Tudalen 22 o 22

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 3:21 pm
gan Sioni Size
webwobarwla
A dyna'n union pam yr wyf yn anghytuno a'th safbwynt. Os ti'n meddwl fy mod i o blaid y rhyfel yma, yna mi fyddet tithau hefyd yn anghywir. Ond mae'n gas gen i glywed am bob un marwolaeth dibwys, tra mae'n eithaf amlwg dy fod yn llawenhau o glywed am Brydeinwyr / Americanwyr / pwy bynnag ond Iraciaid yn cael ei lladd. Nag wyt ti'n meddwl fod hynny braidd yn chwithig? Siawns os wyt ti gymaint yn erbyn y rhyfel, nad wyt am weld neb yn marw yn ddi-angen?

Cristnogol iawn. Rho'r un tosturi i'r llofrudd a rwyt yn roi i'r rhai sy'n cael eu llofruddio.
Efallai fedri di gael yr union run faint o dosturi i'r bobl sy'n gwneud y goresgyn a'r lladd a'r rhain
http://www.guardian.co.uk/Iraq/Story/0, ... 58,00.html
'US soldiers started to shoot us, one by one' -Survivors describe wedding massacre'
ond fedra i ddim. Dwi'm digon o gristion ne rwbath mae'n rhaid.

Y dienyddiad. Welodd rywun geg Nick Berg, neu rwbath, yn symud pam oedd o yn 'siarad'? Welis i ddim. A mae'r tystiolaeth yn y linc uchod yn hynod arwyddocaol. Mi fyddai rhywun hefyd yn disgwyl rhyw fath o sgrechian neu unrhyw beth, siawns.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 3:25 pm
gan Cwlcymro
Felly dwi'n cymeryd dy fod di o blaid dienyddio llofruddion Sioni?

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 3:28 pm
gan Sioni Size
Nadw - dydi llofruddion dan glo ddim yn beryglus i neb. Mae milwyr America yn hynod beryglus i bobl Irac.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 3:38 pm
gan Sioni Size
RET79 a ddywedodd:Sgen Sioni Size ddim byd ond cwynion, a does ganddo ddim cynigion call i'w gynnig am y ffordd ymlaen. Yn amlwg buasai pob person call yn dewis byw dan Bush yn american yn hytrach na dan Saddam yn Irac.


Tynnu milwyr America a Phrydain allan o Irac.
Rhoi Kurdistan i'r Cwrdiaid, gwlad i'r Shia a gwlad i'r Sunni. Gwlad ffals yw Irac a gafodd ei ffiniau wedi ei greu gan yr imperialwyr Prydain a Ffrainc yn rhan o rannu ysbail y Dwyrain canol, felly dylid rhoi hunanlywodraeth i holl bobl Irac. Dyma mae y bobol eisiau ond nid ydi America'n caniatau hynny oherwydd byddai'n llawer anoddach iddyn nhw fedru manteisio yn economaidd i'r fath raddau wedyn.
Trosglwyddo drwy etholiadau i'r gwledydd newydd - cael y gwledydd Arabaidd eraill i arolygu hyn a darparu lluoedd i sicrhau'r heddwch AR OL trafodaethau dwys gyda'r darpar ymgeiswyr. Nid oes rol i'r Cenhedloedd Unedig oherwydd mae casineb tuag at y CU ar ol y sancsiynau a'r celwydd yn aruthrol.
Os wyt ti eisiau trafod hyn ymhellach, Ret, dechreua edefyn arall gyda'r uchod i ni gael dy farn, yn hytrach na arwain yr edefyn hwn ar drywydd arall.

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 11:51 am
gan webwobarwla
Sioni Size a ddywedodd:Cristnogol iawn. Rho'r un tosturi i'r llofrudd a rwyt yn roi i'r rhai sy'n cael eu llofruddio.


Nid wyf yn gristion chwaith Sioni. Heddychwr, efallai.

Sioni Size a ddywedodd:Y dienyddiad. Welodd rywun geg Nick Berg, neu rwbath, yn symud pam oedd o yn 'siarad'? Welis i ddim. A mae'r tystiolaeth yn y linc uchod yn hynod arwyddocaol. Mi fyddai rhywun hefyd yn disgwyl rhyw fath o sgrechian neu unrhyw beth, siawns.


Beth wyt ti'n geisio ei ddweud felly?

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 12:18 pm
gan Sioni Size
Welis di olwg mwy ryfedd ar wyneb neb erioed? Dim smic, dim symud, gwyneb hollol fflat, edrych fel dymi. Ro'n i'n meddwl hynny'n syth bin, ac os ti'n darllen y linc uchod am y doctoriaid sy'n cwestiynu os oedd yn fyw cynt - ddweda ni fod cadw meddwl 'agored' am bwy nath yn ddoeth.

Yr un un cadair ac oedd gan yr Americans hefyd - ydi Rumsfeld a Bin Laden ill dau yn siopio'n Ikea?