Mae dy gyfaddefiad uchod, sy'n derbyn fy nadl, yn awgrymu dy fod wedi bod yn defnyddio geiriau'n fler a dweud y lleiaf.
Am negas ryfadd! Dwi heb newid fy marn o gwbwl, dwi yn deud UNION yr un peth a dwi'n deud o'r dechra. Be di'r "cyfaddefiad" ma dwi wedi neud?
Be am gyfadda gath. Ti, fi, bob sianel teledu, bob papur newydd a bob gwleidydd I GYD yn defnyddio enw gwlad wrth son am ei llywodraeth. Os ti'n cyfadda hunna, yna dim "cyfaddefiad" ydi y mhost dwytha, ond dweud yr un peth a dwi wedi ddeud o'r dechra cynta a felly ma angan i chdi ymddiheuro.
Os dwti methu cyfadda hunna plis esbonio y dyfyniada uchod.......
Chdi a ddywedodd:Dylid hefyd nodi fod Israel wedi gorfodi trigolion Iddewig Yamit i adael yn 1982
BBC a ddywedodd:Kenya kills Uganda cattle raiders
BBC a ddywedodd:Israel has occupied Gaza, the West Bank and East Jerusalem since 1967
A be am Bush yn labelu Gogledd Korea a Iran fel "axis of evil"?
Ti'n mynnu dadla mod i yn ail-bobi yn nadl, a wan ti wedi penderfynu mod i wedi "cyfadda" wbath er mod i heb newid fy nhiwn.
Os wti isho'ng ngalw i'n hiliol, ma rhaid i chdi esbonio sut ma'n nefnydd i o'r gair "Israel" yn golygu "pawb yn y wlad" tra fod dy ddefnydd di a'r BBC o union rhyn gair yn golygu y llywodraeth neu'r fyddin.
Os nad wti'n gallu esbonio hunna, tynna dy eiria nol RWAN.