Tudalen 21 o 22

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 7:01 pm
gan webwobarwla
Sioni Size a ddywedodd:efallai fod galw Nick Berg yn gwbl ddiniwed yn stretchio hi braidd. Fe roedd yn manteisio ar yr ysbail oedd wedi ei ddarparu i gwmniau preifat America gan ryfel Bush wedi'r cyfan.


Roeddwn wedi cael ar ddallt dy fod yn eithafwr Sioni, ond mae hyn y tu hwnt i afiach. Mae dy resymeg yr un mor wallgof a rhesymeg Bush, neu fel dywedodd Garnet, Osama ei hun.

A fyddet efo'r un agwedd tuag at Andrew Harries, Cymro a gaeth ei ladd yn Iraq ddoe? Gweithio i gwmni preifat American oedd ei hanes o hefyd. A mae hyn yn ddigon o reswm i ddawnsio ar ei fedd?

Os wyt ti mor sicr yn dy ddaliadau hynod anaeddfed a ffôl, hoffwn dy weld yn egluro dy safbwynt hurt i deulu Mr. Harries, ac egluro i'w ferch fach fod ei thad wedi haeddu marw. 'Rwyf yn sicr y byddai'r cyfryngau â chryn ddiddordeb hefyd, beth amdani?

PostioPostiwyd: Mer 19 Mai 2004 7:34 pm
gan RET79
webwobarwla, dwi ddim yn credu gei di ateb heno gan fod hi'n lot rhy hwyr i Sioni fod ar ei draed

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 7:39 am
gan GT
Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Cymysg - a bod yn garedig - fu record y CU o ran cadw'r heddwch.

Mae rhywbeth ychydig yn chwerthinllyd am y syniad o'r CU yn trafod sut i ddelio efo gwledydd anemocrataidd, pan nad yw'r rhan fwyaf o wledydd y CU yn ddemocrataidd. Mae hyn ychydig fel gwledydd y Gymadwlad yn twt twtian ac yn bygwth taflu Zimbabwe allan, pan nad ydi llawer o'r gwledydd hynny fawr gwell. Mae dy syniad braidd fel creu fforwm i sosban alw padell yn ddu.


Felly, mi wyt ti yn erbyn gadael i'r cyngrheiriad amddiffyn Irac, ac yn erbyn gadael i'r CU wneud hynny? Pwy ddylia fod yn gyfrifol am gyfraith a threfn yn Irac 'ta, GT?


‘Dwi’n mynegi fy hun yn fler, ac yn ymddangos i gymysgu dau bwynt. ‘Rwyt yn nodi bod y CU yn ‘wych’ am gadw’r heddwch. Nid oes llawer o dystiolaeth i gefnogi’r safbwynt hwn, ond ‘dwi’n siwr y byddent yn well na’r cynghreiriaid – wedi’r cwbl lladd Iraciaid, a di sefydlogi’r ardal maent hwy yn ei wneud ar hyn o bryd. Dwi’n sylwi eu bod newydd ddifetha priodas trwy lofryddio’r rhan fwyaf o’r gwesteion.

At dy syniad (dwi’n meddwl dy fod wedi mynegi hyn yn rhywle neu ei gilydd – ‘dwi’n siwr y byddi’n fy nghywiro os ydwyf yn cam gymeryd) y dylai’r CU ddod i gasgliadau ynglyn a sut i ddelio efo gwledydd nad ydynt yn ddigon ‘democrataidd’ oedd y sylwadau eraill wedi eu cyfeirio.

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2004 4:15 pm
gan Sioni Size
webwobarwla a ddywedodd:
Roeddwn wedi cael ar ddallt dy fod yn eithafwr Sioni, ond mae hyn y tu hwnt i afiach. Mae dy resymeg yr un mor wallgof a rhesymeg Bush, neu fel dywedodd Garnet, Osama ei hun.

A fyddet efo'r un agwedd tuag at Andrew Harries, Cymro a gaeth ei ladd yn Iraq ddoe? Gweithio i gwmni preifat American oedd ei hanes o hefyd. A mae hyn yn ddigon o reswm i ddawnsio ar ei fedd?

Os wyt ti mor sicr yn dy ddaliadau hynod anaeddfed a ffôl, hoffwn dy weld yn egluro dy safbwynt hurt i deulu Mr. Harries, ac egluro i'w ferch fach fod ei thad wedi haeddu marw. 'Rwyf yn sicr y byddai'r cyfryngau â chryn ddiddordeb hefyd, beth amdani?

Diddorol Webwo, diddorol.
Pryd ddawnsiais ar fedd Nick Berg felly?
Ond os wyt ti'n disgwyl yr un faint o dosturi tuag at filwyr ac ysbeilwyr y goresgyn a dylid ei roi at bobl Irac, yna ti'n edrych yn y lle rong.

Mae dy sialens i siarad hefo teulu Andrew Harries yn pathetig. Fedrai weld Almaenwyr yn '42 ac Americans yn '69 yn rhoi'r un sialens i wrthwynebwyr y rhyfeloedd hynny hefyd.
Ww. Roedd Andrew Harries yn dod o Gymru oedd o. Felly rhaid, drwy reolau naturiol cenedlaetholdeb, i alaru'n fwy na phe bai ryw wog wedi marw. Mae'n haeddu mwy o ddagrau? Faint o Iraciaid sydd werth un Cymro, Webwo?

Mae pobl megis Andrew Harries, y mercenaries sydd fwy na thebyg wedi bod yn y fyddin yn barod, yn ennill arian aruthrol am eu 'gwasanaethau'. £800 y DIWRNOD yw telerau cyffredin y cwmniau preifat megis Blackwatch sy'n cael cytundebau anferth gan lywodraethau Bush a Blair.

