Lluniau o Iraciaid yn Bagdhad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Owain Llwyd » Maw 04 Mai 2004 10:18 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Ma na awgrymiada fod y llunia yn ffals, a mae angen gwybod y gwir yn gyflym. Ond fel ddudodd Owain ma na lu o gwynion wedi bod am y gatrawd yma dros y misoedd. Ac mae'r prif lyniau, y rhai o filwyr Americanaidd, yn hollol wir, ma America ei hun wedi ei gwirio.


Ti'n hollol iawn, toes 'na ddim amheuaeth fod y lluniau Americanaidd yn rhai iawn. Gobeithio y dysga nhw wers i'r sgymbags.


Ond pwy ydi'r 'nhw' yma sy'n mynd i ddysgu gwers i'r sgymbags isaf yn y gadwyn fwyd? Y sgymbags sy'n uwch yn yr hierarchaeth? Go brin bod hynny yn ateb boddhaol i'r sgymbagrwydd sefydliadol sy'n arwain at y math yma o sefyllfa.

Mae Counterpunch wedi cyhoeddi nifer o erthyglau diweddar sy'n trafod artaith a'r sefydliad milwrol Americanaidd ymhellach - er enghraifft, y rhai sydd i'w cael yma, yma ac yma.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan RET79 » Maw 04 Mai 2004 10:42 pm

ceribethlem a ddywedodd:Diddorol darllen yr edefyn yma a sylwi nad yw maeswyr megis pogon a RET yn neidio mewn i amddiffyn y weithred yma gan eu harwyr byddinol. Wedi'r cyfan onid llu gwareidiol oedd y byddinoedd yma? :drwg:


Dyw cam-ymddygiad gwarthus rhai unigolion ddim yn tynnu ffwrdd oddi wrth y darlun mawr sef mai mynd mewn i Irac oedd y penderfyniad cywir.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 04 Mai 2004 11:42 pm

RET79 a ddywedodd:Dyw cam-ymddygiad gwarthus rhai unigolion ddim yn tynnu ffwrdd oddi wrth y darlun mawr sef mai mynd mewn i Irac oedd y penderfyniad cywir.


Cyntunaf a RET79. Dyw y llyniau yma ddim yn gwneud gwahaniaeth (mewn rhyfel, llyniau o boblyn piso ar i gilydd di'r petha neisa wela di). Y darlun mawr sy'n bwysig.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 12:06 am

Mae'r Americaniaid am aros yn Irac tan diwedd 2005.

Vietnam - Episode II: Attack of the Arabs
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Mer 05 Mai 2004 7:33 am

Macsen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Dyw cam-ymddygiad gwarthus rhai unigolion ddim yn tynnu ffwrdd oddi wrth y darlun mawr sef mai mynd mewn i Irac oedd y penderfyniad cywir.


Cyntunaf a RET79. Dyw y llyniau yma ddim yn gwneud gwahaniaeth (mewn rhyfel, llyniau o boblyn piso ar i gilydd di'r petha neisa wela di). Y darlun mawr sy'n bwysig.


Be' di'r darlun mawr bondigrybwyll erbyn hyn, felly? Mae fel tasai fo'n newid bob wythnos gan bleidwyr yr ymosodiad.

A, gan fod Dylan wedi sôn am bobl naïf, dw i'n credu bod 'na hen ddigon o le yn y categori yna i bawb sy'n meddwl bod lluniau CBS neu'r lluniau yn y Mirror yn dangos isafbwynt triniaeth y Cynghreiriaid gogoneddus o'u carcharorion. Mae'r erthyglau Counterpunch wnes i gyfeirio atyn nhw uchod yn mynd ar ôl hyn ymhellach, er enghraifft. :?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Eamon » Mer 05 Mai 2004 7:36 am

Dwi yn ddeallt bod ‘Sir’ Michael Jackson am helpu edrych i mewn i hyn. Os ydach chi yn disgwl ymchwil teg, peidiwch a dal eich gwynt.

