Tudalen 1 o 7

Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:08 pm
gan RET79
Mae'n drist gweld pobl ar y maes yn neidio ar unrhyw newydd drwg i America neu Brydain yn Irac (ie, y wlad mae Cymru'n rhan ohoni sydd hefo Cymry yn y fyddin) fel ryw fath o dystiolaeth fod hi wedi bod y penderfyniad anghywir i fynd yno.

Roedd y penderfyniad yn un cywir. Mae'n job anodd iawn rhoi trefn ar y wlad a cael cefnogaeth y bobl. Dwi'n meddwl mai dyletswydd pobl Prydain yw dangos cefnogaeth i'r fyddin a cefnogi beth rydym yn trio ei wneud yno. Eisoes rydym wedi gwneud ffafr enfawr hefo pobl Irac trwy gael gwared ar regime Saddam ond mae lot o waith ar ol i'w wneud. Rydym wedi aberthu bywydau ac arian mawr yn Irac felly mae'n iawn ein bod yn aros yno i helpu roi'r wlad nol ar ei thraed er parch i'r aberthiad.

Fuasai tynnu'r fyddin allan yn llanast. Mae diffyg parch a ffydd rheiny ar y maes i'r fyddin a'r gwaith mae nhw'n ei wneud yn dweud cyfrolau am feddylfryd ffol ac anaeddfed y pobl yma.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:26 pm
gan Chwadan
RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai dyletswydd pobl Prydain yw dangos cefnogaeth i'r fyddin a cefnogi beth rydym yn trio ei wneud yno.

Ma na wall yn dy ddadl di yn fan hyn - ma na wahaniaeth rhwng cefnogi'r fyddin a chefnogi'r llywodraeth. Dwi'n meddwl fod y mwyafrif o bobl yn gefnogol i'r fyddin fel sefydliad di-duedd a phroffesiynol. Ond ar y llaw arall, mae gennym ni bob hawl i gwestiynu gweithredoedd y llywodraeth. Onibai ein bod ni'n gneud hyn, da ni ddim yn gweithredu ein hawliau na'n dyletswyddau sific. Dim ond drwy gwestiynu'r llywodraeth a chynnal dadl ymysg ein gilydd y medrwn ni sicrhau ein bod ni'n byw mewn democratiaeth lwyddiannus. Yn bersonol, dwi'n cefnogi'r fyddin achos ma nhw'n gweithredu ar ein rhan ni gyd drwy lywodraeth etholedig. Mi fedrwn ni gwestiynu'r feddylfryd a'u gyrodd nhw i Irac yn y lle cynta, ond nid y gwaith ma nhw'n ei neud yno.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:40 pm
gan RET79
Chwadan: wrth gwrs rhaid cadw'r llywodraeth ar flaenau'n traed ond sylwer fod yr wrthblaid tu ol i'r llywodraeth ar y mater yma.

Dwi hefyd ddim yn meddwl fod y cyhoedd yn y sefyllfa gorau i farnu: rydym ni'n cael ei bwydo gan beth bynnag mae'r papurau am ei roi o'n blaen. Nid yw'r llywodraeth yn darllen y Daily Mirror i wneud eu penderfyniadau, mae lot o wybodaeth mae nhw'n ei gael yn gyfrinachol hefyd, felly dyw stwr gan y lleiafrif swnllyd (i.e. lefties y wlad), yn enwedig y rhai oedd ddim eisiau i ni fynd mewn yn y lle cyntaf, ddim yn cael lot o grediniaeth gen i.

Re: Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:44 pm
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:Mae'n drist gweld pobl ar y maes yn neidio ar unrhyw newydd drwg i America neu Brydain yn Irac (ie, y wlad mae Cymru'n rhan ohoni sydd hefo Cymry yn y fyddin) fel ryw fath o dystiolaeth fod hi wedi bod y penderfyniad anghywir i fynd yno.


Os oedd y perygl y gall pethau fel hyn ddigwydd yn un o'r rhesymau y gwrthwynebont y rhyfel, pam lai?

Roedd y penderfyniad yn un cywir.


Ac mae unrhyw un sy'n anghytuno yn ffôl.

Mae'n job anodd iawn rhoi trefn ar y wlad a cael cefnogaeth y bobl.


