Tudalen 19 o 22

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 10:55 am
gan RET79
Dylan a ddywedodd:RET, ti'n anghofio mai'r rheswm euthym lawr y trywydd yma yn y lle cyntaf ydi achos dy fod wedi defnyddio gwendid yn un o ddadleuon Sioni Size (eithafwr) am Ogledd Iwerddon yn erbyn person arall (cymhedrol iawn) mewn dadl am Irác. Ble ddiawl mae'r rhesymeg yn hynny?


Lle'n union wnes i hynny? Ti'n anghywir, unwaith eto. Tria gael dy ffeithiau'n gywir cyn agor dy geg.

Dechreuodd hyn i gyd hefo cwlcymro yn dweud

Pam uffar wti, RET a Pogon yn trio taflu pawb sy'n anghytuno efo chdi mewn i un fasgaid?!

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 1:47 pm
gan Sioni Size
Newt Gingrich a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Tybed beth fyddai ymateb Fox et al, petai Iraciaid wedi arteithio Americanwyr?


Tybed pam nad yw GT, Sioni ac eraill sy'n clochdar am hawliau dynol heb ddatgan unrhyw farn am ddienyddiad erchyll y contractiwr Nick Berg?

Un rheol i America un arall i ffyndamentalwyr Mwslemaidd?

Dwi'n gweld eich diffyg condemniad o ladd y gwr hwn yn ddim mwy na hiliaeth gorllewinol. Yr agwedd mae GT a Sioni yn gyfleu yw fod disgwyl gwell gan filwyr UDA neu UK ond trwy beidio condemio llofruddiaeth mewn gwaed oer gan derfysgwyr Islamaidd mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu nad oes disgwyl gwell ganddynt. Pwy tybed yw'r Impirialwyr hiliol?


Ysblennydd. Imperialwyr yw'r goresgynwyr fel arfer, Newt.
A mi gaiff hyn fod yn ddigon o ateb i dy gwestiwn mor dreiddgar:
Why the US Bombs Al Jazeera
http://www.zmag.org/content/showarticle ... temID=5377
Media stood silent when torture first came to light
http://zmag.org/content/showarticle.cfm ... temID=5494

Mae'r linc am y dienyddiad yn sicr yn codi cwestiynau diddorol. Ond pwy fyddai mor wirion a meddwl y bysai americans, o bawb, yn dweud celwydd yn de, Ddylan gymhedrol.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:11 pm
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd:Ysblennydd. Imperialwyr yw'r goresgynwyr fel arfer, Newt.
A mi gaiff hyn fod yn ddigon o ateb i dy gwestiwn mor dreiddgar:
Why the US Bombs Al Jazeera
http://www.zmag.org/content/showarticle ... temID=5377
Media stood silent when torture first came to light
http://zmag.org/content/showarticle.cfm ... temID=5494

Mae'r linc am y dienyddiad yn sicr yn codi cwestiynau diddorol. Ond pwy fyddai mor wirion a meddwl y bysai americans, o bawb, yn dweud celwydd yn de, Ddylan gymhedrol.


Pa gwestiwn diddorol? Difyr ydi nodi dy fod ti'n gwrthod pasio barn ar ddienyddiad Nick Berg, hyd yn oed wedi i rywun dy herio di ar y mater. Beth ydi dy farn di (h.y. nid barn Znet, am unwaith) ar y mater?

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:12 pm
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:RET, ti'n anghofio mai'r rheswm euthym lawr y trywydd yma yn y lle cyntaf ydi achos dy fod wedi defnyddio gwendid yn un o ddadleuon Sioni Size (eithafwr) am Ogledd Iwerddon yn erbyn person arall (cymhedrol iawn) mewn dadl am Irác. Ble ddiawl mae'r rhesymeg yn hynny?


Dwi'n credu mai Newt wnaeth hyn, dim RET79.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:22 pm
gan Sioni Size
Garnet yr hen gyfaill - croeso nol!

Wel, ag ystyried am funud fod y dienyddiad hynod handi yma wedi ei wneud gan gell Al-Qaida o Jordan fel mae'r Americaniad(nid iraciaid fel oedd Stewart Carson yn ddweud) yn honni beth wyt ti'n ddisgwyl i fi ddweud? Mae pob person diniwed sy'n cael ei ladd yn drychineb - ond efallai fod galw Nick Berg yn gwbl ddiniwed yn stretchio hi braidd. Fe roedd yn manteisio ar yr ysbail oedd wedi ei ddarparu i gwmniau preifat America gan ryfel Bush wedi'r cyfan.

Ond nol at Irac. Rwan ei fod wedi ei sefydlu yn y llif poblog fod y camdrion o garcharorion, 90% o'r rhain wedi ei pigo o'r stryd heb fod yn euog o unrhyw beth, wyt ti dal yn credu fod Iraciaid yn falch o gael yr americanwyr yn irac Gar? Ydi dy safbwynt wedi newid o gwbl ers i chdi weld hefo dy lygada diniwed dy hun beth mae'r gwareiddwyr yn ei wneud yn y wlad?

Nid fod hyn yn drosedd yr un mor fawr a Falluja, y sancsiynau, y celwydd am y WMD wrth gwrs, ond o ran diddordeb a ydi o wedi newid dy ffordd o weld pethau Garnet?

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:28 pm
gan RET79
Macsen a ddywedodd:Dwi'n credu mai Newt wnaeth hyn, dim RET79.


