Sioni Size a ddywedodd: Mae pob person diniwed sy'n cael ei ladd yn drychineb - ond efallai fod galw Nick Berg yn gwbl ddiniwed yn stretchio hi braidd. Fe roedd yn manteisio ar yr ysbail oedd wedi ei ddarparu i gwmniau preifat America gan ryfel Bush wedi'r cyfan.
Dyma feddylfryd Al-Queda ei hun. Wnaeth y bachgen ifanc yma ddim byd i niweidio neb erioed, ond eto, am ei fod yn cyd-weithio gyda'r Americanwyr, mae ei ddiniweidrwydd yn cael ei gwestiynnu gen ti. Mae hyn yn beryglus o debyg i'r ffordd y mae Osama Bin Laden a'i debyg yn cyfiawnhau lladd pobol ddiniwed - gan gynnwys Mwslemiaid eraill - ar 11eg o Fedi, 2001.
Sioni Size a ddywedodd:Ond nol at Irac. Rwan ei fod wedi ei sefydlu yn y llif poblog fod y camdrion o garcharorion, 90% o'r rhain wedi ei pigo o'r stryd heb fod yn euog o unrhyw beth, wyt ti dal yn credu fod Iraciaid yn falch o gael yr americanwyr yn irac Gar? Ydi dy safbwynt wedi newid o gwbl ers i chdi weld hefo dy lygada diniwed dy hun beth mae'r gwareiddwyr yn ei wneud yn y wlad?
Dwi yn siomedig fod y petha yma yn digwydd ar y fath raddfa. Tydw i erioed wedi credu fod milwyr y cyngrheiriaid yn cusanu traed eu carcharorion, a tydw i ddim yn meddwl fod angen iddyn nhw. Mewn sefydliad fel y fyddin, sy'n dysgu pobl i ladd ac ymladd, mae hi'n anorfod fod 'na unigolion yn mynd yn rhy bell weithia. Ond mae hi yn warthus fod cyn lleied yn cael ei wneud i rwystro carcharorion rhag cael eu camdrin, ac i gosbi'r rhai sy'n gyfrifol.
Sioni Size a ddywedodd:Nid fod hyn yn drosedd yr un mor fawr a Falluja, y sancsiynau, y celwydd am y WMD wrth gwrs, ond o ran diddordeb a ydi o wedi newid dy ffordd o weld pethau Garnet?
Ydi hyn wedi newid fy safbwynt i am y rhyfel? Nacdi, dim o gwbwl. Mae wedi newid y ffordd dwi'n gweld y fyddin Americanaidd, ac mi ydw i'n gobeithio y bydd wedi newid y ffordd y mae rhai Americanwyr yn gweld eu byddin eu hunain. Ond tydw i ddim yn meddwl ei fod wedi gwneud mymrun o wahaniaeth i'r ffaith fod y rhyfel wedi cael dylanwad positif ar Irac, ac y bydd petha yn dal i wella efo amser.
Fel dwi wedi bregethu droeon, nid yn y tymor byr y dylia ni bwyso a mesur llwyddiant y rhyfel. Doedd trechu Saddam ddim yn mynd i droi Irac yn baradwys dros nos. Y cwestiwn pwysig ydi beth fydd effaith y rhyfel mewn 5, neu 10, neu 50 mlynedd.