Tudalen 5 o 22

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 3:13 pm
gan Owain Llwyd
Macsen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:'Ta bod gen yr Americanwyr/Prydeinwyr bwysicach pethau i wneud na phoeni am les y bobl yn eu carchardai? Can't be doing with human rights. There's a war on don't you know?


Wrth gwrs bod hawliau dynol yn bwysig, ond mewn rhyfel mae pwysicach bethau i gwyno amdanynt na dyn yn cael ei bisio arno. Does dim angen llyniau o'r fath i wybod bod y math yma o beth yn mynd ymlaen mewn rhyfel. Ti'n disgwyl i nhw fod yn saethu at yr Iraciaid un funud ac yna'n tuckio nhw mewn i'r gwely y funud nesaf? Dw i yn erbyn y rhyfel yn bersonnol, ond dwi'n meddwl ei fod hi'n bwysicach i ni fel gwrthwynebwyr y rhyfel i gwyno am y problemau mawr na ryw broblemau bach pitw fel hyn. Pam uffar mae pobl yn ffeindio'r lluniau yma mor frawychus pam bo lluniau llawer mwy afiach yn ein cyraedd ni bob dydd?


Iawn. Dw i'n cytuno efo hyn i raddau helaeth, wrth gwrs, fel dw i wedi trio ei ddangos wrth bostio uchod. Mae'n debyg bod hyn i gyd yn dod yn ôl at y pwynt oedd Dylan yn ei wneud ynghylch naïfrwydd pobl sy'n dechrau cael amheuon ynghylch y busnes Irac yn sgil gweld y lluniau'ma. O'm rhan fy hun, fawr o ots be sy'n peri i bobl ddechrau cwestiynau fersiynau swyddogol o'r holl lanast - os llun o filwr tybiedig yn piso yn dybiedig ar garcharor tybiedig sy'n cyflawni hynny, dyna ni. Da iawn.

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 3:21 pm
gan Sioni Size
Ymddangos fod y lluniau crap hyn (a mi oedda nw'n crap) wedi dod i'r fei drwy'r patrwm o ddigwyddiadau yma:

a) Milwyr yn cysylltu a'r Mirror hefo tystiolaeth a straeon o gamdrin difrifol a pharhaol o Iraciaid
b) Y Mirror yn dweud fod hon yn uffar o stori, ond y byddai llawer mwy 'gwerthfawr' hefo lluniau.
c) Y milwyr yn creu lluniau.

Petai'r lluniau wedi eu labelu fel 'reconstructions' byddai na ddim problem. Ond ni fyddan nhw mor werthfawr. Wrth gwrs, nid yw byddin Prydain mor wirion a gadael i gamerau eu tynnu'n poenydio Iraciaid.

A gwenu hefo'u prae fel ianci dwdl moron.

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 3:28 pm
gan Macsen
Mae'r Mirror wedi glanio mewn cawl poeth. Hutton Inquiry arall, unrhyw un? :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 3:29 pm
gan Dr Gwion Larsen
Neith o shwr o fod dod allan yn bai y BBC eto!

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 4:09 pm
gan ceribethlem
macsen a ddywedodd:Wrth gwrs bod hawliau dynol yn bwysig, ond mewn rhyfel mae pwysicach bethau i gwyno amdanynt na dyn yn cael ei bisio arno.

1. Onid (fel soniwyd eisoes) rhyfel er mwyn dod a gwareiddiad i bobl Irac oedd pwrpas y rhyfel?
2. Fe wnaeth Bwsh ddatgan fod y rhyfel ar ben rhai misoedd yn ol a bellach cadw'r heddwch a hwyluso'r broses o ddod a democratiaeth a llywodraeth newydd teg i Irac yw pwrpas y milwyr bellach.

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 4:19 pm
gan Macsen
Ceri a ddywedodd:Onid (fel soniwyd eisoes) rhyfel er mwyn dod a gwareiddiad i bobl Irac oedd pwrpas y rhyfel?


Rheini o blaid 'rhyddid' wrth gwrs. Cofia bod y carcharorion yma yn 'freedom hatin' terrorists'.

Ceri a ddywedodd:Fe wnaeth Bwsh ddatgan fod y rhyfel ar ben rhai misoedd yn ol a bellach cadw'r heddwch a hwyluso'r broses o ddod a democratiaeth a llywodraeth newydd teg i Irac yw pwrpas y milwyr bellach.


