Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Iau 13 Mai 2004 4:00 pm

Rhoi fy hun mewn lle y pobl ddaeth i'r penderfyniad i ryddhau'r lluniau oeddwn i.

Cons:

Mr. Berg yn colli' ben, ymysg nifer o bobl eraill a fydd farw i dalu nol am beth ddigwyddodd yn y carchar 'na.

Pros:

Mae gan y cyhoedd hawl gwybod.
Mi fydd o'n troi pobl America yn erbyn y weinyddiaeth Bush.
Carcharorion yn y jel 'na yn acel 'i trin yn well.

Fel y dywedais, ar ol pwyso'r pros and cons, mi fyswn i wedi dewis rhyddhau nhw. Ond mi fysai'n ddewis anodd, o weld faint o bobl sa debyg yn cael ei lladd diolch i fi. Dyma ddewis rhaid i'r weinyddiaeth Bush ei wneud rwan gyda'r lluniau newydd, ond mae dau o'r 'Pro's' ddim yn bodoli bellach.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Iau 13 Mai 2004 4:35 pm

Yn ol y son mae llawer o'r senetors oedd yn galw am i'r lluniau a'r fidio newydd gael ei rhyddhau wedi newid ei meddwl ar ol ei gweld nhw.

Ymateb un ohonu nhw oedd

"Find the most horrifying act you can imagine. Now multiply it by a thousand"
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Iau 13 Mai 2004 4:39 pm

Macsen a ddywedodd:Fel y dywedais, ar ol pwyso'r pros and cons, mi fyswn i wedi dewis rhyddhau nhw. Ond mi fysai'n ddewis anodd, o weld faint o bobl sa debyg yn cael ei lladd diolch i fi. Dyma ddewis rhaid i'r weinyddiaeth Bush ei wneud rwan gyda'r lluniau newydd, ond mae dau o'r 'Pro's' ddim yn bodoli bellach.


Cyhoeddi newyddion fel y daw i law ydi pwrpas y wasg, nid eistedd yn ol fel rhyw Judge Judy yn pwyso 'pros a cons' a dod i gasgliad os ydi o'n syniad da neu beidio i bobl gael gwybod rhywbeth neu ei gilydd.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 13 Mai 2004 4:47 pm

GT a ddywedodd:Cyhoeddi newyddion fel y daw i law ydi pwrpas y wasg, nid eistedd yn ol fel rhyw Judge Judy yn pwyso 'pros a cons' a dod i gasgliad os ydi o'n syniad da neu beidio i bobl gael gwybod rhywbeth neu ei gilydd.


Ffordd naif iawn o edrych ar y wasg, os ga'i ddweud. Ti'n meddwl mai just slapio beth bynnag sy'n disgyn mewn i'n arffed ar y tudalen flaen da ni? Mae 'ideal' y wasg yn wahanol iawn i sut mae'r wasg wir yn cael ei redeg. Wrth gwrs bod 'pro's' a 'cons' yn dod mewn iddi. :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Iau 13 Mai 2004 4:55 pm

Macsen a ddywedodd:Ffordd naif iawn o edrych ar y wasg, os ga'i ddweud. Ti'n meddwl mai just slapio beth bynnag sy'n disgyn mewn i'n arffed ar y tudalen flaen da ni? Mae 'ideal' y wasg yn wahanol iawn i sut mae'r wasg wir yn cael ei redeg. Wrth gwrs bod 'pro's' a 'cons' yn dod mewn iddi.


Ond tydi hi'n braf cael ffraeo yn lle ymryson fel dau weinidog ar gylch RET?

Wrth gwrs bod y wasg yn dewis beth i gyhoeddi - ond nid son am stori am gath yn sownd ar ben coeden yn Llanbabo, na Sam bach yn ennill cystadleuaeth 'Bubbly Baby' yn Nhrerorys ydym ni yn y fan yma. Gyda rhywbeth o'r pwysigrwydd yma roedd rhaid i'r wasg gyhoeddi, a byddai'n gwbl amhriodol mynd trwy dy ymarferiad 'ia ond brth petae _ _ _ _ ?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 13 Mai 2004 4:58 pm

GT a ddywedodd:Gyda rhywbeth o'r pwysigrwydd yma roedd rhaid i'r wasg gyhoeddi, a byddai'n gwbl amhriodol mynd trwy dy ymarferiad 'ia ond brth petae....?


Dwi'n siwr bod Piers Morgan yn cicio'i hun am beidio gofyn yr cwestiwn hwnnw dau wythnos yn ol. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Iau 13 Mai 2004 5:09 pm

Rwyt ti'n cymysgu dwy ddadl - a ti'n gwybod hynny. Nid son am amheuaeth ynglyn a dilysrwydd y lluniau ydw i, son am beth ti'n ei wneud pan rwyt yn gwybod fod yr hyn sydd gennyt yn ddilys.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 13 Mai 2004 5:23 pm

Mae rhaid i'r wasg gymeryd ei cyfrifoldeb o ddifri. Hyd yn oed pam fod rywbeth yn ddilys y golygydd sy'n cael y gair ola. Mae rhaid i ti ddeall mae pobl yw newyddiadurwyr fel pawb arall- os ydi adroddiad yn debyg o gael effaith niweidiol dros ben mae'n bosib i'r golygydd ddewis peidio ei redeg o. Tydi hyn ddim yn digwydd yn aml, am ddau rheswm:

a) Mae rhaid i effaith y stori fod yn ofnadwy o niweidiol i fod mwy pwysig na gwerthu papurau yn 'bore.

b) Bydd y bastads o'r papur newydd arall 'na yn rhedeg y stori beth bynnag felly bydd rhaid i ni.

(Joc oedd y peth Piers Morgan 'na gyda llaw.) :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Iau 13 Mai 2004 6:12 pm

Ia, ond yn y diwedd lledaenu newyddion, nid ei reoli ydi priod waith papur newydd.

Wrth gwrs, mae papurau yn dethol beth maent yn ei ddweud, neu yn amlach byddant yn rhoi pwyslais gwahanol i storiau yn ol barn wleidyddol y papur. Ond gyda storiau pwysig nid oes dewis. Alli di ddychmygu'r Telegraph yn peidio a chyhoeddi canlyniad etholiad cyffredinol am bod y Toris wedi colli?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan mred » Iau 13 Mai 2004 6:18 pm

Dwi ddim mor sicr bod papurau newydd yn baglu dros ei gilydd fel petai yn eu brys i gyhoeddi storïau sy'n feirniadol o'r sefydliad. Mae 'na lawer iawn o bethau gwarthus wedi'u gwneud gan yr heddlu er enghraifft, yn erbyn ymgyrchwyr amgylcheddol, streicwyr, aelodau o leiafrifoedd ethnig, bobl ifanc ayb., sydd unai wedi'u hanwybyddu'n llwyr gan y wasg/cyfryngau, neu wedi'u llurgunio i ddangos y dioddefwyr mewn golau drwg/rhoi y bai arnyn nhw.

Mi glywais i bod yr heddlu'n hynod barod i fynd i gyfraith yn erbyn unrhyw un sy'n meiddio eu portreadu mewn modd negyddol, a bod ar y cyfryngau ofn gafael mewn straeon o'r fath felly. Mae hyn yn sicr yn wir am y cyfryngau yng Nghymru.

Ar wahân i waith nifer fechan o newyddiadurwyr a phapurau gydag adnoddau sylweddol, faint wir o newyddiaduraeth wreiddiol (yn hytrach na dilyn y stori fawr ddiweddaraf, pan mae'n saff gwneud hynny) sydd gennym sy'n datgelu camweddau'r sefydliad?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai