RET79 a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Ti'n meddwl bod cwestiynu pethau yn wael?
Dwi'n meddwl fod cwestiynu popeth i.e. pob dim mae rhywun yn ddweud, yn wastraff llwyr o amser ac yn cymryd y piss, sy'n golygu fod trafodaeth yn cael ei gwyro lawr nifer o lwybrau dibwys. Plentynaidd go iawn hefyd. Mae llawer o bethau yn 'accepted norm' i'r mwyafrif helaeth o bobl sydd yn trafod: os wyt ti'n credu dy fod ti mor bwysig dy fod uwchlaw y rheiny, ac yn meddwl dy fod yn haeddu eglurhad manwl am bob cornel o bob brawddeg mae pobl yn ddweud, wel dyna fo.
Ond mae dy duedd i roi pawb o'r adain chwith yn wall sylfaenol yn dy ddadl. Tydi o ddim yn 'pigo ar bob cornel o beth rwyt ti yn ei ddweud'.