Wna i ddim dal fy ngwynt am ymddiheuriad.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:34 pm
gan Garnet Bowen
Sioni Size a ddywedodd: Mae pob person diniwed sy'n cael ei ladd yn drychineb - ond efallai fod galw Nick Berg yn gwbl ddiniwed yn stretchio hi braidd. Fe roedd yn manteisio ar yr ysbail oedd wedi ei ddarparu i gwmniau preifat America gan ryfel Bush wedi'r cyfan.


Dyma feddylfryd Al-Queda ei hun. Wnaeth y bachgen ifanc yma ddim byd i niweidio neb erioed, ond eto, am ei fod yn cyd-weithio gyda'r Americanwyr, mae ei ddiniweidrwydd yn cael ei gwestiynnu gen ti. Mae hyn yn beryglus o debyg i'r ffordd y mae Osama Bin Laden a'i debyg yn cyfiawnhau lladd pobol ddiniwed - gan gynnwys Mwslemiaid eraill - ar 11eg o Fedi, 2001.

Sioni Size a ddywedodd:Ond nol at Irac. Rwan ei fod wedi ei sefydlu yn y llif poblog fod y camdrion o garcharorion, 90% o'r rhain wedi ei pigo o'r stryd heb fod yn euog o unrhyw beth, wyt ti dal yn credu fod Iraciaid yn falch o gael yr americanwyr yn irac Gar? Ydi dy safbwynt wedi newid o gwbl ers i chdi weld hefo dy lygada diniwed dy hun beth mae'r gwareiddwyr yn ei wneud yn y wlad?


Dwi yn siomedig fod y petha yma yn digwydd ar y fath raddfa. Tydw i erioed wedi credu fod milwyr y cyngrheiriaid yn cusanu traed eu carcharorion, a tydw i ddim yn meddwl fod angen iddyn nhw. Mewn sefydliad fel y fyddin, sy'n dysgu pobl i ladd ac ymladd, mae hi'n anorfod fod 'na unigolion yn mynd yn rhy bell weithia. Ond mae hi yn warthus fod cyn lleied yn cael ei wneud i rwystro carcharorion rhag cael eu camdrin, ac i gosbi'r rhai sy'n gyfrifol.

Sioni Size a ddywedodd:Nid fod hyn yn drosedd yr un mor fawr a Falluja, y sancsiynau, y celwydd am y WMD wrth gwrs, ond o ran diddordeb a ydi o wedi newid dy ffordd o weld pethau Garnet?


Ydi hyn wedi newid fy safbwynt i am y rhyfel? Nacdi, dim o gwbwl. Mae wedi newid y ffordd dwi'n gweld y fyddin Americanaidd, ac mi ydw i'n gobeithio y bydd wedi newid y ffordd y mae rhai Americanwyr yn gweld eu byddin eu hunain. Ond tydw i ddim yn meddwl ei fod wedi gwneud mymrun o wahaniaeth i'r ffaith fod y rhyfel wedi cael dylanwad positif ar Irac, ac y bydd petha yn dal i wella efo amser.

Fel dwi wedi bregethu droeon, nid yn y tymor byr y dylia ni bwyso a mesur llwyddiant y rhyfel. Doedd trechu Saddam ddim yn mynd i droi Irac yn baradwys dros nos. Y cwestiwn pwysig ydi beth fydd effaith y rhyfel mewn 5, neu 10, neu 50 mlynedd.

PostioPostiwyd: Maw 18 Mai 2004 12:13 am
gan Dylan
Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:RET, ti'n anghofio mai'r rheswm euthym lawr y trywydd yma yn y lle cyntaf ydi achos dy fod wedi defnyddio gwendid yn un o ddadleuon Sioni Size (eithafwr) am Ogledd Iwerddon yn erbyn person arall (cymhedrol iawn) mewn dadl am Irác. Ble ddiawl mae'r rhesymeg yn hynny?


Dwi'n credu mai Newt wnaeth hyn, dim RET79.


wps, ti'n llygad dy le. Sori RET.

eitha' eironig i ddweud y gwir

PostioPostiwyd: Maw 18 Mai 2004 1:11 am
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:wps, ti'n llygad dy le. Sori RET.

eitha' eironig i ddweud y gwir


Gwarth arnat ti Dylan. Cwestiynnu un mor bur a di-fai a RET yn y fath ffordd. Tsk tsk tsk... :?

PostioPostiwyd: Maw 18 Mai 2004 9:57 am
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:Fel dwi wedi bregethu droeon, nid yn y tymor byr y dylia ni bwyso a mesur llwyddiant y rhyfel. Doedd trechu Saddam ddim yn mynd i droi Irac yn baradwys dros nos. Y cwestiwn pwysig ydi beth fydd effaith y rhyfel mewn 5, neu 10, neu 50 mlynedd.


Helo Garnet ers tro, mae'n dda dy weld yn ol.

Roedd Bush, Rumsfelt (a thithau efallai) ac ati o dan yr argraff y byddai pethau yn dechrau mynd eu ffordd erbyn hyn. Mae'r pyst yn newid rwan - rwyt yn son am hyd at 50 mlynedd. Os nad ydi'n bosibl rhagweld beth ddigwyddith mewn blwyddyn, onid yw'n ffol cymryd arnat dy fod yn medru edrych cyn belled ymlaen?