Tudalen 1 o 22

Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:11 pm
gan Cwlcymro
Lluniau wedi'w rhyddhau o Iraciaid yn cael ei 'torturo' (be di'r gair Cymraeg? Arteithio di'r gora dwi'n gallu ffendio :?) mewn carchar Americananidd.
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/3672901.stm

Ma na luniau eraill, sy rhy fudr i ddangos ar BBC yn dangos carcharorion noeth wedi ei clymu i'r llawr tra bod yna filwyr o'i gwmpas yn codi bawd at y camera.

Ma'r lluniau wedi ei gwirio gan America.

Be sy'n ddiddorol ydi y stori yma yn America ei hun. Mi gafodd y llunia ei rhyddhau gan CBS. Ond dydy'r lluniau ddim yn ymddangos efo'r stori ar ei gwefan.

Yr unig beth sydd gan CNN ydi llun o dudalen ffrynt y Times a'r Daily Mail (y llun na sydd ar wefan y BBC)

Ac i goroni'r cyfan, dydi Fox News na ABC News ddim yn gweld y stori ddigon pwysig i son amdani yn UNMAN ar ei gwefan!!

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:13 pm
gan Macsen
Cwlcymro a ddywedodd:Ac i goroni'r cyfan, dydi Fox News na ABC News ddim yn gweld y stori ddigon pwysig i son amdani yn UNMAN ar ei gwefan!!


Fyswn i erioed wedi dyfalu.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:15 pm
gan DAN JERUS
Welis i rhain ar y newyddion neithiwr, bleimi :ofn: good 'ole boys (and girls) bush yn dangos eu lliwiau :?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:28 pm
gan Macsen
Ar y gymhariaeth rhwng hyn a sut oedd Saddam yn trin ei garcharorion:

I don't think you can compare the two. Saddam Hussein's prisoners were not only tortured but executed. It was much worse than what is there now.


O, wel, 'dim ond' torture mae'r Americaniaid yn ei wneud. :ofn:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:36 pm
gan DAN JERUS
Mae'n warth ac i roi mwy o halen yn y briw, mae un o'r americanwyr yn edrych fel wali tomos :? Mae'n gwneud i rhywun feddwl am y stwr 'na yn guantanamo ychydig bach yn ol pan wadodd yr UDA y cyhuddiadau o greulondeb.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 12:41 pm
gan Macsen
Dyma'r Lluniau Oedd yn Rhu Sensatif I'r BBC. Cofiwch: Mae'r lluniau yma'n dangos petha bach yn sgym, er bod y privates (na, dim y milwyr) wedi ei blurrio mas. Just warning bach. Yn fyr: mi fydd eich dydd chi lot neisach heb edrych arnynt.

Dan Jerus a ddywedodd:Mae'n warth ac i roi mwy o halen yn y briw, mae un o'r americanwyr yn edrych fel wali tomos


Wneith rywun feddwl am y plant? :crio:

Dyma'r unig mensh mae FOX News yn ei roi, reeeeeeeeeeeeit ar waelod y darn yma.

Also Wednesday, a senior U.S. official said investigators have recommended administrative punishment for a number of commanders after allegations that prisoners were abused at Baghdad's Abu Ghraib prison. The official, speaking on condition of anonymity, would not give details on the recommended punishments or say how many commanders faced action.


Dyna'r unig beth! :ofn:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:02 pm
gan Dielw
Ych a fi. Trist iawn.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:13 pm
gan GT
Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:17 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.


Shit, ti'n iawn... Diolch am ein hachub ni gyd rhag embarrasment llwyr, GT. :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 1:33 pm
gan Owain Llwyd
GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.


Dam reit. Ac mi wnaeth Tony Blair gadarnhau hyn yn swyddogol yn Nhy'r Cyffredin ddydd Mercher.

Tony Blair, 28 Ebrill 2004 a ddywedodd:The people who have been killing civilians in Iraq are not the American soldiers