Dechreuodd yn Iwerddon yn gweithio yn Palace Barracks wrth ymyl Belfast. 'Roedd torture yn digwydd yn y lle yma just pob dydd.

Roedd Jackson yn Rossville Street yn canol beth digwyddodd ar Bloody Sunday. Doedd o methu cofio cymaint ac un Para yn tanio gwn medda fo. Cof gwael braidd.

Wedyn fo oedd yr CO yn Iwerddon nath penderfynu bod y dau Brit nath murdro Peter Mc Bride beidio cael y sac ar ol dod o carchar, ond yn cael mynd yn syth yn ol at ei regiment.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Postiogan Sioni Size » Mer 05 Mai 2004 11:02 am

RET79 a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Diddorol darllen yr edefyn yma a sylwi nad yw maeswyr megis pogon a RET yn neidio mewn i amddiffyn y weithred yma gan eu harwyr byddinol. Wedi'r cyfan onid llu gwareidiol oedd y byddinoedd yma? :drwg:


Dyw cam-ymddygiad gwarthus rhai unigolion ddim yn tynnu ffwrdd oddi wrth y darlun mawr sef mai mynd mewn i Irac oedd y penderfyniad cywir.


A bedi'r darlun mawr Ret? Y penderfyniad cywir? I stopio Iraciaid rhag cael eu camdrin a'u lladd? Ynteu i stopio Saddam ddrwg rhag dinistrio'r byd gwaraidd hefo'i Wepyns of Maz Destrychiyn?
"Ond mae'r WMD mwyaf, Saddam, wedi ei ddal" yndo. Pathetig.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 1:48 pm

Y 'darlun mawr' yn fy marn i yw bod cwyno am camdrin carcharorion mewn rhyfel fel Baldrick yn diweddglo Blackadder, cyn mynd dros y top: "Someone could get a nasty splinter on that ladder."
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Mer 05 Mai 2004 2:17 pm

Macsen a ddywedodd:Y 'darlun mawr' yn fy marn i yw bod cwyno am camdrin carcharorion mewn rhyfel fel Baldrick yn diweddglo Blackadder, cyn mynd dros y top: "Someone could get a nasty splinter on that ladder."


Wnei di egluro hyn ymhellach? Mae dy gymhariaeth mor ysbrydoledig fel 'mod i'n methu'n lân â'i dallt hi.

Dweud wyt ti bod y 'rhyfel' i ddod efo 'gwareiddiad' i Irac mor fawr a phwysig fel bod 'na ddim angen ymdrafferthu efo rhywbeth mor bitw â thrin Iraciaid yn waraidd?

'Ta bod gen yr Americanwyr/Prydeinwyr bwysicach pethau i wneud na phoeni am les y bobl yn eu carchardai? Can't be doing with human rights. There's a war on don't you know?

'Ta wyt ti'n poeni gymaint am y bobl sy'n cael eu bomio yn y dinasoedd fel 'does 'na ddim digon o dy egni prin ar ôl i boeni am sifiliaid yn cael eu harteithio yn y ddalfa?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 2:37 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:'Ta bod gen yr Americanwyr/Prydeinwyr bwysicach pethau i wneud na phoeni am les y bobl yn eu carchardai? Can't be doing with human rights. There's a war on don't you know?


Wrth gwrs bod hawliau dynol yn bwysig, ond mewn rhyfel mae pwysicach bethau i gwyno amdanynt na dyn yn cael ei bisio arno. Does dim angen llyniau o'r fath i wybod bod y math yma o beth yn mynd ymlaen mewn rhyfel. Ti'n disgwyl i nhw fod yn saethu at yr Iraciaid un funud ac yna'n tuckio nhw mewn i'r gwely y funud nesaf? Dw i yn erbyn y rhyfel yn bersonnol, ond dwi'n meddwl ei fod hi'n bwysicach i ni fel gwrthwynebwyr y rhyfel i gwyno am y problemau mawr na ryw broblemau bach pitw fel hyn. Pam uffar mae pobl yn ffeindio'r lluniau yma mor frawychus pam bo lluniau llawer mwy afiach yn ein cyraedd ni bob dydd?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron