Cath Ddu a ddywedodd:Achos fel ti'n ddangos fan hyn eto ti'n condemnio Israel. Nid Likud, nid Llafur, nid gweithredoedd llywodraeth Israel ond Israel. Nawr te Cwl, os ti a dy blaid yn fodlon cyhuddo Ann Robinson o hiliaeth am sylwadau am y Cymry yna mae dy ymosodiadau (unochrog ac un llygeidiog) yn erbyn Israel hefyd yn amlwg hiliol.
Dwi ERIOED wedi datgan fod y Palesteiniad yn hyn neu'r llall. Ond fe fyddwn yn datgan fod Arafat wedi bod yn warth ar ei genedl, fod Hammas yn wrthun ayb. Ymosod ar arweinydd - iawn. Ymosod ar blaid lywodraethol - iawn. Ymosod ar Israel? Ti'n categoreiddio 4m o bobl fel un endid a ti'n euog o hiliaeth. Sori boi, ond dyna'r gwir.
Felly am fy mod i wedi dweud "Israel" yn lle "llywodraeth israel" ti yn barod i ddeud mod i'n hiliol? Ma'n rhaid mod i'n hiliol yn erbyn rhan fwya o'r byd felly. Dwi'n siwr i mi ddeud yn yr edefyn ma fod na fai ar "y palestiniaid" hefyd, ydwi'n hiliol yn ei herbyn nhw? A ti'n gwbo be, dwi'n meddwl fod "America" a "Phrydain" yn anghywir i fynd i ryfal. Dwi'n falch fod "Ffrainc" heb ymuno efo rhyfel Irac.
Pan dwi'n son am weithredoedd byddin a llywodraeth, dwi'n ddigon hapus i'w galw nhw'n "Israel", "Ffrainc" "America" "Rwsia" etc etc.
Ma'r rhan fwya o bobl yn defnyddio enw'r wlad wrth son am lywodraeth. Fy hyn dwi'n gallu gweld y gwahaniaeth rhwng defnydd rhywun o enw gwlad i son am lywodraeth ac i son am y bobl gyffredin.
Pan ma'r papur newydd yn deud fod America wedi gwaharadd mewnforio cig byw o Canada, dwi'n deall ma llywodraeth America wnaeth y penderfyniad, dim holl bobl y wlad.
Pam ma'r newyddion yn deud fod America wedi ymosod ar Irac, dwi'n deall ma Bush sydd wedi mynd i ryfal yn erbyn Saddam, dim fod pawb yn America wedi mynd yno i ladd pawb yn Irac.
Dwi yn yr UDA wan a pan dwi'n deud wrth bobl mod i'n meddwl fod America wedi gwneud cangymeriad wrth dynnu allan o Kyoto sa neb wedi meddwl fod hunna'n hiliol!
Paid a deutha fi nadwti erioed wedi clywad unrhywun yn defnyddio enw gwlad wrth son am ei llywodraeth. Dyna ma papura newydd yn ei wneud, dyna ma newyddion yn ei wneud, dyna ma pawb yn ei wneud. Ella fod dy ffordd di'n fwy fanwl gywir, ond dim dyna'r ffordd ma'r rhan fwya o bobl yn siarad.
Os wti wir wedi darllan fy negas i fel condemiad o bobl israel gyfa, a Iddewon y byd i gyd, yna mi wti'n cangymeryd.
Y gath a ddywedodd:Yn syml iawn nid oedd yr Aifft wedi derbyn heddwch gyda Israel ers 1948.
Miawan a ddywedodd:Dylid hefyd nodi fod Israel wedi gorfodi trigolion Iddewig Yamit i adael yn 1982
Y Giaman a ddywedodd:er gwaethaf ymdrech Ffrainc i wahardd Eidion o Brydain plygu fu rhaid iddynt yn y diwedd.
Ond, gan dy fod di, fel pawb arall, yn defnyddio enw'r wlad wrth son am ei llywodraeth a'i pholisiau, ma'n amlwg dy fod di wedi cangymeryd yn fwriadol jusd i drio ffendio rhyw gefnogaeth i dy 'accusation' bathetig fod pobl sy'n anghytuno efo chdi'n hilol. Ymddiheura.