Roeddwn i'n traod y rhyfel o ran y gost i bobl Irac. Rwyt ti'n trafod y rhyfel o ran y gost i weinyddiaeth America. Milwr yn piso ar soldiwr=Cath yn piso ar y chips. I bush mae y rhyfel gartref, sef yr un i wneud i pobl America ei ethol eto, yn fwy pwysig na'r rhyfel esmwytho bywyd pobl Irac. Rydym ni bobl sy'n erbyn y rhyfel yn gwybod bod y rhyfel yn anghywir, ac felly poeni am bobl Irac dw i, nid delwedd Bush yn y papurau newydd.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 11:04 am
gan Cwlcymro
Cofia bod y carcharorion yma yn 'freedom hatin' terrorists'.

Lleidr oedd y dyn gath ei falu a'i bisio arno, cael ei ddal yn dwyn nath o, dim terfysgwr. (gan gymeryd fod y lluniau yn wir)

Milwr yn piso ar soldiwr=Cath yn piso ar y chips

Ma pobl yn neud gormod o'r piso ma. hwnna oedd o llun 'neisia' sydd wedi dod allan. Dim dyna ydi'r broblam, hein di'r broblam

Delwedd

Neu'r llun yn papura heddiw o Iracwr wedi marw. (Methu ei weld ar y we)
Ma na 32 o Iraciaid wedi marw mewn tra'n garcharorion i America a Phrydain. Ma 12 o rheini yn 'natural causes', un yn 'lawful manslaughter' (be bynnag ydi hwnnw) a 19 heb esboniad.

Ma'n wir Ifan, piso cath ydi'r llun o foi yn piso a'r garcharor, ond ma na lyniau eraill LOT gwaeth.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 11:10 am
gan Macsen
Dwi'n credu dy fod ti wedi camddeall be mae 'Cath yn piso ar y chips' yn ei feddwl. Mae'n cael ei ddefnyddio yn yr un cyswllt a 'cath wedi piso ar y matchys', neu 'mam gu di cachu'n y cawl'. Mae o'n feddwl bod rywbeth wedi digwydd i ddinistro cynllyn rywun. Yn yr achos hwn, mae'r llyniau wedi distrywio cynllun Bush i wneud i pobl Irac, a'r pobl gartref, weld yr Coalition fel 'peace keeping force'. Mi ddefnyddiais i'r dywediad fan hyn am ei fod yn siwtio llun o foi yn cael ei biso arno. Ymddiheuraf os camddeallaist ti. Nawr, ydi'r Americanwr na'n mynd a corff yr Iracwr am dro?

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 11:15 am
gan Cwlcymro
Sori, ti'n iawn, cath piso ar chips = diwadd cynllwyn.

Ond ma'r prif bwynt yn gywir beth bynnag, mi odda chdi'n deud
ond mewn rhyfel mae pwysicach bethau i gwyno amdanynt na dyn yn cael ei bisio arno
a be oni'n trio ddeud (yn wael dwi'n cytuno!) oedd fod chdi'n son am y piso fel y peth gwaethaf da ni wedi ei weld.

Nawr, ydi'r Americanwr na'n mynd a corff yr Iracwr am dro?

Y peth sy'n gwneud y llun mor ddrwg Macsen, ydi nad corff ydi hwnna, ma'r boi dal yn fyw.

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2004 11:55 am
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Ma na 32 o Iraciaid wedi marw mewn tra'n garcharorion i America a Phrydain. Ma 12 o rheini yn 'natural causes', un yn 'lawful manslaughter' (be bynnag ydi hwnnw) a 19 heb esboniad.


Dwi'n cytuno'n llwyr bod y ffordd mae'r bobl yma yn ymddwyn yn hollol warthus, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig cofio un neu ddau o betha. Mae 32 o farwolaethu yn 32 yn ormod, ond mae hwn yn ffigwr cymharol fach o ystyried yn hyn a oedd yn digwydd o dan y drefn flaenorol. A fel dwi wedi ei nodi yn barod, mae'r dynion yma yn debygol o gael eu cosbi, ac mae hi'n debygol y bydd 'na fesurau yn cael eu rhoi yn eu lle i'w gwneud hi'n anoddach i hyn ddigwydd yn y dyfodol. Dyna ydi rhinwedd llywodraeth ddemocrataidd, ryddfrydol - ella bod pobl yn torri'r rheolau, a fod lawer iawn yn trio'u plygu nhw, ond o leia mae 'na reolau yn bodoli i'n gwarchod ni rhag y math yma o beth.