Tudalen 3 o 22

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 10:02 am
gan Cwlcymro
Meddyliwch os fysa'r llunia yma yn dangos Iracwyr yn gwneud hyn i Americanwyr a Phrydeinwyr. Dychmygwch sut fysa Bush a Blair yn arteithio!

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 1:13 am
gan Lowri Fflur
Cwlcymro a ddywedodd:Meddyliwch os fysa'r llunia yma yn dangos Iracwyr yn gwneud hyn i Americanwyr a Phrydeinwyr. Dychmygwch sut fysa Bush a Blair yn arteithio!


Sy' n profi bod pobl neis a phobl cas ar y ddwy ochr.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 8:10 am
gan Garnet Bowen
GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.


Mae be' mae'r milwyr yma wedi ei wneud yn hollol warthus, a tydw i ddim yn mynd i esgusodi eu hymddygiad nhw am eiliad. Y peth da ydi y bydd y milwyr yma yn debygol o gael ei cosbi, yn wahanol i filwyr Saddam, a oedd yn cael ei gwobrwyo am wneud petha lot gwaeth.

(Gyda llaw, mae 'na awgrymiadau fod y lluniau o filwyr Prydain yn cam-ymddwyn yn ffals.)

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 8:38 am
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Gwrandewch y diawlad dwl - fedar hyn ddim bod yn wir. Mae Garnet Bowen wedi egluro i ni i gyd ddegau os nad canoedd o filoedd o weithiau, bod Prydain a'r UDA yn Irac i amddiffyn Iraciaid rhag cael eu lladd a'u harteithio. Fyddan nhw byth yn lladd neb na'i arteithio siwr.


Mae be' mae'r milwyr yma wedi ei wneud yn hollol warthus, a tydw i ddim yn mynd i esgusodi eu hymddygiad nhw am eiliad. Y peth da ydi y bydd y milwyr yma yn debygol o gael ei cosbi, yn wahanol i filwyr Saddam, a oedd yn cael ei gwobrwyo am wneud petha lot gwaeth.

(Gyda llaw, mae 'na awgrymiadau fod y lluniau o filwyr Prydain yn cam-ymddwyn yn ffals.)


Efallai ei bod yn ddadlennol bod y fyddin (Brydeinig) yn rhyw wadu bod gwirionedd yn yr honiadau cyn cwblhau (neu efallai gychwyn) eu hymchwiliad.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 9:32 am
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:Y peth da ydi y bydd y milwyr yma yn debygol o gael ei cosbi, yn wahanol i filwyr Saddam, a oedd yn cael ei gwobrwyo am wneud petha lot gwaeth.


Os bydd rhywun yn cael cosb, dw i'n rhyw amau mai'r prif reswm dros hynny fydd y niwed maen nhw wedi'i beri i ddelwedd y fyddin.

Nes bod'na gatalog llawn o droseddau'r Prydeinwyr a'r Americanwyr yn erbyn poblogaeth Irac (annhebygol o ddigwydd), dw i ddim yn gweld diben y gymhariaeth efo be oedd Saddam Hussein wedi'i wneud (heblaw fel rhyw ymdrech eitha tila i ennill y tir uchel moesol yn ôl). Wedi'r cyfan, o ddilyn yr un cwmpawd moesol, mi allsai Saddam fod wedi dadlau am gael chwarae teg achos doedd rhai o'i weithredoedd llai gwaedlyd o ddim cynddrwg â hynny sy'n hysbys am droseddau Pol Pot.

Os oes gen rywun yr awydd i sbio, dydi hi ddim yn andros o dasg cael hyd i dystiolaeth bod lluoedd Prydeinig ac Americanaidd wedi cael eu gwobrwyo am gyflawni erchyllterau yn erbyn poblogaethau cyfan yn ystod yr hanner canrif diwetha. Er enghraifft, fel rhan o Operation Phoenix, mi oedd gofyn am gyflawni cwota o 'niwtraleiddio' dros 1,500 o bobl Fietnam y mis. Dw i ddim yn gweld rheswm dros ddechrau meddwl bod pethau wedi newid rhyw lawer erbyn hyn.