Wrth gwrs.

Dwi'n meddwl mai dyletswydd pobl Prydain yw dangos cefnogaeth i'r fyddin a cefnogi beth rydym yn trio ei wneud yno.


Dyletswydd i gefnogi? Pam? Oherwydd ein bod, trwy lwc, yn digwydd byw yma? Petai'r wladwriaeth yn dechrau rhyw ymgyrch nad wyt ti'n cytuno ag o, a fyset ti dal yn credu ei fod yn 'ddyletswydd' i'w chefnogi?

Eisoes rydym wedi gwneud ffafr enfawr hefo pobl Irac trwy gael gwared ar regime Saddam


Yden, gobeithio. Ond eto, amser a ddengys yn y pen draw.

ond mae lot o waith ar ol i'w wneud. Rydym wedi aberthu bywydau ac arian mawr yn Irac felly mae'n iawn ein bod yn aros yno i helpu roi'r wlad nol ar ei thraed er parch i'r aberthiad. Fuasai tynnu'r fyddin allan yn llanast.


Cytuno. Er fy ngwrthwynebiad i'r rhyfel o'r dechrau, ffôl fuasai tynnu allan rwan dybiwn i. Waeth trio gorffen y job yn iawn tra mae nhw yna.

Mae diffyg parch a ffydd rheiny ar y maes i'r fyddin a'r gwaith mae nhw'n ei wneud yn dweud cyfrolau am feddylfryd ffol ac anaeddfed y pobl yma.


Pwy yn union wyt ti'n cyfeirio atynt yn y fan hyn beth bynnag? Paid â bod yn swil; enwa enwau! ;)

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 6:50 pm
gan Dylan
Un straw man enfawr ydi dy ddadl di yn y fan hyn 'dw i'n meddwl, RET. Ti'n ceisio creu portread o'r bobl sy'n anghytuno â thi sydd ddim yn bodoli. Os nad wyt ti am enwi enwau wrth gwrs. :)

Wyt ti'n trio dweud bod y rhai a wrthwynebodd y rhyfel yn gorfoleddu bob tro mae rhywbeth anffodus yn digwydd yn Irác ac yn ei ddefnyddio fel buddugoliaeth yn erbyn y rhai oedd o blaid?

Re: Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:13 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:
Dwi'n meddwl mai dyletswydd pobl Prydain yw dangos cefnogaeth i'r fyddin a cefnogi beth rydym yn trio ei wneud yno.


Dyletswydd i gefnogi? Pam? Oherwydd ein bod, trwy lwc, yn digwydd byw yma?



Diar mi, mae hwn yn dweud cyfrolau. Plis dweda mae wind up yw hwn cyn i mi wastio amser yn trio dangos pa mor hurt yw siarad felma.

Re: Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:15 pm
gan Chwadan
RET79 a ddywedodd:Diar mi, mae hwn yn dweud cyfrolau. Plis dweda mae wind up yw hwn cyn i mi wastio amser yn trio dangos pa mor hurt yw siarad felma.

Dwi'm yn gweld pam basa fo'n "wind up" lly nei di egluro?

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:18 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Diar mi, mae hwn yn dweud cyfrolau. Plis dweda mae wind up yw hwn cyn i mi wastio amser yn trio dangos pa mor hurt yw siarad felma.


Felly dylen ni gefnogi llywodraeth y wlad beth bynnag mae nhw'n ei wneud? Felly os fysai'r BNP yn cymeryd drosodd a banio pawb sy' ddim yn wyn o'r wlad, fysa ti'n dal yn gefnogol? Hmmm, efallai fy mod i'n gofyn i'r person anghywir. :ofn:

Re: Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:18 pm
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:Diar mi, mae hwn yn dweud cyfrolau. Plis dweda mae wind up yw hwn cyn i mi wastio amser yn trio dangos pa mor hurt yw siarad felma.


?

'Swn i ar wind-up 'swn i'n gwneud un lot gwell na hwn. 'Dw i wedi dy golli di'n llwyr. 'Does dim 'dyletswydd' o gwbl cyn belled y mae'r wladwriaeth o dan sylw.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:20 pm
gan Dylan
Diddorol gweld dy fod wedi dileu'r frawddeg ganlynol o'r dyfyniad, hefyd.