Israel

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Gor 2005 11:50 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ynglyn ac achos y Goron, dwi'n nabod Llinos yn dda, a don i ddim (a dal ddim) yn meddwl iddi wneud dim o'i le yn fwriadol. Wnes i ddefnyddio datganiad i'r Wasg Urdd Gobaith Cymru i wneud fy mhwynt. Dyna'r unig ffeithiau oedd gyda fi ar y pryd!


Fwy na sda ti fan hyn! Ac wrth gwrs, yn yr edefyn yn trafod y Goron yr oedd yn RHAID i Hedd neidio mewn yn llaw argyhoeddiad er nad oedd ganddo ddim mwy na datganiad yr Urdd i gyfiawnhau ei safbwynt.

need we say more? :lol:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Gor 2005 11:54 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Gath, darllena yn ofalus a tria ddalld.

Dydi ymosod ar weithredoedd Bush ddim yn hilol yn erbyn pobl America
Dydi ymosod ar weithredoedd Sharon ddim yn hilol yn erbyn pobl Israel


Cytuno, dyna dwi di ddweud dro ar ol tro.

Dwi ddim serch hynny yn derbyn gweddill dy gyfraniad gan dy fod wedi datgan dy fod yn coleddu barn ideolegol yn erbyn Israel - hiliaeth fyddai hynny.

O ran tyfy fyny, wel sbia adra gyfaill. Ti'n gwneud datganiadau unochrog (dy gyfaddefiad), ti'n Ideolegol wrth Israel (dy gyfaddefiad) a ti'n synnu bod rhywun yn dy alw'n hiliol?

Be sy', ofn fod mam neu dad yn darllen?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Iau 21 Gor 2005 9:19 am

Blydi hel ti'n gallu bod yn bengaled Gath.

Dydwi, na neb arall yn y drafodaeth ma yn beio gwlad israel am DDIM BYD.
Doesna neb yn fama yn beio holl bobl Israel am DDIM BYD.

Mi ydwi, a rhan fwya o'r bobl erill yma YN beio llywodraethna byddin israel am lot.

Fel ydwi, a pawb arall wedi esbonio i chdi fil a chant o weithia, dydi deud "Ma israel yn gneud hyn a llall" DDIM yn golygu y wlad, na'r holl bobl, ond y llywodraeth. Ti'n gwbo hunna yn IAWN gan dy fod di, a priti much pawb arall yn y byd yn gwneud yr un peth.

Gwranda ar Bush yn deud fod "Iran yn rouge state". Ydio'n hiliol am ddeud hunna? Nadi siwr, achos llywodraeth Iran ma'n son am. A ti'n gwbo hunna yn iawn hefyd.

Am fod efo "barn ideolegol yn erbyn israel", dwi erioed wedi deud y fath beth. Be ddudis i oedd, er mod i yn barnu'r ddwy ochr yr un faint am y lladd, o ran ideoleg y ddadl (h.y. pwy ddylsa feiddianu'r West Bank/Gaza ac a ddylsa na fod wladwriaeth Balesteinaidd) dwi'n cytuno efo Palestine.
Eto, ma'n amlwg dy fod di'n deall hyn hefyd, ond yn mynnu bod yn bengalad a babiadd. Be sy Gath, ofn deud sori?

Oh, a'r gath fach, ma'n rhaid dy fod di'n meddwl lot o dy hun i feddwl fysa'n rhieni i yn poeni eiliad am be wti o bawb yn ei ddeud!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Iau 21 Gor 2005 11:11 am

Cwlcymro a ddywedodd:Blydi hel ti'n gallu bod yn bengaled Gath.

Dydwi, na neb arall yn y drafodaeth ma yn beio gwlad israel am DDIM BYD.
Doesna neb yn fama yn beio holl bobl Israel am DDIM BYD.


Da iawn.

Cwlcymro a ddywedodd:Oh, a'r gath fach, ma'n rhaid dy fod di'n meddwl lot o dy hun i feddwl fysa'n rhieni i yn poeni eiliad am be wti o bawb yn ei ddeud!


Na, ti'n cam ddeall, meddwl on i y byddai mam a dad yn gweld dy fod yn hilgi, nid fod fi'n deud hynny ond oherwydd be ti wedi bod yn ddweud. Mae dy gyfaddefiad uchod, sy'n derbyn fy nadl, yn awgrymu dy fod wedi bod yn defnyddio geiriau'n fler a dweud y lleiaf. O ystyried hynny yn nghyd destun un ochrog ac un llygeidiog dy ddadleuon (cyson) am Israel a dy ymffrostio mewn ideoleg gwrth 'Israel' / pro Palesteiniaid dwi'n credu dy fod wedi cyfiawnhau fy nisgrifiad.

