Tudalen 2 o 7

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:24 pm
gan RET79
Mae'n ddatganiad mor anyhygoel o wirion dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau. Rhywun arall isio go? Pogon?

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:27 pm
gan Dylan
Tyrd oddi ar y bocs sebon anferth 'na ac eglura i ni gyd beth sydd ar dy feddwl.

'Dw i'n trio meddwl pam yn union ti wedi weindio gymaint. Wyt ti'n mynd i drio dweud 'mod i ddim yn malio o gwbl beth sydd yn digwydd i'r milwyr? Dy reswm am eu 'cefnogi' (sut bynnag mae gwneud hynny - pobi teisennau a chwifio fflagiau?) 'dw i wedi anghytuno ag o, cofia.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:27 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Mae'n ddatganiad mor anyhygoel o wirion dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau. Rhywun arall isio go? Pogon?


Heh, yr hen dric. Cyfieithiad: Dwi'm yn siwr be iw ddweud felly well i mi basio'r geiniog.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:30 pm
gan RET79
Dwi'n mynd i rywle arall i gael trafodaeth hefo pobl sydd hefo syniad gwell o sut mae'r byd ma'n gweithio. Hwyl.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:33 pm
gan Dylan
Eh? RET bach, 'dw i o ddifri. 'Dw i isio ateb.

Re: Meddylfryd ffol

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:36 pm
gan eusebio
RET79 a ddywedodd:Mae diffyg parch a ffydd rheiny ar y maes i'r fyddin a'r gwaith mae nhw'n ei wneud yn dweud cyfrolau am feddylfryd ffol ac anaeddfed y pobl yma.


Wir yr?
Ydi mae'r fyddin yn gwneud swydd anodd iawn, ond nid eu lle nhw ydi ceisio ailadeiladu Iraq.
Oeddet ti'n gwybod mai o'r holl uchel swyddogion Americanaidd gafodd eu gyrru i Iraq i geisio ailadeiladu'r wlad, mai dim ond 3 oedd yn siarad Arabaidd :ofn:

Mae'r straeon sydd yn dod allan o Camp X-Ray ym Mae Guantanamo yn erchyll, ac os ydynt yn gwneud pethau mor ofnadwy mor agos i adref nid yw'n fawr o syndod yr hyn rydym yn glywed o Iraq.

Beth am y parti priodas gafodd ei fomio - gyda'r Uwch swyddog Americanaidd yn gwrthod ymddiheuro gan honni eu bod wedi lladd nifer o ddynion o oed milwrol ... onid dyma'r bobl maent i fod yn achub rhag Sadam?

A ti'n gofyn pam nad oes gen i ffydd yn y bobl yma ...?

A rydym ni i fod i gefnogi'r llywodraeth â'i benderfyniadau dim ots be?
A beth yw'r ots os yw'r wrthblaid yn cefnogi'r llywodraeth?
Mae gen i farn bersonol a fy hawl mewn cymdeithas ddemocrataidd yw ei leisio.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:44 pm
gan Dylan
'Dw i'n aros fan hyn am ateb. Ti gododd y peth RET felly elli di ddim dianc mewn sterics heb egluro dy hun. Ddim ateb pogon 'dw i isio, ond dy ateb di.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:50 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:Un straw man enfawr ydi dy ddadl di yn y fan hyn 'dw i'n meddwl, RET. Ti'n ceisio creu portread o'r bobl sy'n anghytuno â thi sydd ddim yn bodoli. Os nad wyt ti am enwi enwau wrth gwrs. :)


Nonsens a malu cachu.

Dylan a ddywedodd:Wyt ti'n trio dweud bod y rhai a wrthwynebodd y rhyfel yn gorfoleddu bob tro mae rhywbeth anffodus yn digwydd yn Irác ac yn ei ddefnyddio fel buddugoliaeth yn erbyn y rhai oedd o blaid?


Wrth gwrs fod nhw. Hefo'r holl nonsens ti wedi ei siarad yn barod yn y drafodaeth yma, synnwn i ddim dy fod yn anghytuno hefo hyn. Ond dwi ddim am wastraffu fy amser yn trafod hefo pobl sydd yn siarad gymaint o nonsens, beth dwi'n gael allan o'r peth?

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:52 pm
gan eusebio
RET79 a ddywedodd: Ond dwi ddim am wastraffu fy amser yn trafod hefo pobl sydd yn siarad gymaint o nonsens, beth dwi'n gael allan o'r peth?


:?

Chdi gododd y blydi pwnc - alli di ddim rhedeg oma heb ateb y cwestiynau dilys sydd wedi eu codi - Cylch Trafod ydi hwn nid Cylch Rhedeg I Ffwrdd Gan Fod Pawb Yn Anghytuo Efo Fi

:P

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 7:55 pm
gan Dylan
Dim y dyfyniadau yna 'dan ni yn eu trafod. I dy atgoffa, est yn bananas oherwydd hwn:

Dyletswydd i gefnogi? Pam? Oherwydd ein bod, trwy lwc, yn digwydd byw yma?


gan ddileu'r frawddeg ganlynol. Felly, elli di esbonio? Ti gododd y blydi peth felly paid â thrio newid y pwnc!

Mae'r tactegau osgoi yma bron yn ddoniol, ond mae nhw'n eitha' rhwystredig i mi achos mae'r llyfrgell 'ma'n cau ymhen ychydig a hoffwn wybod cyn mynd beth yn union ydi'r drosedd enfawr yma yn erbyn rhesymeg 'dw i wedi'i gyflawni.