webwobarwla a ddywedodd:
Roeddwn wedi cael ar ddallt dy fod yn eithafwr Sioni, ond mae hyn y tu hwnt i afiach. Mae dy resymeg yr un mor wallgof a rhesymeg Bush, neu fel dywedodd Garnet, Osama ei hun.
A fyddet efo'r un agwedd tuag at Andrew Harries, Cymro a gaeth ei ladd yn Iraq ddoe? Gweithio i gwmni preifat American oedd ei hanes o hefyd. A mae hyn yn ddigon o reswm i ddawnsio ar ei fedd?
Os wyt ti mor sicr yn dy ddaliadau hynod anaeddfed a ffôl, hoffwn dy weld yn egluro dy safbwynt hurt i deulu Mr. Harries, ac egluro i'w ferch fach fod ei thad wedi haeddu marw. 'Rwyf yn sicr y byddai'r cyfryngau â chryn ddiddordeb hefyd, beth amdani?
Diddorol Webwo, diddorol.
Pryd ddawnsiais ar fedd Nick Berg felly?
Ond os wyt ti'n disgwyl yr un faint o dosturi tuag at filwyr ac ysbeilwyr y goresgyn a dylid ei roi at bobl Irac, yna ti'n edrych yn y lle rong.
Mae dy sialens i siarad hefo teulu Andrew Harries yn pathetig. Fedrai weld Almaenwyr yn '42 ac Americans yn '69 yn rhoi'r un sialens i wrthwynebwyr y rhyfeloedd hynny hefyd.
Ww. Roedd Andrew Harries yn dod o Gymru oedd o. Felly rhaid, drwy reolau naturiol cenedlaetholdeb, i alaru'n fwy na phe bai ryw wog wedi marw. Mae'n haeddu mwy o ddagrau? Faint o Iraciaid sydd werth un Cymro, Webwo?
Mae pobl megis Andrew Harries, y mercenaries sydd fwy na thebyg wedi bod yn y fyddin yn barod, yn ennill arian aruthrol am eu 'gwasanaethau'. £800 y DIWRNOD yw telerau cyffredin y cwmniau preifat megis Blackwatch sy'n cael cytundebau anferth gan lywodraethau Bush a Blair.
Yr hyn sy'n arwyddocaol yw fod, yn rhan o'r ddel, rhwydd hynt i'r mercenaries yma wneud fel y mynnan nhw. Mae'n rhan o'r cytundeb nad yw unrhyw un o'r contractwyr preifat yn medru cael ei erlyn yn gyfreithiol am unrhyw beth sy'n digwydd yn Irac. Ymgrymwch i'ch meistri, o Iraciaid ffodus.
Nifer o newyddiadurwyr sydd wedi ffendio'i hunain yn gofyn lle mae'r mercenaries wedi bod tan 5 y bore, yn dod nol i'w gwesty yn feddw gaib yn gwegian dan arfau.