Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 2:04 pm
gan Cwlcymro
Garnet a ddywedodd:mi ydw i'n amheus yn gyffredinol ynglyn a chreu byd sy'n llawn o wledydd "ethnig".

Dwi'n ddigon parod i weld Prydain yn torri i bedair gwlad arall, a ma na lot llai o broblemau rhwng grwpiau 'ethnig' (yn ei ddefnyddio yn lac!) yma nac yn Irac.
Ond eto, tro dwytha i ni 'greu' gwlad i un ras, mi gatha ni Israel, a di'r problema heb stopio ers i hynny ddigwydd!

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 2:44 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Tro dwytha i ni 'greu' gwlad i un ras, mi gatha ni Israel, a di'r problema heb stopio ers i hynny ddigwydd!


Dyna fy mhwynt i'n union. Mae'r syniad o greu gwledydd yn benodol ar gyfer un ffin yn broblemataidd dros ben. Unwaith ti'n cael un mewnfudwr o dras "gwahanol" yn symud i mewn, mae gen ti broblemau. Ateb tymor byr fyddai creu gwlad i'r Sunni, neu gwlad i'r Shia.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 2:47 pm
gan Cwlcymro
Be wti'n gynnig fel ateb tymor hir felly Garnet?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:18 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Be wti'n gynnig fel ateb tymor hir felly Garnet?


Dwi'n ffafrio cadw Irac yn un wlad aml-ddiwyllianol, gyda llywodraeth ffederal, a chyfansoddiad sy'n gwarchod hawl lleiafrifoedd i fyw bywyd llawn. Ond, mae gen i beth cyd-ymdeimlad gyda'r syniad o Gwrdistan annibynol.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:20 pm
gan Cwlcymro
Ond be nei di os neith llywodraeth gael ei ethol sy'n cynrychioli y diwillant mwyafrifol (sy'n ddigon tebygol o ddigwydd) a wneith ddim boddro a problemau'r grwpiau lleiafrifol?
Os na democratiaeth sofrenyddol yda ni isho (a dwi'n cymeryd fod pawb yn gytun ma dyna YDA ni isho) fedra ni ddim dweud wrth pa bynnag lywodraeth ma nhw'n ethol sut i drin y gwahanol ddiwillianau!

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:27 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:Ond be nei di os neith llywodraeth gael ei ethol sy'n cynrychioli y diwillant mwyafrifol (sy'n ddigon tebygol o ddigwydd) a wneith ddim boddro a problemau'r grwpiau lleiafrifol?
Os na democratiaeth sofrenyddol yda ni isho (a dwi'n cymeryd fod pawb yn gytun ma dyna YDA ni isho) fedra ni ddim dweud wrth pa bynnag lywodraeth ma nhw'n ethol sut i drin y gwahanol ddiwillianau!


Gwarchod yn erbyn sefyllfa o'r fath ydi pwrpas cyfansoddiad. Tydi democratiaeth gyfansoddiadol ddim yn golygu rhoi rhwydd hynt i bob llywodraeth sy'n cael ei ethol wneud fel y mynont. Mae cyfansoddiad ysgrifenedig yn rhoi guarantee cadarn i'r lleiafrifoedd na fydd rhai o'u buddianau craidd - yr hawl i addoli, i siarad yn rhydd, i ymgasglu yn rhydd etc. - yn cael eu hanghofio.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:42 pm
gan Cwlcymro
A sut wnei di wneud yn siwr fod llywodraeth yn cadw i hunna? Os ydi mwyafrif y wlad yn un diwilliant, a ddim yn licio diwilliant arall, yna mi droith llywodraeth ddemocrataidd yn 'sham' yn o fuan (sbia ar Zimbabwe).
Hyd yn oed os fysa'r llysoedd yn cefnogi'r cyfansoddiad, gan mae'r llywodraeth fysa'n rheoli'r fyddin a'r heddlu, does na fawr fysa nhw'n gallu neud.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:50 pm
gan Garnet Bowen
Cwlcymro a ddywedodd:A sut wnei di wneud yn siwr fod llywodraeth yn cadw i hunna? Os ydi mwyafrif y wlad yn un diwilliant, a ddim yn licio diwilliant arall, yna mi droith llywodraeth ddemocrataidd yn 'sham' yn o fuan (sbia ar Zimbabwe).
Hyd yn oed os fysa'r llysoedd yn cefnogi'r cyfansoddiad, gan mae'r llywodraeth fysa'n rheoli'r fyddin a'r heddlu, does na fawr fysa nhw'n gallu neud.


Toes 'na dim sicrwydd y bydd petha yn gweithio, ond fedrwn ni ddim gadael i'r bygythiad hwnw danseilio unrhyw obaith o newid.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:51 pm
gan Cwlcymro
Ond o sylwi fod na siawns weddol dda i hyn ddigwydd, oni ddylsa ni drio ffendio ffordd wahanol o ddelio a Irac wneith ddim (ella) arwain at ddemocratiaeth sham, fel ei thori fyny er engraifft.