Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ti'n trio bod yn anodd yma Cath Ddu! Ymosod ar LYWODRAETH yr UDA oedd Cwl Cymro (Sef Bush a'i ffrindiau) wrth son am 'UDA' nid y bobl, ac mae hyn yn amlwg i bawb!
Rhyfeddol Hedd. Ddaru Cwlcymri DDIM ymosod ar lywodraeth yr UDA o fewn yr edefyn hwn . So cad dy ddehongliad di-sail i chdi dy hun.
Be ddaru fo, os ti'n fodlon boddran darllen, oedd datgan NAD oedd ymosod ar Bush yn gyfystyr ac ymosodiad hiliol yn erbyn yr UDA (dwi'n cytuno) ond bu iddo hefyd amddiffyn ei ymosodiad yn erbyn Israel a'r defnydd o'r gair. Rwan ta, ti'n canolbwyntio gobeithio, - pe byddai Cwl yn ymosod ar lywodraeth Israel neu Likud fe fyddwn yn dadlau yn ei erbyn OND ni fyddwn yn ei gyhuddo o fod yn hiliol. O dderbyn ei bwynt am Bush vis a vis yr UDA mae Cwl yn 'guilty as charged' a hynny oherwydd ei gyfraniad ei hun.
Hedd a ddywedodd:Dwi'n derbyn fod CwlCymro heb wneud ei hunan yn gwbl glir gyda'i ddefnydd o'r term UDA, ond roedd PAWb (hyd yn oed ti mae'n siwr) yn gwybod beth oedd e'n ei feddwl. Plis cadwa at y ddadl yn lle ceisio cymylu pethau pan ti'n amlwg yn colli!
Hedd, daru o ddim ymosod ar yr UDA. Ti'n gwneud hyn i fyny