Yr hyn sy'n arwyddocaol yw fod, yn rhan o'r ddel, rhwydd hynt i'r mercenaries yma wneud fel y mynnan nhw. Mae'n rhan o'r cytundeb nad yw unrhyw un o'r contractwyr preifat yn medru cael ei erlyn yn gyfreithiol am unrhyw beth sy'n digwydd yn Irac. Ymgrymwch i'ch meistri, o Iraciaid ffodus.

Nifer o newyddiadurwyr sydd wedi ffendio'i hunain yn gofyn lle mae'r mercenaries wedi bod tan 5 y bore, yn dod nol i'w gwesty yn feddw gaib yn gwegian dan arfau.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 2:46 pm
gan Dylan
Cytuno â Sioni i raddau, fel wnes i ddweud ar dudalen 6 yn rhywle:

'Sgen i ddim cymaint â hynny o gydymdeimlad tuag at Berg - aeth o i wlad sydd mewn rhyfel gyda'r bwriad syml o wneud arian, heb gymryd unrhyw ragofalon (dim hyd yn oed cyfieithydd). Cafodd ei orchymyn i adael droeon.


'doedd ei deulu ddim am iddo fynd o gwbl. 'Roedden nhw'n ddigon call i sylweddoli pa mor beryglus a thwp oedd mynd - yn enwedig mewn modd mor anghyfrifol.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 6:45 pm
gan webwobarwla
Sioni Size a ddywedodd:os wyt ti'n disgwyl yr un faint o dosturi tuag at filwyr ac ysbeilwyr y goresgyn a dylid ei roi at bobl Irac, yna ti'n edrych yn y lle rong.


A dyna'n union pam yr wyf yn anghytuno a'th safbwynt. Os ti'n meddwl fy mod i o blaid y rhyfel yma, yna mi fyddet tithau hefyd yn anghywir. Ond mae'n gas gen i glywed am bob un marwolaeth dibwys, tra mae'n eithaf amlwg dy fod yn llawenhau o glywed am Brydeinwyr / Americanwyr / pwy bynnag ond Iraciaid yn cael ei lladd. Nag wyt ti'n meddwl fod hynny braidd yn chwithig? Siawns os wyt ti gymaint yn erbyn y rhyfel, nad wyt am weld neb yn marw yn ddi-angen?

Sioni Size a ddywedodd:Mae pobl megis Andrew Harries, y mercenaries sydd fwy na thebyg wedi bod yn y fyddin yn barod, yn ennill arian aruthrol am eu 'gwasanaethau'. £800 y DIWRNOD yw telerau cyffredin y cwmniau preifat megis Blackwatch sy'n cael cytundebau anferth gan lywodraethau Bush a Blair.


Wel, gobeithiaf yn wir na fyddaf yn ddigon llwyddianus i ennill £800 y diwrnod yn y dyfodol. Mae'n amlwg fod hynny yn haeddu marwolaeth :rolio:

Sioni Size a ddywedodd:Nifer o newyddiadurwyr sydd wedi ffendio'i hunain yn gofyn lle mae'r mercenaries wedi bod tan 5 y bore, yn dod nol i'w gwesty yn feddw gaib yn gwegian dan arfau.


Be' gebyst wyt ti'n son amdano fan hyn? Ni allaf wneud pen na chynffon o'r frawddeg.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 10:10 pm
gan RET79
Sgen Sioni Size ddim byd ond cwynion, a does ganddo ddim cynigion call i'w gynnig am y ffordd ymlaen. Yn amlwg buasai pob person call yn dewis byw dan Bush yn american yn hytrach na dan Saddam yn Irac.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Mai 2004 11:07 pm
gan mred
webwobarwla a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:efallai fod galw Nick Berg yn gwbl ddiniwed yn stretchio hi braidd. Fe roedd yn manteisio ar yr ysbail oedd wedi ei ddarparu i gwmniau preifat America gan ryfel Bush wedi'r cyfan.
Os wyt ti mor sicr yn dy ddaliadau hynod anaeddfed a ffôl, hoffwn dy weld yn egluro dy safbwynt hurt i deulu Mr. Harries, ac egluro i'w ferch fach fod ei thad wedi haeddu marw. 'Rwyf yn sicr y byddai'r cyfryngau â chryn ddiddordeb hefyd, beth amdani?

Yn ôl be dwi'n ddallt, isio atebion gan Blair mae teuluoedd yr anffodusion a anfonwyd o Brydain i Irac i gwffio dros fuddiannau corfforaethau'r UD, ac a laddwyd; e.e. tad y bachgen o ochrau'r Bala a laddwyd wedi i'r fyddin dorri cytundeb a wnaethpwyd â bobl leol ynglŷn â chludo arfau, gan adael milwyr diamddiffyn yn y cach.

Mae'r holl sefyllfa'n drewi.

PostioPostiwyd: Sul 23 Mai 2004 9:23 am
gan Macsen
Dylan a ddywedodd:O.N. mae'r lwnis allan yn barod: yn ôl y cyfaill yma wnaeth y dienyddiad ddim digwydd

anhygoel


Wel, rwan mae na loonies gyda PhD's yn cytuno da nhw.

PostioPostiwyd: Sul 23 Mai 2004 5:03 pm
gan Gwyn T Paith
Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:O.N. mae'r lwnis allan yn barod: yn ôl y cyfaill yma wnaeth y dienyddiad ddim digwydd

anhygoel


Wel, rwan mae na loonies gyda PhD's yn cytuno da nhw.


Ac yn cynnig tystiolaeth reit gryf i profi'r pwynt, ond pwy a wyr........"y gwirionedd yw'r beth cyntaf i'w golli mewn rhyfel ayyb"