Cwlcymro a ddywedodd: Ma'n edrych ma'r unig reswm ma nhw'n gaddo newid petha ydi achos fod y cyhoedd wedi ffendio allan, sy'n golygu ma jusd PR ydi'r addewidion.
Ond mewn democratiaeth, mae'r cyhoedd yn holl bwysig. Yn ystod Rhyfel Fietnam, fe fu rhai o filwyr America yn gyfrifol am lofruddio holl drigolion pentref My Lai - dynion, merched a phlant. Fe wnaeth y cyhoedd "ffeindio allan", ac fe fuo'r digwyddiad hwnw yn gyfrifol am newid agwedd niferoedd anferth o bobl tuag at y rhyfel. A fuo 'na ddim My Lai wedyn. Dyna ydi grym y cyhoedd mewn democratiaeth - mi wneith gwleidwyr drio'u gorau i'n twyllo ni, ond unwaith mae'r gath allan o'r cwd, mae hi'n anodd iawn iddyn nhw fynd yn ol i'w hen arferion. Os ydi Bush am ddal ei afael ar rym, mae'n rhaid iddo fedru dangos ei fod o o ddifri am rhoi stop ar y math yma o beth. Mae un enghraifft yn niweidiol, dwy neu dair enghraifft yn ddifrifol, ond byddai polisi parhaol o artaith yn ddigon i droi'r cyhoedd (sy'n amheus ynglyn a'r rhyfel yn barod) yn ei erbyn o yn llwyr.