Macsen a ddywedodd:Owain Llwyd a ddywedodd:'Ta bod gen yr Americanwyr/Prydeinwyr bwysicach pethau i wneud na phoeni am les y bobl yn eu carchardai? Can't be doing with human rights. There's a war on don't you know?
Wrth gwrs bod hawliau dynol yn bwysig, ond mewn rhyfel mae pwysicach bethau i gwyno amdanynt na dyn yn cael ei bisio arno. Does dim angen llyniau o'r fath i wybod bod y math yma o beth yn mynd ymlaen mewn rhyfel. Ti'n disgwyl i nhw fod yn saethu at yr Iraciaid un funud ac yna'n tuckio nhw mewn i'r gwely y funud nesaf? Dw i yn erbyn y rhyfel yn bersonnol, ond dwi'n meddwl ei fod hi'n bwysicach i ni fel gwrthwynebwyr y rhyfel i gwyno am y problemau mawr na ryw broblemau bach pitw fel hyn. Pam uffar mae pobl yn ffeindio'r lluniau yma mor frawychus pam bo lluniau llawer mwy afiach yn ein cyraedd ni bob dydd?
Iawn. Dw i'n cytuno efo hyn i raddau helaeth, wrth gwrs, fel dw i wedi trio ei ddangos wrth bostio uchod. Mae'n debyg bod hyn i gyd yn dod yn ôl at y pwynt oedd Dylan yn ei wneud ynghylch naïfrwydd pobl sy'n dechrau cael amheuon ynghylch y busnes Irac yn sgil gweld y lluniau'ma. O'm rhan fy hun, fawr o ots be sy'n peri i bobl ddechrau cwestiynau fersiynau swyddogol o'r holl lanast - os llun o filwr tybiedig yn piso yn dybiedig ar garcharor tybiedig sy'n cyflawni hynny, dyna ni. Da iawn.