Os nad oes gennt ddim arall i'w gynnig fel amddiffyniad pam ddim rhoi'r gorau i dy ymdrechion gwan i gyfiawnhau dy ddaliadau hyll?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Iau 21 Gor 2005 1:48 pm

Mae dy gyfaddefiad uchod, sy'n derbyn fy nadl, yn awgrymu dy fod wedi bod yn defnyddio geiriau'n fler a dweud y lleiaf.


Am negas ryfadd! Dwi heb newid fy marn o gwbwl, dwi yn deud UNION yr un peth a dwi'n deud o'r dechra. Be di'r "cyfaddefiad" ma dwi wedi neud?

Be am gyfadda gath. Ti, fi, bob sianel teledu, bob papur newydd a bob gwleidydd I GYD yn defnyddio enw gwlad wrth son am ei llywodraeth. Os ti'n cyfadda hunna, yna dim "cyfaddefiad" ydi y mhost dwytha, ond dweud yr un peth a dwi wedi ddeud o'r dechra cynta a felly ma angan i chdi ymddiheuro.

Os dwti methu cyfadda hunna plis esbonio y dyfyniada uchod.......

Chdi a ddywedodd:Dylid hefyd nodi fod Israel wedi gorfodi trigolion Iddewig Yamit i adael yn 1982


BBC a ddywedodd:Kenya kills Uganda cattle raiders

BBC a ddywedodd:Israel has occupied Gaza, the West Bank and East Jerusalem since 1967


A be am Bush yn labelu Gogledd Korea a Iran fel "axis of evil"?

Ti'n mynnu dadla mod i yn ail-bobi yn nadl, a wan ti wedi penderfynu mod i wedi "cyfadda" wbath er mod i heb newid fy nhiwn.
Os wti isho'ng ngalw i'n hiliol, ma rhaid i chdi esbonio sut ma'n nefnydd i o'r gair "Israel" yn golygu "pawb yn y wlad" tra fod dy ddefnydd di a'r BBC o union rhyn gair yn golygu y llywodraeth neu'r fyddin.

Os nad wti'n gallu esbonio hunna, tynna dy eiria nol RWAN.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 9:21 am

Cwlcymro a ddywedodd:Os nad wti'n gallu esbonio hunna, tynna dy eiria nol RWAN.


Yli, os di'r cap yn ffitio.......

Dwi'n gwled dy baranoia fan hyn yn eithaf doniol. Ti'n cyfrannu i'r Maes fel rhyw arbenigwr o sylwedd (er fod dy 'ffeithiau' yn gyson anghywir) ac wedyn yn ypsetio pan fo rhywun yn datgan fod dy agweddau yn unochrog, un llygeidiog, yn pardduo poblogaeth gwald gan dy fod, yn unol a dy gyfaddefiad, yn ideolegol gefnogol i'r Palesteiniaid (beth bynnag mae hynnyn'n feddwl).

Sori Cwl, ond i mi mae dy agweddau'n wrthyn ac yn llawn deilwng o'r disgrifiad hiliol.

Rwan llai o dy hysterics plis.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 9:23 am

Cwlcymro a ddywedodd:
BBC a ddywedodd:Israel has occupied Gaza, the West Bank and East Jerusalem since 1967




:lol: :lol: :lol:

Dwi fod i weld y BBC fel rhyw gorff cytbwys?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Gwe 22 Gor 2005 10:21 am

Gath a ddywedodd:
Cwl a ddywedodd:
Os nad wti'n gallu esbonio hunna, tynna dy eiria nol RWAN.



Yli, os di'r cap yn ffitio.......


Wti wedi dysgu sut ma peidio atab cwestiyna gan Realydd da?

Felly ti methu ffendio gwahaniaeth rhwng dy ddefnydd di o "israel" i son am y llywodraeth a'n nefnydd i o'r un gair?

Dio'm yn anodd gath, unai ffendio wahaniaeth neu ymddiheura. Gei di dal yng ngalw i yn idiot un ochrog os tisho (er nad ydwi'n meddwl mod i) ond os na ti'n gallu gwahaniaethu'r ddau ddefnydd yna dos genti ddim rhesymeg tu ol i dy ymosodiad.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 11:00 am

Cwlcymro a ddywedodd:Dio'm yn anodd gath, unai ffendio wahaniaeth neu ymddiheura. Gei di dal yng ngalw i yn idiot un ochrog os tisho (er nad ydwi'n meddwl mod i) ond os na ti'n gallu gwahaniaethu'r ddau ddefnydd yna dos genti ddim rhesymeg tu ol i dy ymosodiad.


Tiwn gron.

Dwi wedi egluro hyd syrffed fod dy holl agwedd o fewn yr edefyn hwn yn drewi.

Ti'n anghytuno.

End of story.

A dwi dal yn nodi fod dy agweddau yn hiliol. Ideoleg oedd dy ddisgrifiad, wel ideoleg fudur, unochrog, un llygeidiog a hyll.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai

cron