Israel

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Israel

Postiogan Cwlcymro » Sad 22 Mai 2004 1:14 pm

10 wedi ei lladd echddoe wrth i filwyr Israel saethu gynnau, mortars a 'tank shells' at brotestwyr oedd yn cario bwyd, diod a dillad mewn i gamp refugees.

Mi oedd hon yn brotest eitha sbesial gan fod y grwpiau terfysgol fel Hamas wedi gofyn yn gyhoeddus i bobl beidio mynd a unrhyw arf ar y brotest.

Mae nifer o'r rhei a anafwyd/laddwyd efo anafiadau yn ei cefn, sy'n cael ei disgrifio gan ddoctoriaid fel anafiadau a gafwyd tra'n rhedeg i ffwrdd.

Mi oedd yna nifer o bobl o'r Dwyrain yna, yn ogystal a chamerau, welodd neb unrhyw arfau yn y brotest.

Ond mi ddudodd Israel (shock horror) fod yna griw o ddynion wedi dechra saethu aty nhw, a bod y milwyr wedi saethu 'warning shots' a ma anffawd bach oedd fod gymaint wedi marw.

Am unwaith dydi America heb ddefnyddio y Veto arferol tra'n trafod Israel (pob tro ma'r UN wedi trio pasio datganiad yn condemio Israel, ma America wedi vetoio) ond natha nhw dal ddim pledleisio dros ddatganiad, mi wnaetho nhw 'abstainio'.

Pryd wnawn nhw ddysgu?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan gwern » Llun 12 Gor 2004 8:00 pm

Lle mae pobol yn gweld petha yn gorffen yn Israel a Palestine. Fyn hun dwi yn meddwl mewn riw deg mlynadd budd y palestiniad i gid wedi ei taflu allan o ei gwlad. Fel da chi yn neud efo carreg yn eich esgid os mae yn niwsans. Dwi yn meddwl hefyd mewn tia cant o flynyddoedd pam bydd arabiad wedi dal fynny mewn arfau rhyfel bydd yr israelis mewn deep shit achos neith y gwledydd arabiad ei crusho oherwydd bydd ei byddin llawer mwy snag mae yr iddewon yn mynd yn ffrindiau hefo nhw.
shanty shanty
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan Cwlcymro » Llun 12 Gor 2004 8:04 pm

A rwan ma nhw'n gwrthod derbyn bod ei wal nhw'n anghyfreithlon.

A be wylltiodd fi fwya oedd gwrando ar ddyfarniad y Llys yn yr Hague.
16 barnwr, 15 yn dweud ei fod o'n anghyfreithlon, 1 yn dweud ei fod yn iawn.

Dim pres am ddyfalu pa wlad oedd yr un yna yn dod o. A jusd i wneud yn siwr nad ydy Bush yn anghofio amdano fo mi wnaeth Blair gefnogi dyfarniad yr un barnwr Americananidd gan ddeud nad oes gan yr Hague 'jurisdiction'. Blydi pwdl go iawn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan gwern » Maw 13 Gor 2004 12:08 am

Dangos faint o wan a pathetic ydi international law yn de. Ddi myn gallu stopio y wall mae gael ei adeiladu a ddim yn gallu stopio rhyfel yn Iraq. Dipin bach yn pointless os mae gwledydd yn gallu gwneud fel y maent eisau. :drwg:
shanty shanty
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan morgansw12 » Maw 13 Gor 2004 11:32 am

Mae'r "International Court" yn sham llwyr. Roedd pawb yn gwybod beth fyddai'r dyfarniad ymhell cyn iddo ddod allan. Cwrt gyda mwyafrif o "ddyfarnwyr" o wledydd islamo-fascistaidd yn bownd o gael yr Israeliaid yn euog o unrywbeth dan haul.

Y gwir yw bod y ffens yn gweithio i atal y terrorists yn barod - er eu bod nhw wedi adeiladu dim ond chwarter ohono. Mae polisi Israel o adeiladu'r ffens, targedu arweinyddion y mudiadau terfysgaidd fel Hamas ac Islamic Jihad wedi bod yn llwyddianus iawn. Mae nifer yr ymosodiadu sy'n llwyddo wedi gostwng yn sylweddol - yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ffens wedi cael ei godi.

Mae'n drueni bod rhai Palesteiniaid yn cael trafferth gan y ffens, ond mae bywydau pobl yn bwysicach o lawer na cnydau.
Rhithffurf defnyddiwr
morgansw12
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 56
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 10:51 am
Lleoliad: Llundain

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Gor 2004 12:51 pm

morgansw12 a ddywedodd:Mae'r "International Court" yn sham llwyr. Roedd pawb yn gwybod beth fyddai'r dyfarniad ymhell cyn iddo ddod allan. Cwrt gyda mwyafrif o "ddyfarnwyr" o wledydd islamo-fascistaidd yn bownd o gael yr Israeliaid yn euog o unrywbeth dan haul.