Garnet Bowen a ddywedodd:(Gyda llaw, mae 'na awgrymiadau fod y lluniau o filwyr Prydain yn cam-ymddwyn yn ffals.)


Oes, ac mae'n ddigon amwlg mae dyna'r agwedd ar y busnes mae'r prif gyfryngau Prydeinig yn ei phwysleisio ar y munud. (Mi fyswn i'n ei chael hi'n haws parchu'r ffasiwn ofal enghreifftiol gennyn nhw tasen nhw yr un mor ofalus wrth ddelio efo cyhuddiadau ynghylch erchyllterau tybiedig gelynion swyddogol y wladwriaeth.)

Ond, fel wyt ti'n gwybod yn iawn, dydi'r lluniau ond yn un elfen yn y busnes yma. Mi oedd ffynhonnell y Mirror wedi darparu adroddiad cymharol lawn ynghylch y digwyddiad tybiedig ei hun, gan gyfeirio at enghreifftiau eraill o drais gan filwyr Prydeinig yn erbyn carcharorion Iracaidd.

Mae hyn y cyd-fynd efo storïau eraill sydd wedi codi dros y misoedd diwetha ynghylch ymddygiad treisgar tebyg gan luoedd Prydeinig yn y wlad (un - a gafodd sylw yn y Guardian hefyd - yn gysylltiedig efo'r un gatrawd: sifiliad wedi'i arestio yn ystod 'ysgubiad' ac yn cael ei stido'n farw yn y ddalfa). Mae mwy am hyn ac achosion eraill i gyd i'w cael ar safle Occupation Watch.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 12:22 pm
gan Cwlcymro
Ma na awgrymiada fod y llunia yn ffals, a mae angen gwybod y gwir yn gyflym. Ond fel ddudodd Owain ma na lu o gwynion wedi bod am y gatrawd yma dros y misoedd. Ac mae'r prif lyniau, y rhai o filwyr Americanaidd, yn hollol wir, ma America ei hun wedi ei gwirio.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 4:21 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Ma na awgrymiada fod y llunia yn ffals, a mae angen gwybod y gwir yn gyflym. Ond fel ddudodd Owain ma na lu o gwynion wedi bod am y gatrawd yma dros y misoedd. Ac mae'r prif lyniau, y rhai o filwyr Americanaidd, yn hollol wir, ma America ei hun wedi ei gwirio.


Ti'n hollol iawn, toes 'na ddim amheuaeth fod y lluniau Americanaidd yn rhai iawn. Gobeithio y dysga nhw wers i'r sgymbags.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 5:03 pm
gan Sioni Size
Owain Llwyd
Os bydd rhywun yn cael cosb, dw i'n rhyw amau mai'r prif reswm dros hynny fydd y niwed maen nhw wedi'i beri i ddelwedd y fyddin.


Yn hollol.

Y math yma o beth sydd di bod yn digwydd ers y dechrau, hyd at ladd. Naifrwydd llwyr oedd meddwl fod Iraciaid am gael eu trin yn hyfryd gan yr achubwyr gwyn.
Neb yn cofio Fietnam.
A does na'm camerau gan filwyr fel arfer.

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 5:43 pm
gan ceribethlem
Diddorol darllen yr edefyn yma a sylwi nad yw maeswyr megis pogon a RET yn neidio mewn i amddiffyn y weithred yma gan eu harwyr byddinol. Wedi'r cyfan onid llu gwareidiol oedd y byddinoedd yma? :drwg:

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2004 7:06 pm
gan Dylan
'Dw i'n meddwl bod unrhyw un oedd o blaid y rhyfel i ddechrau ond sydd wedi troi yn ei erbyn oherwydd y lluniau yma yn naif ar y naw.