Tudalen 1 o 1

sarin wedi ei ddarganfod yn Irac

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:41 pm
gan owainrhys
newyddion bod cemegyn sarin wedi ei ddarganfod mewn shell ffrwydro yn Irac. faint mor beryg yw Sarin? a ydi hyn yn cyfiawnhau y rhyfel? Bydd y papurau a'r llywodraeth yn siwr o odro y darganfyddiad - er mae dim ond un shell sydd wedi cael ei ffeindio hyd hyn.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 2:57 pm
gan Macsen
Yay! WMD o'r diwedd. Un bom sarin mewn dros 365 diwrnod, yn rhydu wrth ochor lon. Dwi wedi newid fy meddwl ar y rhyfel- mi roedd hi'n lwyddiant ysgubol yn amlwg. Dyma beth yw sarin gyda llaw: Gweler!

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 3:01 pm
gan owainrhys
be dwi isho wybod ydi fainty buase'r un bom yma wedi ei ladd - faint mor bell y gellir ei saethu e.e. a fuasai wedi cael ei daflu ar wledydd eraill?
nid yw'r darganfyddiad yn ymddangos yn syfrdanol, ond rhoi bet bydd y llywodraeth ar yanks yn ei werthu y newyddion felly.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 3:05 pm
gan Macsen
Mae'n sioc na ddarganfwyd y math yma o beth yn gynharach na hyn. Dwi ddim yn meddwl bod America yn mynd i wthio'r newyddion- mae cyfeirio at yr un bom bach rhydlyd yma yn mynd i dynnu sylw at y ffaith mai ar ol blwyddyn dim ond yr un bom bach rhydlyd yma sydd.

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 3:11 pm
gan S.W.
Byddai bom sarin yn gallu lladd lot os byddai'n gweithio'n iawn, nerv agent ydy o. Mae geni syniad na fyddai bom sarin yn y model arferol o fom yn gweithio'n iawn (byddai'r cemegyn yn cael ei ddifethaf neu rhywbeth). Y modd mwyaf llwyddianus o ddefnyddio Sarin yn y gorffennol oedd iw chwistrellu mewn ventilation shafts neu mannau ble mae llawer yn ymgynyll. Dyna gafodd ei ddefnyddio ar system tanddaearol yn Japan rhai blynyddoedd gan cult rhyfedd. Dim yn cofio enw nhw

PostioPostiwyd: Llun 17 Mai 2004 5:58 pm
gan Dan Dean
Ddy ceis ffor woooor

Wel dyna'r piysnics di cal eu rhoi yn eu lle. Heb y rhyfal ma sa'r bom bach hen rhydlyd ma efo chydig bach o Sarin wedi lladd ni i gyd dwywaith drosodd. Go Bush!