Y gwir yw bod y ffens yn gweithio i atal y terrorists yn barod - er eu bod nhw wedi adeiladu dim ond chwarter ohono. Mae polisi Israel o adeiladu'r ffens, targedu arweinyddion y mudiadau terfysgaidd fel Hamas ac Islamic Jihad wedi bod yn llwyddianus iawn. Mae nifer yr ymosodiadu sy'n llwyddo wedi gostwng yn sylweddol - yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae'r ffens wedi cael ei godi.

Mae'n drueni bod rhai Palesteiniaid yn cael trafferth gan y ffens, ond mae bywydau pobl yn bwysicach o lawer na cnydau.


Efallai wir, ac o dan gyfraith ryngwladol tydw i ddim yn meddwl ami'r ffens ei hun sy'n anghyfreithlon, wedi'r cyfan naeth neb honi fod wal Berlin yn anghyfreithlon naddo. Y brobelm efo'r wal ydi nad ydi hi'n dilyn ffin Israel ond yn hytrach yn torri i mewn i diroedd y Palisteiniaid ar y Llain Orllewinol er mwyn cynnwys rhai o settlemnts (anghyfreithlon) Israel oddi mewn iddi. trwy wneud hyn mae llawer o Balisteiniaid yn cael eu torri i ffwrdd o bentrefi cyfagos, o'u teuluoedd ac o'u tir amaethyddol. Dyne sy'n rong, fod Israel yn defnyddio'r ffens er mwyn ail-ddiffinio ei ffiniau ei hun ac i ddwyn tir y Palisteiniaid.
Eniwe, fase ne ddim angen y wal hyma o gwbwl tase Israel jest yn gadael y tiroedd nad ydynt yn perthyn iddi ac yn caniatau hunan-lywodraeth ir' Palisteiniaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan morgansw12 » Maw 13 Gor 2004 2:03 pm

Aled a ddywedodd:Y brobelm efo'r wal ydi nad ydi hi'n dilyn ffin Israel ond yn hytrach yn torri i mewn i diroedd y Palisteiniaid ar y Llain Orllewinol er mwyn cynnwys rhai o settlemnts (anghyfreithlon) Israel oddi mewn iddi. trwy wneud hyn mae llawer o Balisteiniaid yn cael eu torri i ffwrdd o bentrefi cyfagos, o'u teuluoedd ac o'u tir amaethyddol. Dyne sy'n rong, fod Israel yn defnyddio'r ffens er mwyn ail-ddiffinio ei ffiniau ei hun ac i ddwyn tir y Palisteiniaid.
Eniwe, fase ne ddim angen y wal hyma o gwbwl tase Israel jest yn gadael y tiroedd nad ydynt yn perthyn iddi ac yn caniatau hunan-lywodraeth ir' Palisteiniaid.


Dyw'r ffens ddim yn ffin sefydlog - felly does dim rhaid iddo ddilyn y ffin. Fe allai'r ffens cael ei symud yn y dyfodol. Mae'r ffens wedi cael ei symud yn barod - mae 12 milltir wedi newid yn y gorffennol er mwyn hwyluso bywyd y Palesteiniaid sy'n byw cyfagos. A rhyw bythefnos yn ol penderfynodd Supreme Court Israel fod rhaid i symud 20 milltir arall o'r ffens.

Gyda llaw, dyma beth mae Arabiaid Israel yn ei feddwl am y ffens: http://jewishworldreview.com/0704/secur ... arab_.php3

"Like many Arab Israeli citizens who live in northern Israel along the security barrier erected earlier this year, Abu Mukh agrees with the Israeli government that it's beneficial. The Israeli military claims the barrier has cut suicide attacks coming from the now-enclosed northern West Bank by 90 percent.

"Abu Mukh questioned the International Court of Justice ruling Friday that condemned it as illegal and inhumane.

