Yr unig beth sy'n bendant ar ol hyn ydy na fydd y milwyr yn tynnu lluniau mwyach, ond sut i ni'n gwbod na fyddant o hyd yn gweithredu yn yr un modd?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Garnet Bowen » Iau 06 Mai 2004 1:19 pm

Wps. Wedi golygu
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Iau 06 Mai 2004 1:20 pm

Sioni Size a ddywedodd:Mae niferoedd o gyrff a sefydliadau megis Amnesty International yn dweud fod y camdrin yn systematig. Felly mae'r milwyr yn torri eu 'rheolau' os nad ydynt yn camdrin y carcharorion, gan mai systematig yw'r camdrin.


Lol. Mae Amnest yn deud mai nid y rhain ydi'r unig engrheifftiau o artaith sy'n bodoli. A mi ydw i'n siwr eu bod nhw'n iawn. Ond tydi'r gair "systematic" ddim yn ymddangos unwaith yn eu datganiad nhw i'r wasg.

Datganiad Amnest i'r wasg

Ac mae nodi fod 'na fwy nac un enghraifft yn gwbwl wahanol i honi (fel yr wyt ti'n ei wneud) mai atreithio ydi'r arferiad, ac mai eithriadau ydi'r milwyr sydd ddim yn arteithio carcharorion.

Sioni Size a ddywedodd:32 yn ffigwr cymharol fach ydi o? Beth oedd y ffigwr cynt am flwyddyn dan Saddam yn ei garchardai swyddogol felly Garnet? Gan fod canfyddiadau poblogaidd fel hyn mor gadarn yn ein meddyliau efallai byddai tystiolaeth yn hawdd ei ddarganfod. Jysd i ni gael cymharu pa mor ddrwg oedd Saddam i gymharu hefo pa mor ddrwg di America.


'Da ni wedi bod dros hyn ganwaith, Sioni. Mae 'na ddigonedd o dystiolaeth o droseddau Saddam, diolch i Amnest, y Cenhedloedd Unedig etc. Ond mae dod o hyd i ffigyrau pendant yn amhosib, oherwydd fod ei Iraq o yn wladwriaeth gudd. Coelia neu beidio, doedd o ddim yn cyhoeddi faint o bobl oedd yn cael eu lladd gan ei heddlu cudd. Doedd o mond yn eu gwthio eu cyrff nhw i mewn i dwll yn y ddaear, ac anghofio amdanyn nhw.[/quote]
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Iau 06 Mai 2004 1:26 pm

Ond mae dod o hyd i ffigyrau pendant yn amhosib, oherwydd fod ei Iraq o yn wladwriaeth gudd. Coelia neu beidio, doedd o ddim yn cyhoeddi faint o bobl oedd yn cael eu lladd gan ei heddlu cudd. Doedd o mond yn eu gwthio eu cyrff nhw i mewn i dwll yn y ddaear, ac anghofio amdanyn nhw.


Dim mod i isho mynd mewn i'r ddadl dwp o "ma milwyr Prydain a America yn waeth na rhai Saddam" ond faint o bobl ddiniwed sydd wedi ei lladd yn Iraq Garnet?

Mae dod o hyd i ffigyra pendant yn amhosib. Coilia neu beidio, dydi America a Phrydain ddim yn cyhoeddi faint o bobl sy'n cael ei lladd gan ei milwyr. Dydi nhw ddim hyd yn oed boddro eu gwthio mewn i dwll yn y ddaear, ma nhw yn ei lladd, yn cerddad ffwrdd ac yn anghofio amdanyn nhw.

Datganiad teg?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron