gan Ffinc Ffloyd » Llun 24 Mai 2004 10:29 pm
Dwi'n gweld y ddadl hon yn un ddiddorol tros ben, felly dwi am drio osgoi'r cynnwrf mae RET yn lluchio'i deganau allan o'r pram yn achosi a rhoi fy marn i ar y mater (er, os oes gennoch chi ddim mynadd darllen yr isod, jyst darllenwch be ma Iwmorg a Chwadan wedi ddeud yn barod).
Mi gytuna i efo chdi, RET, am yr hyn yr wyt ti'n ddeud am dynnu'r fyddin allan rwan - mi fasa hynny'n gamgymeriad mawr. Fodd bynnag, alla ddim gweld sut y galli di ddweud 'roedd y penderfyniad yn un cywir' yn dy neges wreiddiol mor ddiflewyn ar dafod. Yn dy farn di, mi oedd o'n gywir, ond dwyt ti'n sicr ddim yn berchen ar farn mwy definitive na neb arall. Mi wyt ti hefyd yn dweud bod lluoedd arfog y cynghreiriaid wedi 'gwneud ffafr' a'r Iraciaid trwy eu rhyddhau - rhaid i mi ddeud, ti'n swnio'n anghyfforddus o agos at y cenhadon Cristnogol trwy'r oesoedd sy wedi teimlo eu bod nhw'n gwneud ffafr a'r bobl yr oedden nhw'n eu gorfodi i newid. Mi wranta nad wyt ti wedi gofyn i run Iraqi sut ma nhw'n teimlo am y peth.
A mi ydw i'n anghytuno efo chdi hefyd am y busnes 'dyletswydd' yma. Mi on i yn erbyn y rhyfel o'r cychwyn - mi ydw i'n parhau i fod yn erbyn y rhyfel. Fel y mae Iwmorg wedi deud yn barod, nid i ddymchwel regime Hussein aeth y Cynghreiriaid i Irac, medda nhw - mi aethon nhw oherwydd ei fod o'n cynrychioli bygythiad i Brydain ac America oherwydd bod ganddo arfau peryglus yn ei feddiant yr oedd yn gallu eu tanio o fewn tri chwarter awr. Flwyddyn yn ddiweddarach, y cwbl mae nhw wedi ffeindio ydi llond pot piso o sarin. Dwi'm isio i filwyr Prydeinig farw, wrth gwrs, fwy nac ydw i isio i neb arall yno farw - ond mi fasa dilyn y 'dyletswydd' yma i'w cefnogi yn awgrymu fy mod i'n cytuno a'r hyn maent yn wneud. Dydw i ddim.
Os ydi hyn yn fy ngwneud i'n asgell chwith, wel, boed felly. Y peth mwyaf anodd i'w ddeall o dy ddadl di ydi mae pobl asgell chwith sy'n erbyn y rhyfel. Dwi'n eitha siwr dy fod di'n anghywir, ond does gen i'm ystadegau i brofi hynny felly dwi'm am roi llawer o bwys ar y ddadl yna. Be dwi'n ffeindio yn fwy od ydi dy awgrym di bod pobl asgell chwith rhywsut yn anghywir ym mhopeth y maent yn ddweud. Dwi'n derbyn dy fod di'n Dori o'r radd flaenaf sydd ychydig i'r dde o Genghis Khan ar y raddfa wleidyddol, ond does bosib dy fod di mor naif i gredu mai dim ond pobl sy'n eilun-addoli Margaret Thatcher sy'n gallu bod yn iawn mewn bywyd?
Yn olaf, gair am yr edefyn hwn yn arbennig a dy ddull trafod yn gyffredinol. Dwi ddim am swnio'n patronising, ond dwi'n ffeindio dy ffordd di o drafod yn un blentynnaidd tros ben. Mae Dylan, Iwmorg, Eusebio ac eraill wedi cynnig dadleuon aeddfed a rhesymegol i ti fel ymateb i dy rant gwreiddiol - a mi wyt ti'n ymateb trwy eu galw'n blentynnaidd, anaeddfed a gwirion, gan fynd mor bell a chymryd dyfyniadau allan o'u cyd-destun gwreiddiol i geisio profi hynny. Mae hyn yn biti, oherwydd fel rhywun sy'n cynrychioli safbwynt gwahanol i'r rhan fwyaf o'r Maeswyr mi fedri di ychwanegu rhywbeth diddorol i lawer o ddadleuon - ond fel y mae'r lleill wedi dweud, plis tria fod yn resymegol ac aeddfed yn ol, yn hytrach na phwdu. Mi fydda fo'n gwneud trafodaeth yn llawer mwy diddorol.