"I'm wondering if the judges ever have been here or lived here and understand the real reason for its construction," the 30-year-old asked, relaxing on his front porch with a cup of sweet Arabic coffee. "If not, they should listen and not judge."
Rhithffurf defnyddiwr
morgansw12
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 56
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 10:51 am
Lleoliad: Llundain

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Gor 2004 2:30 pm

Morgansw12 a ddywedodd:Dyw'r ffens ddim yn ffin sefydlog - felly does dim rhaid iddo ddilyn y ffin. Fe allai'r ffens cael ei symud yn y dyfodol. Mae'r ffens wedi cael ei symud yn barod - mae 12 milltir wedi newid yn y gorffennol er mwyn hwyluso bywyd y Palesteiniaid sy'n byw cyfagos. A rhyw bythefnos yn ol penderfynodd Supreme Court Israel fod rhaid i symud 20 milltir arall o'r ffens.


Ella wir, ond mae o'n reality newydd ar y ddear, sef y math o beth roedd Sharon a Bush yn ei ddefnyddio i gyfiawnhau Israel yn cadw rhannau o'r Lan Orllewinol ychydig fisoedd yn ol.
Pam ddim efaciwatio'r settlements anghyfreithlon ac adeiladu'r ffens ar hyd y ffin go iawn? Pam?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan morgansw12 » Maw 13 Gor 2004 3:26 pm

Aled a ddywedodd:Ella wir, ond mae o'n reality newydd ar y ddear, sef y math o beth roedd Sharon a Bush yn ei ddefnyddio i gyfiawnhau Israel yn cadw rhannau o'r Lan Orllewinol ychydig fisoedd yn ol.
Pam ddim efaciwatio'r settlements anghyfreithlon ac adeiladu'r ffens ar hyd y ffin go iawn? Pam?


Mae llywodraethau Israel o'r dde a'r chwith (gyda chefnogaeth mwyafrif o bobl Israel) wedi bod yn barod i adael y rhan fwyaf o'r tiroedd hynny. Hynny yw, ar yr amod bod yna gytundeb heddwch. (Sut allen nhw adael heb gytundeb pendant?)

Roedd Cytundebau Oslo i fod i arwain at yr Israeliaid yn gadael ac yn rhoi hunan-lywodraeth (yn arwain at sefydlu stad) i'r Palesteiniaid. Fe roddodd yr Israeliaid rheolaeth rhannau helaeth o'r Lan Orllewinol a Gaza i Yassir Arafat a'r Awdurdod Palesteinaidd.

Yn anffodus yn 2000 penderfynodd arweinwyr y Palesteiniaid i wrthod y ffordd hyn i heddwch. Trasiedi'r Palesteiniaid heddiw yw nad oes neb fel y Llywydd Sadat, neu'r Brenin Hussein (neu Nelson Mandela), sy'n fodlon rhoi terfyn ar derfysgaeth ac i wneud heddwch. Hynny yw, gwrthod Barak a Clinton, ac yn lle derbyn Sharon a Bush.

Gyda llaw, rhwng 1948 hyd at 1967 roedd y Lan Orllewinol ym meddiant anghyfreithlon yr Iorddonen. Pam doedd neb yn galw pryd hynny i sefydlu stad Palesteinaidd ar y Lan Orllewinol? Ac o 1948 hyd at 1967 roedd Gaza dan reolaeth Yr Aifft. Oedd rhywun yn galw ar y pryd am stad?
Rhithffurf defnyddiwr
morgansw12
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 56
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 10:51 am
Lleoliad: Llundain

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Gor 2004 3:53 pm

morgansw12 a ddywedodd:Gyda llaw, rhwng 1948 hyd at 1967 roedd y Lan Orllewinol ym meddiant anghyfreithlon yr Iorddonen. Pam doedd neb yn galw pryd hynny i sefydlu stad Palesteinaidd ar y Lan Orllewinol? Ac o 1948 hyd at 1967 roedd Gaza dan reolaeth Yr Aifft. Oedd rhywun yn galw ar y pryd am stad?


tydw i ddim yn siwr os oedden nhw'n anghyfreithlon ym meddiant yr Iorddonen a'r Aifft ond dwi'n fwy na bodlon cael fy nghywiro ar hynny.
Efallai mai'r rheswm nad oedd galw am wladwriaeth Balisteinaidd bryd hynny oedd am fod yr Aifft a'r Iorddonen ddim yn ceisio newid cymeriad yr ardal drwy adeiladu settlements, ddim yn gwahaniaethu yn erbyn y Palisteiniad nac yn piciad draw yn rheolaidd i''w lladd a dinistrio eu tai.

A mae dy ddehongliad mair Palisteiniaid yn unig fu'n gyfrifol am fethiant y broses heddwch ddiwethar yn anobeithiol o un-llygeidiog. Roedd bai ar y ddwy ochr (a'r UDA) na symudodd pethau ymlaen fel y dylen nhw fod wedi gan arwain at rwytredigaeth a cholli hyder yn y broses ar ran y Palisteiniaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai